- £501 per week
- £72 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Ty prydferth, modern ym mhentref hardd, hanesyddol Pennal, de Eryri. Lleoliad gwych rhwng hen brifddinas Cymru, Machynlleth, ac Aberdyfi; pentref Glan-y-môr prydferth â thraeth hir o dywod lle mae Afon Dyfi yn cwrdd â dyfroedd gleision Bae Ceredigion. Mae'r llety gwyliau hwn yn Eryri yn cynnig pob cysur a chyfleuster ar gyfer gwyliau o ymlacio moethus. Mwynhewch yr ystafelloedd helaeth, yr amgylchfyd gwledig a balconi'r ystafell wely ar gyfer coffi yn y bore neu wydraid o win gyda'r nos.
Llawr Gwaelod
Mae'r llawr gwaelod cynllun agored mawr yn cynnwys lolfa, lle bwyta a chegin. Mae yno hefyd ystafell ar wahân gyda basn ymolchi a thy bach.
Mae'r gegin fodern gyda'r holl gyfleusterau yn cynnwys ffwrn ddwbl drydan, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, microdon, peiriant golchi dillad a bar brecwast.
Mae lle i chwech wrth y bwrdd bwyd sydd mewn cornel hyfryd o flaen y drysau patio, yn edrych allan ar yr ardd.
Ar ôl pryd da o fwyd, ewch draw at y lolfa i eistedd o flaen arwedd tân dymunol, modern, teledu mawr a chwaraewr DVD. Mae'r drysau patio triphlyg ar hyd blaen yr ystafell yn golygu y gallwch fwynhau'r olygfa eang a chael profiad bendigedig o'r lle, a hynny o gysur eich soffa ledr foethus.
Llawr Cyntaf
I fyny'r grisiau yn y llety hunan ddarpar hwn yn Eryri mae tair ystafell wely fawr a helaeth (dwy ystafell ddwbl ac un ystafell twin) ac ystafell ymolchi deuluol.
Mae'r ystafell ddwbl gyntaf wedi ei dodrefnu'n hyfryd ac mae drysau patio yn arwain at falconi sy'n wynebu'r de lle mae bwrdd a chadeiriau i fwynhau'r haul drwy'r dydd.
Mae'r ail ystafell ddwbl fawr yn cynnwys ystafell gawod ensuite gyda chawod ddwbl, basn ymolchi a thy bach.
Mae'r drydedd ystafell yn cynnwys dau wely sengl cyfforddus a dodrefn ystafell wely.
Mae'r ystafell ymolchi deuluol yn cynnwys bath gyda chymysgydd, cawod ar wahân, basn ymolchi, ty bach a rheilen gynnes i ddal tywelion.
Gardd
Lawnt laswelltog gyda dodrefn gardd, a heddwch cefn gwlad yn fôr o'i chwmpas.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwres canolog olew a thrydan yn gynwysedig
Dillad gwely (gobenyddion a charthenni gwrth-alergedd), tywelion a llieiniau sychu llestri’n cael eu darparu.
Cot, cadair uchel a choets yn cael eu darparu ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
Casgliad o DVDs, gemau, jig-sos a llyfrau ar gyfer gwesteion
Wifi ar gael
Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu yn y ty
Caiff y canlynol eu darparu ar gyfer eich arhosiad... tabledi i’r peiriant golchi llestri, hylif golchi llestri, papur cegin, ffoil a phapur toiled.
Bwrdd a haearn smwddio a basged picnic yn cael eu darparu.
Lle parcio i ddau gar.
Mae Ty Talcen yn sownd i fwthyn Ty Pellaf a gellir archebu’r ddau fwthyn yr un pryd i gysgu hyd at 12 person.
Pecyn croeso sy'n cynnwys te, coffi, llaeth, siwgr a photel o win.