- £426 per week
- £61 per night
- 5 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae'r bwthyn gwyliau hwn yn y Bermo yn cynnig golygfeydd o'r môr ac ystod eang o atyniadau a gweithgareddau ar garreg y drws. O draethau baner las a theithiau cerdded bythgofiadwy i drenau stêm, teithiau cwch a rownd o golff yng ngolwg y castell a'r môr, mae Beudy Gwenoliaid yn cynnig popeth. O fewn pellter cerdded at y traeth, ac ar hyd y traeth i Bermo ei hun, gyda'i ystod eang o fwytai, siopau, tafarndai ac atyniadau glan-môr eraill.
Llawr Gwaelod
Mae llawr gwaelod y bwthyn gwyliau hwn yn cynnwys dwy ystafell wely, ystafell ymolchi, a'r cyntedd yn arwain at y prif le byw ar y llawr cyntaf.
Mae'r ystafell wely gyntaf yn cynnwys gwely dwbl, cwpwrdd dillad a byrddau wrth ochr y gwely gyda lampau.
Yn yr ail ystafell wely mae gwely dwbl a gwely sengl, cwpwrdd dillad, byrddau wrth ochr y gwelyau, lampau a ffenestri mawr yn edrych allan dros y buarth.
Ystafell ymolchi hyfryd gyda bath maint llawn a chawod uwch ei ben, basn ymolchi a thy bach.
Llawr Cyntaf
Mae'r lle byw a'r patio i gyd ar y llawr cyntaf er mwyn gwneud y gorau o'r golygfeydd hyfryd o'r môr. Mae'r llawr pren hyfryd, y trawstiau agored a'r ffenestri yn y to yn rhoi teimlad agored a golau iawn i'r rhan hon.
Cynllun agored sydd i'r cyfan. Mae un hanner yn cynnwys cegin â'r holl gyfleusterau (gan gynnwys peiriant golchi llestri, microdon, ffwrn, oergell a rhewgell) ac ardal fwyta.
Mae dwy soffa ledr a theledu mawr yn eich gwahodd drwodd i'r lolfa glyd. Ym mhen draw'r lolfa mae drysau patio yn arwain at y lle patio trawiadol. Yn ystod y dydd, mae'n sicr yn werth gadael y drysau patio hyn yn agored led y pen fel y gallwch fwynhau holl ehangder y bwthyn, o'r bwrdd bwyd yn un pen, drwodd at fwrdd yr ardd ar y pen arall.
Gardd
Mae golygfeydd syfrdanol i'w gweld o'r patio. Caeau gwyrddlas yn arwain at bennau'r mynyddoedd y tu ôl i chi, a'r môr o'ch blaen. Llecyn hollol ryfeddol lle byddwch yn sicr o golli pob syniad o amser.
Gwybodaeth Ychwanegol
Te, Coffi, Siwgr, Llaeth a Chacen wrth i chi gyrraedd.
Dillad gwely a thywelion dwylo a bath yn gynwysedig.
Mae modd darparu cot, cadair uchel a gât ar gyfer y grisiau os bydd cais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
Trydan a gwres canolog yn gynwysedig yn y pris.
Lle parcio preifat ar gyfer 2 car y tu allan i'r bwthyn.
Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn.
Gemau a gwybodaeth ynghylch pethau i'w gwneud yn lleol yn y bwthyn.
Ystafell olchi dillad wedi'i rhannu, gyda pheiriant golchi dillad awtomatig a sychwr dillad