Hafod

Barmouth, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Bwthyn hunan ddarpar hardd i 4 yn Abermaw gyda twb poeth preifat. Ymlaciwch a mwynhewch y lleoliad syfrdanol ar arfordir Gogledd Cymru gyda golygfeydd o fynyddoedd Eryri.

You can book this property from:

  • £596 per week
  • £85 per night
  • 5 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Twb poeth
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 ystafell ymolchi
  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 14:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Bwthyn hunan ddarpar hardd i 4 yn Abermaw gyda twb poeth preifat. Ymlaciwch a mwynhewch y lleoliad syfrdanol ar arfordir Gogledd Cymru gyda golygfeydd o fynyddoedd Eryri. O fewn pellter cerdded i draeth hir tywodlyd, mae'r bwthyn hwn yn sefyll ar ben ei hun gyda gardd gaeedig, 0.7 milltir o bentref Tal-y-bont gyda'i dafarn bentref, siop a bwyty. Ymunwch â'r Llwybr Arfordirol o stepen eich drws, ymwelwch â'r siopau bach gwahanol, bwytai a chaffis yn Abermaw, a darganfyddwch Portmeirion a Castell Harlech, Safle Treftadaeth y Byd - i gyd o fewn ychydig filltiroedd. 

Llawr Gwaelod

Lolfa - yn arddull tŷ fferm traddodiadol Cymreig gyda lloriau derw a gwres o dan y llawr. Soffa a chadeiriau lledr i eistedd 4 o flaen teledu 50" gyda Freeview a pentân sy'n cynnwys basged gyda fflam a mwg ffug. Golygfeydd o Moelfre gerllaw - rhan o gadwyn mynyddoedd Rhinog, ac hefyd Eryri yn y pellter.

Ystafell haul - mynediad drwy ddrysau Ffrengig o'r lolfa, mae'r ystafell ymlaciol hon yng nghefn y bwthyn yn cynnig golygfeydd panoramig o gadwyn mynyddoedd Rhinog sydd yn rhedeg yn gyfochrog â'r arfordir tuag at Abermaw yn y De. Soffa a chadeiriau cansen gyda byrddau bach a drysau Ffrengig eraill yn arwain allan i'r teras ble lleolir y Twb Poeth, barbaciw carreg (gellir ei ddefnyddio hefyd i losgi coed) a dodrefn gardd. Mae'r ystafell haul a'r teras, sy'n wynebu'r De, yn edrych allan ar berllan fach ac yng ngwyneb yr haul drwy'r dydd o'r peth cyntaf yn y bore. 

Cegin ac ardal fwyta - mynediad drwy'r ystafell haul neu'r cyntedd, mae'r gegin hefyd wedi ei lleoli yng nghefn y bwthyn ac yn edrych allan ar y berllan a'r mynyddoedd ar y gorwel.  Fe geir yr holl offer angenrheidiol yn y gegin yn cynnwys oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, meicrodon, popty a hob ceramig, yn ogystal â pheiriant golchi dillad. Bwrdd bwyta derw o ble y gellir mwynhau'r golygfeydd drwy ffenest fawr.

Ystafell gawod gyda chawod ddwbwl fawr, toiled a basn.

Llawr cyntaf

Grisiau derw yn arwain i'r llawr cyntaf ble lleolir yr ystafelloedd gwely a'r ystafell ymolchi.

Ystafell wely 1 - ystafell helaeth gyda gwely dwbwl derw, teledu ar y wal, byrddau bach ger y gwely a chypyrddau dillad. Golygfeydd i'r Gogledd ar un ochr ac i'r De, Dwyrain a'r Gorllewin o'r ffenest yn y cefn. Mae'r golygfeydd hyn yn ymestyn o gadwyn mynyddoedd y Rhiniog i Cader Idris yn y De ac ar draws y bae tuag at Tŷ Ddewi.

Ystafell wely 2 - ystafell gyda 2 wely sengl derw a theledu ar y wal, byrddau bach ger y gwely a chwpwrdd dillad. Golygfeydd dros y caeau gyda Penrhyn Llŷn ar y gorwel.

Ystafell ymolchi - cawod ddwbwl fawr, toiled a 2 basn. Golau naturiol o ffenestri Velux yn y to.

Gardd

Mae patio a gardd gaeedig yn y bwthyn hunan ddarpar hwn yn Abermaw. Twb poeth preifat gyda soffa a chadeiriau rattan, bwrdd a barbaciw wedi ei adeiladu o gerrig ffug - gellir ei ddefnyddio ar gyfer coginio siarcol neu fel llosgwr coed. Fe gyflenwir yr holl danwydd angenrheidiol. Mainc bren yn y berllan i fedru mwynhau golygfeydd o fynyddoedd Eryri.

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi a siwgwr, cacen gartref a chyffaith wedi ei wneud yn lleol  
  • Gwres dan y llawr a thrydan yn gynwysedig  
  • Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig   
  • 1 sychwr gwallt ar gael    
  • Wifi ar gael
  • Coed yn gynwysedig ar gyfer y llosgwr coed tu allan   
  • Dim ysmygu tu mewn y llety   
  • Croesewir hyd at 2 anifail anwes am ddim - gadewch i ni wybod pan yn archebu 
  • Parcio tu mewn i gatiau i hyd at 2 gar   
  • Eitemau ychwanegol yn cynnwys:
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil a ffilm glynu  
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled   

Location