- £671 per week
- £96 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Ffermdy 5 seren diarffordd yng Nghanolbarth Cymru, gyda twb poeth. Wedi ei adnewyddu yn steilus gydag addurniadau a dodrefn modern a moethus, mae’r bwthyn yn leoliad ardderchog i ymlacio a mwynhau. Gellir mwynhau llonyddwch cefn gwlad neu ddarganfod y gweithgareddau awyr agored sydd yn cael eu cynnig yn yr ardal: mae rhain yn cynnwys teithiau cerdded a beicio braf, pysgota a gwylio adar. Mae yna hefyd dafarn leol o fewn taith gerdded fer.
Dalier sylw * i archebu’r bwthyn hwn fe fydd yn rhaid ein galw ar 01650 511101
Llawr Gwaelod
Cegin fodern gyda lle i fwyta, yn cynnwys popty mawr, meicrodon, oergell/rhewgell llawn maint, a nifer o offer cegin ychwanegol megis peiriant coffi, prosesydd bwyd a slow cooker. Bwrdd bwyta derw gyda lle i 6 eistedd.
Ystafell fyw gyda stôf goed drydan o fewn lle tân nodweddiadol, soffas lledr cyfforddus ar gyfer 6 a theledu HD mawr gyda freeview, CD/radio gyda chysylltiad Bluetooth ar gyfer cerddoriaeth. Drysau patio yn agor allan i dec gyda twb poeth moethus, ac yna i’r ardd.
Ystafell iwtiliti gyda basn, peiriannau golchi a sychu dillad, a lle i storio dillad ac offer cerdded.
Ystafell wlyb gyda cawod, basn a thoiled.
Llawr Cyntaf
Llofft 1 - 1 gwely superking gyda teledu ar y wal, a golygfeydd anhygoel o gefn gwlad
Llofft 2 - 2 wely sengl (gellir eu rhoi at ei gilydd i wneud gwely superking os dymunir) gyda teledu ar y wal a golygfeydd cyffelyb
Llofft 3 - 1 gwely dwbwl pedair troedfedd (y lleiaf o’r tair llofft), teledu ar y wal
Ystafell ymolchi gyda baddon crwm, cawod dros y baddon, basn a thoiled
Gardd
Mae’r ardd fawr sydd i’r cefn ac ochr y bwthyn wedi ei chau i mewn gan ffens bren, gyda graean, lle i barcio, dec mawr ac ardal wedi ei slabio, dodrefn rattan a chadeiriau i orwedd yn yr haul, parc chwarae i blant, a thwb poeth trawiadol gyda golygfeydd anhygoel ar draws y dyffryn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso wrth gyrraedd
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Gwn baddon a chynnyrch ymolchi moethus ar gael ym mhob ystafell wely
- Trydan a gwres canolog yn gynwysedig
- Cadair uchel a chot teithio ar gael os dymunir - rhaid dod â dillad eich hun i’r cot
- Wi-fi am ddim
- Barbeciw ar y safle ond bydd yn rhaid talu £30 o flaendal ad-daliedig ar ôl cyrraedd er mwyn ei ddefnyddio
- Mae’r canlynol hefyd wedi eu darparu ar eich cyfer -
- Cegin - halen a phupur, hylif golchi llestri/tabledi i’r peiriant golchi llestri, clytiau sychu fyny, ffoil a haenen glynu (cling film)
- Ystafell ymolchi - cynnyrch ymolchi moethus yn cynnwys sebon dwylo, ac 1 rolyn papur toiled ar gyfer pob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol - bleach, glanhawr cawod, chwistrellwr gwrthfacteria ayb
- Ni chaniateir anifeiliad anwes nac ysmygu y tu mewn ar unrhyw gyfri
- Mae digon o le i hyd at 4 car barcio
- Fe fydd y bwthyn yn cael ei addurno ar gyfer y Nadolig. Gellir hefyd archebu twrci ffres os dymunir
- Fe geir cludiant i’r bwthyn gan archfarchnadoedd Asda a Tesco - mae’r perchennog yn fodlon derbyn y nwyddau cyn i chi gyrraedd gyda threfniant ymlaen llaw
- Mae’r perchennog yn gosod blodau a gellir archebu rhai os dymunir
- Sylwer - *i archebu’r bwthyn fe fydd yn rhaid i chi ffonio 01650 511101 (yn hytrach na drwy’r wefan)