- £322 per week
- £46 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae bwthyn gwyliau Y Rhosyn yn mwynhau golygfeydd gwledig godidog. Wedi ei leoli mewn nefoedd i fywyd gwyllt, ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gyda gwarchodfa natur gerllaw, mae’n ddelfrydol ar gyfer gwyliau yn cerdded Canolbarth Cymru ac yn lleoliad perffaith i fwynhau a gorffwyso yng nghefn gwlad neu i ddarganfod y Clawdd Offa ac ardal y Gororau.
Wedi llwyddo i gael y safon uchaf mewn cynaladwyedd mae’r bwthyn yn enillwr y Green Tourism Gold Award ac mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith gyda’r ardal a’r digonedd o fywyd gwyllt sydd o’i gwmpas. Gwelwyd yn ddiweddar o’r bwthyn, deulu o ddyfrgwn ac yn anhygoel y cenawon yn crwydro o amgylch glan yr afon a moch daear.
Llawr Gwaelod
Ystafell Haul - Golygfeydd panoramig gwych ar hyd Dyffryn Tefeidiad. Mae yna ddrysau patio anferth yn arwain allan ar y balconi gan ei wneud yn llecyn perffaith i orffwyso a gwylio’r bywyd gwyllt neu fwynhau’r olygfa. Ceir gwres o dan y llawr yn yr ystafell, yn ogystal â chwaraewr VHS ag amrywiaeth o raglenni bywyd gwyllt a phlant i’w gwylio.
Lolfa - Mae’r lolfa hon yn berffaith ar gyfer gorffwyso o flaen y tân ac mae yna deledu, DVD a chasgliad eang o lyfrau a gwybodaeth leol y mae croeso i ymwelwyr eu mwynhau. Mae yna soffa sydd yn eistedd dau a dwy gadair gyda chefn uchel, stôf llosgi coed a darperir rhywfaint o logiau.
Cegin - Cwbl gyfarparedig gyda phopty trydan, microdon, golchwr llestri, oergell, rhewgell, popty araf, a thostiwr. Mae yna lawer o offer coginio a llyfrau cogion yn ogystal ar gael.
Llawr cyntaf
Ystafell wely ddwbl - ystafell las ddel, gyda chwilt clytwaith cartref hen ffasiwn dros y gwely dwbl. Dau gabinet ar bob ochr i’r gwely gyda droriau a lampau ochr gwely uchel. Cwpwrdd dillad dwbl, cadair a chist ddroriau gyda drych wal mawr uwchben. Wedi ei garpedu drwyddo gyda rygiau ychwanegol cysurus os ydych yn droednoeth. Edrych dros gae’r defaid a Beacon Hill.
Ystafell wely twin - lliw pinc ysgafn gyda dau wely sengl 3’, lampiau ochr gwely a byrddau ochr gwely a chadair. Cist ddroriau gyda drych hir uwchben a lamp fwrdd. Wedi ei garpedu drwyddo gyda rygiau ychwanegol cysurus os ydych yn droednoeth. Edrych dros gae’r defaid a Beacon Hill.
Ystafell ymolchi - ystafell ymolchi wen, gyda chawod drydan uwchben. Pwynt eillio a drych eillio, drych hir a chabinet. Golygfeydd dros y bryniau ac i lawr at yr afon.
Gardd
Mae’r ardd yn cynnwys dodrefn patio, ac mae’n hafan i fywyd gwyllt, wedi ei dylunio’n fwriadol i hybu pryfetach, mamaliaid ac adar. Mae yna risiau o’r balconi i’r ardal uwch i lawr i’r ardd a’r ddôl islaw ac mae’r ardd hefyd yn ffinio gyda’r afon lle y mae croeso i ymwelwyr fynd i drochi eu traed ar ddiwrnod poeth.
Mae ymwelwyr gwyllt i’r ardd yn cynnwys dyfrgwn a moch daear, tra ymhlith yr adar y’i gwelir yn eu tymor mae’r boncath, y barcud, delor y cnau, y dringwr bach, y telor penddu, yr hwyaden ddanheddog, y gwybedog brith, siglen lwyd, bronwen y dwr yn ogystal ag adar adnabyddus eraill yr ardd.
Gwybodaeth ychwanegol
Teledu yn cynnwys sat am ddim a BT chwaraeon.
Dillad gwely a thywelion llaw yn gynwysedig.
Tywelion bath ar gael am £5 y person (yn daladwy wrth gyrraedd ond nodwch wrth archebu os gwelwch yn dda).
Caniateir 2 gi maint cymhedrol, £15 yr un. Bowleni, tywel ci, bagiau baw cŵn ac un gwely ci ar gael.
Gwres canolog drwyddo draw.
Darperir sychwr gwallt.
Darperir cot teithio , ond dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Darperir cadair uchel a giât ddiogel i blant.
Dim ysmygu.
Man parcio y tu allan i’r bwthyn a mwy o le parcio ar ochr y ffordd gerllaw.
Gellir sicrhau cynnyrch groser lleol cyn i chi gyrraedd ar gais.
Gellir cael nwyddau wedi eu cludo o archfarchnadoedd Tesco a Sainsbury.
Nodwch mai dim ond drwy rhai rhwydweithiau y ceir signal ffôn. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio gyda’ch darparwr os ydy signal yn angenrheidiol. Mae yna hefyd ffôn ar gael yn y bwthyn.
Mae’r eitemau canlynol yn cael eu darparu ar gyfer eich arhosiad yn y bwthyn;
Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri, llieiniau llestri, sgwriwr, ffoil a cling film.
Ystafell ymolchi: sebon dwylo a dau doiled rôl.
Cynnyrch glanhau cyffredinol: bleach, golchwr cawod, chwsitrellydd gwrthfacteria a.y.b.