- £391 per week
- £56 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Bwthyn gwyliau un llawr hyfryd yw Cysgod-y-coed gyda chyfleusterau i'r anabl, 2 filltir o dref Llanfair-ym-muallt yng Nghanolbarth Cymru. Fe’i hamgylchynir gan 60 acer o dir amaethyddol braf ac o fewn pellter cerdded i bentref hanesyddol Cilmeri (tafarn draddodiadol a gorsaf drên). Agos i Faes y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd, Argloddiau Cwm Elan a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bwytai da yn yr ardal yn gweini bwydydd lleol.
Llawr Gwaelod
Ystafell agored yn cynnwys cegin a lolfa. Y gegin yn cynnwys popty trydan a hob, oergell/rhewgell, microdon, bwrdd a chadeiriau.
Mae’r lolfa yn cynnwys dwy soffa, dwy gadair, teledu a DVD.
Dwy ystafell wely gyda chypyrddau dillad, un gyda gwely dwbl a’r llall gyda dau wely sengl, ac ystafell ymolchi yn cynnwys cawod.
Gardd
Mae’r ardd yng nghefn y bwthyn yn edrych allan dros y caeau. Ceir patio o flaen y bwthyn hefyd. Set barbeciw ar gael hefyd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ceir tri bwthyn gwyliau ar y safle a gellir cysylltu'r rhain i gyd i greu un bwthyn mawr sy’n cysgu hyd at 19. Delfrydol ar gyfer teuluoedd a grwpiau mawr.
Ystafell golchi/sychu dillad i’w rhannu gyda’r bythynnod eraill yn cynnwys peiriant golchi, sychwr a sinc.
Croesewir anifeiliaid anwes - uchafswm o 2 gi (i un bwthyn). Ffi fechan o £20 am yr wythnos a £10 am arhosiad byr (taladwy i’r perchennog wrth gyrraedd).
Darperir dillad gwely a thywelion.
Gwres a thrydan yn gynwysedig.
Uwchfarchnadoedd yn trosgludo - mae Tesco, Asda a Sainsbury's yn trosgludo i'r bwthyn.