
Bwthyn hunan ddarpar ysbrydoledig ar ben clogwyn ger Llangrannog, gyda golygfeydd anhygoel o'r môr.
- £1,444 per week
- £206 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Dringo
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Sorry, children (aged between 2 and 17) are not allowed at this property
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Bwthyn hunan ddarpar ysbrydoledig ar ben clogwyn ger Llangrannog, gyda golygfeydd anhygoel o'r môr. Wedi ei raddio yn 5*, mae'r holl lety wedi ei gynllunio i edrych allan dros y cefnfor gyda ffenestri mawr a chynllun agored. Mae llwybr arfordirol Cymru Gyfan yn pasio o dan y bwthyn ac mae nifer o draethau gerllaw. Medrwch eistedd tra'n edrych allan ar y dolffiniaid yn nofio a chwarae ym Mae Ceredigion. Gellir hefyd astudio'r mamaliaid hudolus hyn i fyny'n agos, neu edrych ar yr adar a'r bywyd gwyllt drwy ddefnyddio'r telesgop a'r ysbienddrych sydd at eich defnydd yn y llety. Mae llawer o westeion yn hoffi aros yn y llety i fwynhau'r olygfa, ond mae nifer o lefydd gwych i ymweld â nhw a pethau i'w gwneud os ydych yn dymuno dod i adnabod yr ardal.
Ni chaniateir i blant aros yn y llety hwn.
Llawr gwaelod
Cynllun agored sydd yn sicrhau eich bod yn medru gweld y môr o'r lolfa, cegin, ardal fwyta a'r brif lofft. Mae system sain 'bluetooth' ar gael drwy'r adeilad.
Lolfa helaeth gyda stôf goed siâp silindr, soffas cyfforddus, teledu, telesgop, ysbienddrych, a ffenestri mawr i fedru mwynhau golygfeydd syfrdanol o'r môr.
Fe geir yr holl offer angenrheidiol yn y gegin gan gynnwys oergell/rhewgell maint llawn, peiriant golchi llestri, popty a hob trydan, meicrodon, bar brecwast a stolion.
Ardal fwyta gyda bwrdd a chadeiriau i 6 o bobl.
Ystafell wely 1 - mae'r brif lofft wedi ei sgrînio i ffwrdd o'r ardal agored ac mae'n cynnwys gwely king, storfa a chadair i ymlacio a mwynhau'r olygfa.
Ystafell ymolchi ensuite gyda baddon, uned gawod, toiled a basn.
Ystafell wely 2 - ystafell king, ffenestr yn y to, a cwpwrdd dillad. Mae'r llofft hon yng nghefn y llety.
Prif ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.
Ystafell iwtiliti gyda peiriant golchi a sychwr dillad.
Cyntedd yn cynnig mynediad mawreddog i bob rhan o'r tŷ.
Tu allan
Fe geir gardd ar y to yn y tŷ unigryw hwn, gyda bwrdd picnic a twb poeth preifat - y lle delfrydol i ymlacio a mwynhau coffi yn y bore neu lasied o wîn gyda'r nos.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Tywelion yn gynwysedig ond dowch a'ch tywelion eich hun ar gyfer y traeth
- Mae'r llety hwn gyda cyflenwad dwr ei hun sy'n cael ei brofi a'i ffiltro
- Dim ysmygu
- Dim anifeiliaid anwes
- Wifi ar gael
- Gellir prynu coed ychwanegol i'r stôf ar gost o £5.00 y bocs
- Parcio y tu allan ar gyfer 2 gar
- Mae'r canlynol yn cael eu darparu ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri. Ystafell ymolchi: sebon dwylo a dau rolyn o bapur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Ni chaniateir i blant aros yn y llety hwn gan ei fod ar ben clogwyn a gall fod yn beryg iddynt
Location
Dyma fwthyn gwyliau sydd yn sefyll ar ben ei hun ac wedi ei adeiladu i mewn i'r clogwyn. Mae'r bwthyn yn ddiarffordd ac wedi'i amgylchynu gan 52 acer o dir fferm. Mae llwybr Arfordirol Cymru yn pasio o dan y bwthyn a gelir ymuno gyda'r llwybr a cherdded i draethau Llangrannog neu Cwmtydu. Mae Llangrannog yn bentref bach arfordirol braf gyda thafarndai lleol gwych a thraeth addas ar gyfer yr holl deulu. Mae Canolfan Weithgareddau yr Urdd yn Llangrannog sydd yn cynnig sgîo, beicio pedair olwyn a llawer mwy.
Ar ôl gwylio'r dolffiniaid yn y bae, gellir mynd hyd yn oed yn nes i'r creaduriaid rhyfeddol hyn drwy archebu trip ar long o harbwr Cei Newydd. Mae Cei Newydd yn dref fach arfordirol ddarluniadwy gydag ystod o siopau, tafarndai a bwytai. Fe geir nifer o draethau gwych yn yr ardal gan gynnwys Tresaith, Aberporth a Penbryn - gellir eu cyrraedd i gyd ar droed neu daith fer yn y car. Gellir treilio diwrnod cyfan yn Nhresaith - pentref hardd arall gyda traeth tywodlyd, wedi ei leoli 8 milltir i'r de.
Un o'r teithiau cerdded mwyaf syfrdanol yn yr ardal ydy'r un o amgylch pentir Ynys Lochtyn (yn berchen i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ac i lawr i bentref Llangrannog, heibio i draeth Cilborth. Os ydy'r llanw allan, dyma gyfle gwych hefyd i ddarganfod yr wyth bae ar hyd arfordir Llangrannog. Mae atyniadau a gweithgareddau eraill yn yr ardal yn cynnwys syrffio a bordio yn Llangrannog a Bae Cilborth, Clwb Golff Cwmrhydneuadd, Parc Fferm Arfordirol Ynys Aberteifi, Canolfan Goedwig Law Felinwynt, a Chanolfan Fêl Cei Newydd.
Cerdded
Mae Llwybr Arfordirol Cymru a Llwybr Arfordir Ceredigion yn pasio o dan y bwthyn (0.1 milltir)
Traethau
Traeth Llangrannog - traeth cysgodol poblogaidd gyda 2 dafarn, bwytai, caffi ayb yn y pentref gerllaw (1.5 milltir)
Traeth Cei Newydd - eang, tywodlyd, ac wedi ei gysgodi rhag y gwynt, mae'r traeth baner las hwn (Traeth yr Harbwr) yn boblogaidd iawn yn ystod misoedd yr haf (5 milltir)
Cei Bach - traeth hardd sydd dipyn tawelach na thraeth Cei Newydd (6 milltir)
Tresaith -wedi ei leoli mewn bae bach cysgodol enwyd ar ôl Afon Saith sydd yn byrlymu fel rhaeadr dros y creigiau i lawr i'r traeth. Lleoliad poblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr a hwylio (9 milltir)
Chwaraeon Dŵr
Llangrannog a Bae Cilborth - syrffio a bordio (2 filltir)
Gellir dewis un o'r canlynol o Chwaraeon Dŵr Ceredigion - hwylio dingi, cychod, syrffio gwynt, caiacio a mwy, gyda sesiynau byr a chyrsiau hirach ar gael sy'n addas ar gyfer pob lefel a gallu (5 milltir)
Golf
Clwb Golff Cwmrhydneuadd - cwrs golff 9 twll (3 milltir)
Clwb Golff Aberteifi - cwrs pencampwriaethol 18 twll yn mesur 6687 llath, Par 72 (15 milltir)
Marchogaeth
Marchogaeth yng Nghanolfan Urdd Llangrannog (1.5 milltir)
Pysgota
Gellir pysgota o'r lan o fewn pellter cerdded neu archebu tripiau pysgota ar gwch o Gei Newydd (5 milltir)