- £630 per week
- £90 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Hollol unigryw ac ysbrydoledig ac yn guddfan berffaith. Os ydych chi’n edrych am leoliad tawel â golygfeydd, sydd ymhell o bob dim, mae’r bwthyn gwyliau hyfryd a diarffordd hwn yn cynnig yr encil perffaith yng nghanol mynyddoedd y Cambria yng Nghanolbarth Cymru. Enillydd gwobr lletygarwch ‘Y croeso gorau yn Aber’ 2017.
Ychwanegiad Newydd Sbon i’r Wefan
Mae golygfeydd eang o’r mynyddoedd i’w gweld o bob ffenestr o’r eiddo hwn sydd wedi’i ailwampio’n drwsiadus. Hyd yn oed ar y ffordd i’r bwthyn, bydd Pumlumon, y mynydd uchaf o blith mynyddoedd y Cambria, yn dod i’r golwg. Nid oes yr un tŷ arall i’w weld, ac mae gwyliau yn Tŷ ar y Mynydd yn brofiad gwirioneddol ryddhaol lle gallwch fwynhau’r ardd fwyaf, o bosibl, yng Nghymru! Mae’n 8 milltir i ffwrdd o bentref Tal-y-bont gyda’i siop, tafarn a bwyty, ond eto mae’n fyd gwahanol i brysurdeb gwallgof bywyd modern. Os oes angen, gall y perchennog hefyd ddarparu mynediad i gerbyd 4x4.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw cynllun agored gyda stôf llosgi coed, soffas lledr, teledu Freesat, chwaraewr DVD a radio/chwaraewr CD. Ardal fwyta gyda golygfeydd o’r mynyddoedd, yn arwain at gyntedd bychan / ardal eistedd wrth flaen y tŷ sydd â golygfa anhygoel o’r mynyddoedd.
Mae popeth sydd ei angen arnoch chi i’w gael yn y gegin, gan gynnwys peiriant golchi llestri, ffwrn a microdon, oergell / rhewgell a pheiriant golchi dillad.
Ystafell ymolchi gyda chawod dros y bath, tŷ bach a basn ymolchi.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 – gwely dwbl, teledu ar y wal, a golygfeydd eang.
Ystafell wely 2 – gwelyau sengl, teledu a’r un olygfa â’r ystafell wely ddwbl.
Ystafell gwely bync, hefyd gyda theledu a golygfeydd o’r mynyddoedd.
Ystafell gawod gyda thŷ bach, rheilen cynhesu tyweli a basn ymolchi.
Gardd
Patio amgaeedig, teras, set barbeciw a dodrefn gardd wedi’u hamgylchynu gan olygfeydd 360 gradd o ucheldiroedd naturiol heb eu difetha. Dewch â’ch sbienddrych i wylio adar a mwynhau’r golygfeydd o’r mynyddoedd mawr, gan werthfawrogi’r tawelwch o’ch cwmpas. Gan nad oes llygredd golau yma, mae’n berffaith hefyd ar gyfer gwylio’r sêr.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Er gwybodaeth: mae llynnoedd ac afonydd yn yr ardd. Mae’r ffordd fynediad i’r eiddo yn addas ar gyfer cerbydau uchel neu gerbydau 4x4. Ar gyfer teuluoedd a chyplau yn unig, gall y perchennog ddarparu cerbyd 4x4 i’w ddefnyddio ar gais, i gael mynediad i’r tŷ, yn ôl yr angen.
- Pecyn i’ch croesawu pan gyrhaeddwch.
- Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.
- Trydan (paneli solar), nwy a gwres canolog nwy llawn yn gynwysedig.
- Stôf llosgi coed – tanwydd yn gynwysedig.
- Darperir cot teithio a chadair uchel ar gais.
- Wi-fi ar gael.
- 1 anifail anwes am ddim.
- Dim ysmygu y tu mewn.
- Digon o fannau parcio.
- Man storio ar gyfer beiciau ac ati.