- £615 per week
- £88 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r harbwr
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Parcio ar y stryd
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9am
Description
Lleoliad, lleoliad a digon o steil. Mae Pen Cei Apartment yn lety hunan ddarpar ar lawr cyntaf ac ail adeilad gydag un o'r lleoliadau gorau yn Aberaeron, tref fach hardd ar arfordir Gorllewin Cymru. Drws nesaf i westy eiconig yr Harbwrfeistr, tirnod enwog i'r dref a'r harbwr, mae'r ty 3 llawr hwn yn mwynhau golygfeydd anhygoel dros yr harbwr. Mae'r llety ei hun yn cynnig lleoliad steilus ble gellir eistedd nol ac ymlacio gyda paned da o goffi neu lasied o win tra'n edrych yn freuddwydiol ar y cychod yn siglo'n araf yn yr harbwr.
Mae tref Aberaeron, gyda'i chymeriad Sioraidd, yn cynnig dewis eang o fwytai a chaffis. I ddechrau, gellir cael coffi boreol drws nesaf yn yr Harbwrfeistr, yna pryd o fwyd ym Mwyty a Bar y Cellar, neu de prynhawn yn yr Hive ar y Cei. Mae traeth Aberaeron a Llwybr Arfordirol Cymru ar stepen y drws gyda golygfeydd ar hyd Bae Ceredigion, tra fod atyniadau'r dref, yn cynnwys nifer o siopau annibynnol gerllaw.
Mae digon i gadw'r teulu oll yn ddiddan, megis taith ar gwch i ddarganfod Arfordir Treftadaeth Bae Ceredigion. Ewch am dro 3km ar hyd llwybr yr hen drac rheilffordd i ymweld â phlasdy a gardd yr Ymddiriedaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, neu daith fer ar hyd yr arfordir i'r de i bentref Cei Newydd, i gael cip ar y dolffiniaid neu fwynhau diwrnod ymlaciol ar y traeth euraidd.
Llawr Cyntaf
- Lolfa/Ardal fwyta: Soffas cyfforddus, teledu Smart, bwrdd coffi a bwrdd bwyta gyda golygfeydd anhygoel dros yr harbwr.
- Cegin: Modern, gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty trydan a hob anwytho, peiriant golchi llestri ac oergell/rhewgell fach.
Ail Lawr
- Ystafell wely 1: Ystafell fawr gyda gwely maint king, teledu a golygfeydd i gefn y llety tuag at Aberystwyth ar hyd yr arfordir. Ystafell ymolchi ensuite gyda chawod wlaw, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
- Ystafell wely 2: Ystafell hardd arall gyda dau wely sengl, teledu a golygfeydd. Ystafell ymolchi ensuite gyda chawod wlaw, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Tu Allan
Mainc tu allan y llety ble gellir eistedd a mwynhau golygfeydd o'r harbwr, sydd ar stepen y drws.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr, llaeth a chacen
- Dillan gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Coed a glo yn gynwysedig
- Gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Sylwer fod y grisiau rhwng y llawr cyntaf a'r ail lawr yn eithaf serth felly argymhellir defnyddio gât gyda phlant ifanc
- Gwasanaeth golchi dillad (casglu a dychwelyd) ar gael os dymunir
- Dim anifeiliaid anwes
- Dim ysmygu y tu mewn i'r llety
- Parcio ar gael i 1 car y tu ól i'r llety ar gyfer dadlwytho, yna llefydd parcio ar gael o fewn 100 metr