Ty Clyd

Aberaeron, West Wales

  • 3 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024

You can book this property from:

  • £583 per week
  • £83 per night
  • 3 Star
  • Awaiting Grading

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Wedi ei leoli ar dyddyn ger Aberaeron, mae’r llety hwn yng Ngorllewin Cymru dros 200 mlwydd oed, ac mae’n caniatáu anifeiliaid. Mae’r bwthyn dros ffordd i’r ty fferm ac mae’n sylfaen gwych i archwilio arfordir Bae Ceredigion gan gynnwys trefi glan y môr Aberaeron a Chei Newydd. Gyda stôf llosgi coed glyd yn y bwthyn gall fod y lle delfrydol i ymlacio wedi diwrnod prysur yn cerdded ar fryniau Cymru neu’n mwynhau gyda’r teulu ar un o’r traethau gerllaw.

Llawr Gwaelod
Ystafell fyw draddodiadol gyda pheiriant gwneud bara yn wal sydd yn nodwedd unigryw, stôf llosgi coed glyd a lle i 5 eistedd ar y soffas a’r cadeiriau breichiau.

Cegin yn cynnwys hob nwy, popty trydanol, micro-don, oergell, rhewgell fach a pheiriant golchi llestri.

Ystafell ymolchi’n cynnwys toiled, basn, a chawod.

Ystafell wely gyda gwely dwbl, cwpwrdd a chist ddroriau wrth y gwely.

Ystafell iwtiliti - gyda mynediad o’r ochr i’r bwthyn, peiriant golchi a lle gwych i storio esgidiau cerdded neu nwyddau arall.

Llawr Cyntaf
Ystafell wely twin mewn steil galeri gyda 2 wely sengl a chwpwrdd mawr.

Tu allan
Gardd amgaeedig a llefydd i fynd am dro a llefydd sy’n cael eu rhannu ar hyd y tyddyn.

Gwybodaeth Ychwanegol

• Llieiniau gwely, tyweli dwylo a baddon a sychwr gwallt yn cael eu cynnwys.
• Gwres canolog olew a thrydan yn cael eu cynnwys. Basged gyntaf o logiau hefyd yn cael eu darparu ar gyfer y stôf llosgi coed.
• adair uchel, cot teithio a giat grisiau (dewch a dillad i'r cot)
• Cadair uchel yn cael ei ddarparu (dewch a’ch cot teithio a llieiniau eich hunain ar gyfer y cot)
• Llefrith, te a choffi i’ch croesawu.
• Caniateir anifeiliaid anwes – uchafswm o 2 gi (dim cwn ar y gwlâu).
• Darperir gemau bwrdd.
• Parcio preifat.
• Dim ysmygu yn y bwthyn.
• Wi-Fi
• Archfarchnadoedd yn cludo nwyddau ond siopau gwych yn gwerthu cynnyrch lleol yn agos.
• Man diogel i storio beiciau ar gael.

Location

Mae’r bwthyn hwn ar wahân ac wedi ei osod dros ffordd tai’r perchnogion ar dyddyn sy’n cynnwys ieir, pwll hwyaid a cheffylau. Mae’r bwthyn ½ milltir o bentref Cross Inn gyda’i dafarn a nwyddau cyffredinol.

Mae Aberaeron 6 milltir i ffwrdd o’r bwthyn hwn yng Ngorllewin Cymru sy’n caniatáu anifeiliaid, a thref Prifysgol Aberystwyth ryw 12 milltir i’r Gogledd. Roedd Aberaeron unwaith yn borthladd prysur ond bellach yn dref harbwr Sioraidd heddychlon gyda thai bwyta hyfryd, digon o gaffis lleol, tafarndai a siopau i’w mwynhau. Gyda phethau at ddant pawb, o bysgod a sglodion lawr ar y Cei i wledda crand. Mae’r harbwr a’r traeth lleol yn werth ymweld â hwy yn ogystal ag Ystâd Wledig Llanerchaeron. Gellir trefnu tripiau pysgota a hwylio o’r harbwr ac mae’r ardal hefyd yn boblogaidd ar gyfer cerdded, gwylio adar ac yn wych ar gyfer teuluoedd.

Mae Aberystwyth yn dref glan y môr hyfryd sy’n addas i deuluoedd. Mae’r dref Brifysgol hon yn fwy nag Aberaeron ac yn cynnwys amrywiaeth o siopau yn cynnwys siopau mawr fel Next a busnesau lleol. Mae gwylio dolffiniaid wedi dod yn un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yn yr ardal ac mae gan Fae Ceredigion lawer o ddolffiniaid. Gellir archebu tripiau i wylio dolffiniaid o Gei Newydd ond yn aml gellir gweld cip o’r mamaliaid anhygoel hyn wrth gerdded ar hyd y pentir ym Mwnt, Llangrannog neu Gei Newydd. Ffefryn mawr gan y teulu yw parc Fantasy Farm sydd ond 2 filltir i ffwrdd ac yn cynnwys anifeiliaid, llwybrau natur, ardal rodeo, go carts, llyn lle gellir mynd a chwch arno a llawer mwy.

Traethau
Aberaeron yw’r traeth agosaf. 4 milltir. Delfrydol ar gyfer chwaraeon dwr hamddenol fel hwylio, hwylfyrddio a chanwio. Mae nifer o draethau eraill ger llaw gan gynnwys traeth hyfryd Llangrannog 14 milltir.

Chwaraeon Dwr
Mae’r ganolfan chwaraeon dwr yng Nghei Newydd yn cynnig dewis eang o weithgareddau i siwtio pawb. 12 milltir.

Pysgota
Pysgota môr – Pysgota traeth a glan y môr o gwmpas yr arfordir a thripiau cychod siarter ar gael o Harbwr Aberystwyth ac Aberaeron. 4 milltir
Pysgota bras- mae llynnoedd yn yr ardal yn cynnwys Llynnoedd Celtaidd gyda dros 75 acer o ddwr i’w mwynhau. 13 milltir.
Pysgota afon– Mae gan yr Afon Aeron lawer o frithyll y môr ac eog a gellir prynu tocynnau dydd. Mae’r Afon Teifi yn un o afonydd eog enwocaf Cymru.

Cerdded
Mae Llwybr Arfordir Ceredigion bellach yn rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan ac mae’n dilyn llwybr 60 milltir rhwng aber yr afonydd Teifi a Dyfi. Gallwch hyd yn oed wneud ychydig o wylio dolffiniaid tra’n cerdded ar hyd yr arfordir ysblennydd.

Beicio
Lonydd gwledig tawel, delfrydol ar gyfer beicio a llawer o lwybrau ar gael. Ar gyfer beicio mynydd mae gan Coedwig Brechfa nifer o lwybrau gan gynnwys Llwybrau Gorlech, Raven a Derwen ac mae gan Fwlch Nant yr Arian hefyd nifer o lwybrau gwych. 20 milltir. Gellir hefyd logi beiciau o Cyclemart ger y bwthyn.

Golff
Clwb Golff Penros, cwrs gwych yng nghanol cefn glwad gwyrdd hyfryd yn rhedeg tuag at Arfordir Ceredigion.

Merlota
Gellir marchogaeth ceffylau mewn nifer o lefydd yn cynnwys Canolfan Farchogol Bitless Bidle. 4 milltir.