Y Golomen

Cardiff, South Wales

  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

You can book this property from:

  • £582 per week
  • £83 per night

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae’r llety hunan ddarpar hwn yn y Barri yn agos at lawer o draethau a ddim ond 20 munud o ganol Caerdydd. Mae golygfeydd hyfryd o Fro Morgannwg i’w gweld o’r balconi. Mae yna hefyd lawer o weithgareddau ac atyniadau i’w mwynhau yn yr ardal yn cynnwys Arfordir Treftadaeth Morgannwg.

Llawr Gwaelod
Cegin, ystafell fwyta ac ystafell fyw ar gynllun agored. Mae’r gegin chwaethus yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch - popty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, peiriant golchi a pheiriant sychu dillad a meicrodon.

Mae’r ardal fyw yn cynnwys soffas cyfforddus, teledu, DVD, doc ipod a chonsol gemau. Mae’r drysau sy’n plygu yn agor at falconi sy’n cynnig golygfeydd anhygoel ar draws y dyffryn.

Ystafell wely 1 – Ystafell wely maint king gydag ystafell ymolchi en-suite â chawod dros y bath.

Ystafell wely 2 – Ystafell wely ddwbl gydag ystafell gawod en-suite.

Gardd

Lawnt fawr yn cynnig haul drwy’r dydd. Barbaciw ar y safle ac mae sied ddiogel i gadw beics a digon o le ar gyfer unrhyw ddeunydd chwaraeon.

Gwybodaeth Ychwanegol
Pecyn i’ch croesawu i’r bwthyn gwyliau hwn yn y Barri yn cynnwys te, coffi, siwgr, llefrith, cacennau cartref a bisgedi. Gadewch i ni wybod os ydych yn dathlu achlysur arbennig ac fe fydd sypreis ychwanegol yn eich pecyn croesawu.
Lleiniau gwely a thywelion yn gynwysedig.
Trydan a gwres yn gynwysedig a gwres o dan y llawr drwy’r bwthyn, a rheolyddion ym mhob ystafell.
Cadair uchel a chot teithio ar gael ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
Wi-fi ar gael.
Dim anifeiliaid nac ysmygu (cytiau ar gael ar y safle os oes angen).

Os dymunwch, gallwn hefyd archebu bwrdd i chi o flaen llaw yn un o’r bwytai a argymhellir. Gadewch i ni wybod pa fath o fwyd y dymunwch ac mi wnawn ni’r gweddill.

Darperir y canlynol yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad... Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi peiriant golchi, cadachau newydd, ffoil a cling film. Ystafell ymolchi: sebon golchi dwylo a 2 bapur toiled i bob toiled. Nwyddau glanhau cyffredinol: cannydd, hylif golchi cawod, chwistrellydd gwrth facteria ayyb.

Location

Mae Y Golomen yn un o ddau fwthyn sydd drws nesaf i’w gilydd yn y Barri, sydd wedi eu hadnewyddu i lety 5 seren moethus. Ar gyrrion Gogleddol y Barri, mae gan Y Golomen olygfeydd hyfryd dros Fro Morgannwg ac Ystâd Wledig Dyffryn. Roedd y fferm ar un adeg yn un o’r rhai mwyaf yn yr ardal ond bellach yn cael ei gadw fel tyddyn.

Mae’r Barri wedi dod yn enwog eto’n ddiweddar drwy’r gyfres deledu Gavin and Stacey, ac mae Ynys y Barri 2.5 milltir o’r bwthyn. Mae gan y dref ei hun ddigon o lefydd i fwyta, yfed a siopa ac mae hefyd ganolfan hamdden a phwll. Mae Parc Gwledig Porthkerry (1.5 milltir) yn barc mawr sy’n wych ar gyfer teuluoedd, barbeciw ac mae hefyd cwrs golff 18 twll ac mae hefyd cwrs pytio.

Mae’r bwthyn 9 milltir o Gaerdydd gyda lôn dda a gyda chysylltiadau bws a thrên mae’n le delfrydol i aros wrth fynd i weld gêm yn Stadiwm y Mileniwm neu rywle arall yn y ddinas. Mae Caerdydd yn ddinas boblogaidd gydag amrywiaeth anferthol o siopau a bwytai. Mae hefyd gweithgareddau pob tywydd ar gael gan gynnwys parc dwr tu mewn a phwll nofio maint olympics, a Chanolfan Dwr Gwyn Cenedlaethol. Mae hefyd yn werth ymweld â Bae Caerdydd ac mae’n bosib archebu tripiau ar gychod jet a chychod pleser yma, ac mae tacsi dwr o ac i ganol y ddinas.

Mae gan y fferm ei hun hanes ddiddorol, yn dyddio’n ôl cyn yr 17eg Ganrif, a’i pherchennog ar un cyfnod oedd Syr Williams St John a oedd yn is-lyngesydd oedd yn enwog am ddal Syr Walter Raleigh, a hefyd gafodd ei garcharu am fôr-ladrata.

Traethau
Nifer o draethau gwych ger llaw, yn amrywio o draeth prysur Ynys y Barri 2.5 milltir i ffwrdd i draeth mwy heddychlon Southerndown 24 milltir i ffwrdd.

Cerdded
Mae nifer o lwybrau cerdded yn cynnwys llwybrau cyhoeddus o’r bwthyn. Mae Llwybr Treftadaeth Arfordir Morgannwg sydd yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru gyfan yn llwybr gwych. Llwybr cyhoeddus 0.1 milltir o’r bwthyn.

Pysgota
Pysgota môr gwych o’r lan ac ar gychod o’r Barri. 2 filltir
Pysgodfa Dyffryn yn le gwych i fynd i bysgota am y diwrnod. 4 milltir

Golff
Cyrsiau ger llaw yn cynnwys The Vale Resort (7 milltir) a Celtic Manor, ble roedd Cwpan Ryder 2010 (32 milltir).
Cwrs Golff Brynhill yn ffinio’r tir sydd yng nghefn y bwthyn. 0.2 milltir

Beicio
Lonydd gwledig tawel o amgylch y fferm sy’n ddelfrydol ar gyfer beicio. 0.4 milltir

Marchogaeth
Canolfan Farchogaeth Liege Manor - canolfan farchogaeth orau Cymru ac yn gartref i dros 70 o geffylau a merlod. Mae’r ganolfan yn arbenigo mewn dysgu pob oed a gallu. 2 filltir.

Chwaraeon Dwr
Canolfan Dwr Gwyn Cenedlaethol Caerdydd yn cynnig canwio, rafftio dwr gwyn, caiacio a ‘hot-dogging’. 8.5 milltir.