Drws y Nant

Dolgellau, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

You can book this property from:

  • £549 per week
  • £78 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Parcio ar y stryd

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Bwthyn gwyliau yn Dolgellau yn cynnig lleoliad cyfleus tu hwnt, o fewn pellter cerdded byr i fwytai, siopau unigryw a chaffis gwych y dref. Mae Dolgellau yn dref farchnad hyfryd wedi ei lleoli ar droed Cadair Idris yn ne Eryri ac yn y dref hon mae’r nifer fwyaf o adeiladau cofrestredig yng Nghymru gyfan. Lleoliad gwych ar gyfer cerddwyr a beicwyr mynydd gyda nifer o lwybrau cerdded a beicio yn cychwyn o garreg eich drws.

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw / fwyta fawr ar gynllwyn agored. Digon o lefydd eistedd cyfforddus, teledu freeview, chwaraewr DVD a stôf drydan gydag effaith tân i greu awyrgylch glud ac ymlaciol.

Mae’r ardal cegin hefyd yn fawr ac eang ac yn cynnwys popty, hob a micro-don newydd sbon.

Ystafell iwtiliti gydag oergell a rhan ohono’n rhewgell, peiriant golchi dillad, peiriant sychu dillad a digon o le i gadw beics ac offer cerdded.

Mae’r cyntedd yn eich croesawu gyda lle i hongian cotiau, pecyn gwybodaeth a thaflenni atyniadau lleol.

Llawr Cyntaf

Prif ystafell wely - ystafell wely mawr gyda gwely maint king, digon o lefydd storio, teledu a basn golchi dwylo. Mae hefyd gwely y gellir ei dynnu allan ar gais.

Ystafell wely dwbl - ystafell glud gyda gwely dwbl a chypyrddau yn y waliau.

Ystafell twin - clud gyda dau wely sengl a chwpwrdd.

Ystafell ymolchi deuluol gyda chawod fawr y gellir cerdded i mewn iddo.

Tu Allan

Path leading to back door, providing access for bikes and other outdoor equipment to utility room.

Llwybr yn arwain i’r drws cefn, yn darparu mynediad ar gyfer beics ac offer tu allan eraill i’r ystafell iwtiliti.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Darperir dillad gwely, tyweli bath a dwylo ac 1 sychwr gwallt.
  • Gwres a thrydan yn gynwysiedig.
  • Wifi ar gael.
  • Dau got deithiol a giât i’r grisiau ar gael ar gais, ond dim cadair uchel.
  • Caniateir anifeiliaid yn Nolgellau (anifeiliaid ar y llawr gwaelod yn unig)
  • Parcio am ddim ar y lôn o fewn pellter cerdded byr (tua 50 metr). Mae hefyd yn bosib parcio o flaen y bwthyn rhwng 6pm – 9pm.

Location

Mwynhewch fod o fewn pellter cerdded i bopeth sydd ei angen arnoch yn y bwthyn gwyliau hwn yn Dolgellau. O fewn pellter cerdded i ganol y dref a’i holl gyfleusterau, mae hefyd wedi ei leoli ar waelod llwybr sy’n arwain i gopa Cadair Idris. Yn ogystal â chael llwybr mynydd o garreg eich drws, Dolgellau yw pwynt cychwynnol Llwybr Mawddach (llwybr cerdded a beicio i Bermo ar yr arfordir). Mae Canolfan Feicio Mynydd Coed y Brenin sydd yn adnabyddus yn fyd-eang hefyd o fewn 7.5 milltir ac mae dau draeth arbennig o fewn 9 milltir.

Mae amrywiaeth o siopau o fewn 2 funud o gerdded ac mae dwy archfarchnad yno hefyd: Coop (sydd o fewn pellter cerdded) ac Eurospar. Ymhlith y bwytai sy’n cael eu hargymell yn agos i’ch bwthyn gwyliau yn Dolgellau mae Bar Tapas Tafarn y Gader, Meirionnydd a Dylanwad Da i gyd wedi eu lleoli yng nghanol y dref ei hun dra fo Bwyty Mawddach 2 filltir union i ffwrdd. Y mae’r bars gorau yn y dref yn cynnwys Llwybr Clywedog a Bar Gwin Dylanwad.

Mae gan dref hardd ac unigryw Dolgellau fwy na 200 o adeiladau cofrestredig - mwy nac unrhyw dref arall yng Nghymru. Mae rhai o’r atyniadau poblogaidd yn yr ardal yn cynnwys Big Bounce (y trampolîn tanddaearol mwyaf yn Ewrop) a’r Zip Wire ym Mlaenau Ffestiniog (16 milltir). Mae yna hefyd gwrs rhaffau uchel Go Ape 7.5 milltir i ffwrdd a Chanolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn (22 milltir) ger y Bala. Ar gyfer dyddiau fwy ymlaciol, ewch i ymweld â’r traethau, safle Dreftadaeth y Byd yng Nghastell Harlech neu ewch ar drên stêm ar hyd rheilffordd Tal-y-llyn.

Cerdded

Llwybr Mawddach - Dolgellau - addas i bob oedran - cerddwyr, beicwyr, a defnyddwyr cadair olwyn - wrth stepen eich drws

Llwybr Cynwch - Llanfachraeth - addas i bob oedran - 2 filltir oddi wrth eich bwthyn gwyliau yn Nolgellau.

Llwybr Cynwch Newydd - Llanelltud - addas i bob oedran. 2 filltir.

Cadair Idris (mynydd) - 3 prif lwybr yn dechrau o Ddolgellau (wrth garreg eich drws), Minffordd (7 milltir) ac Abergynolwyn (16 milltir).

Llwybr Clywedog – Brithdir – taith gweddol hamddenol tua 2.5 milltir ar hyd yr afon. 3.5 milltir.

Llwybr Panorama – Bermo – addas i bob oedran – 10 milltir o’r bwthyn

Beicio

Llwybr Mawddach - fel uchod, o garreg eich drws

Canolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin - Llwybrau addas i bob oedran - 7.5 milltir

Golff

Cwrs Golff Dolgellau - cwrs golff 9 twll - 1 milltir

Pysgota

O bysgota afon i bysgota llyn yn Llyn Cynwch, mae amrywiaeth o gyfleoedd i fynd i bysgota yn ardal Dolgellau - opsiynau addas ar gyfer pob oedran.

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Fferm Bwlchgwyn, Arthog - addas i unrhyw un dros 4 mlwydd oed - 9 milltir

Traethau

Y Friog - traeth tywodlyd - 9 milltir

Bermo - traeth hir a thywodlyd, gwobr baner las - 9 milltir

Chwaraeon Dwr

Llyn Tegid - hwylio, canwio, caiacio, syrffio gwynt, adeiladu rafft ayyb. 18 milltir.

Canolfan Dwr Gwyn Cenedlaethol, Bala – rafftio dwr gwyn, caiacio a chanwio. 22 milltir