Ffermdy Caernarfon

Caernarfon, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

You can book this property from:

  • £511 per week
  • £73 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 09:30

Description

Mae’r ffermdy mawr hwn yn cynnig llety hunan ddarpar yn Eryri 2 filltir o dref Caernarfon. Mae’n mwynhau lleoliad gwledig ar ei fuarth fferm ei hun ac mae’n ddelfrydol ar gyfer archwilio Eryri, Sir Fôn a Phenrhyn Llyn. O fewn pellter cerdded o Ganolfan Arddio lleol sydd yn un o'r goreuon yn Mhrydain Fawr ac wedi ennill gwborau - 'Fron Goch Garden Centre'. 10 munud yn unig o bentref Llanberis yn ogystal â llawer o brif atyniadau Gogledd Cymru, mae’r ffermdy eang hwn yn berffaith ar gyfer gwyliau llawn gweithgareddau ac ar gyfer y rhai ohonoch fyddai’n ffafrio ymlacio a mwynhau gwyliau heddychlon.

Llawr Gwaelod

Mae Ffermdy Caernarfon yn cynnig moethusrwydd a chyfleustra’r bywyd modern ar y cyd gyda nodweddion traddodiadol hyfryd. Yn yr ystafell fyw gyntaf ceir stôf llosgi coed gyda phentan mawr gerrig o’i amgylch - ystafell glud iawn gyda theledu HD, dvd a chwaraewr fideo. Mae’r ail ystafell fyw yn fwy ac yn cynnwys tân agored (un basged o goed tân yn gynwysedig) a theledu HD. Cyfforddus iawn, yn enwedig yn y gaeaf.

Mae’r gegin ar steil gwledig ac yn cynnwys Rayburn i roi naws draddodiadol i’r ffermdy tra’i fod hefyd yn cynnwys yr holl gyfleusterau modern megis microdon, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad. Bwrdd bwyta gyda golygfeydd o gefn gwlad a lle i hyd at 7 eistedd.

Mae gan y bwthyn hunan ddarpar hwn yn Eryri hefyd ystafell wydr gysurus iawn gyda dwy gadair gyfforddus i ymlacio a dadflino ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, gyda golygfeydd cefn gwlad hyfryd i helpu hyn.

Mi welwch hefyd ystafell gotiau ar y llawr yma gyda toiled a sinc.

Llawr Cyntaf

Ceir pedair ystafell wely fawr yn y llety gwyliau hwn – 2 ystafell ddwbl, 1 ystafell twin eang ac 1 ystafell sengl.

Mae’r ystafell ddwbl gyntaf yn olau iawn gyda chypyrddau dillad pîn mawr a dwy ffenestr. Digonedd o le i got hefyd. Ceir golygfeydd cefn gwlad o’r ail ystafell ddwbl, sydd hefyd yn cynnwys cwpwrdd dillad yn y wal.

Ceir dau wely sengl pîn cyfforddus iawn, a chwpwrdd dillad yn yr ystafell twin tra bo’r ystafell sengl yn cynnwys gwely cyfforddus, cist o ddroriau a bwrdd gwisgo.

Mae’r ystafell ymolchi deuluol yn helaeth iawn, gyda bath a chawod ar wahân.

Gardd

Tu allan i’r llety mae lawnt laswelltog – delfrydol i blant chwarae. Dodrefn gardd a barbeciw ar y patio.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwely, tyweli dwylo a bath a sychwr gwallt yn gynwysedig
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Cot a chadair uchel ar eich cais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
  • Caniateir 1 ci
  • Caiff y canlynol hefyd eu darparu yn ystod eich arhosiad… Cegin: hylif golchi llestri, powdr golchi, lliain llestri ayyb. Ystafell ymolchi: sebon a phapur toiled.
  • Dim ysmygu
  • Digonedd o le parcio
  • Beics ar gael i westeion yn y sied feics newydd - 2 feic dyn, 1 beic dynes, 1 beic i blentyn 8-11 oed ac un beic i blentyn hyd at 8 oed

 

Location

Mae Ffermdy Caernarfon wedi’i leoli o fewn ei fuarth fferm ei hun, 2 filltir o Gaernarfon. Mae’r bwthyn wedi’i leoli ym mhentref Bontnewydd (sydd â siop, swyddfa bost, tafarn a siop sglodion) sy’n lleoliad gwych ar gyfer archwilio Eryri, Môn a Phenrhyn Llyn. Bydd dim prinder pethau i’w gwneud na lleoedd i ymweld â hwy, ac mae gan yr ardal ddigonedd o atyniadau i ymwelwyr, cestyll ac amgueddfeydd, ynghyd â mynyddoedd, dyffrynnoedd a thraethau trawiadol.

Mae tref Caernarfon mewn lleoliad arbennig, gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir iddi, a golygfeydd gwych dros y Fenai i Ynys Môn. Gyda’r castell mawreddog a’r waliau canoloesol yn arglwyddiaethu dros y dref, mae Caernarfon bellach yn dref farchnad brysur, ac iddi un o’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Ewch ar daith o amgylch Gwaith Llechi Inigo Jones, ewch i ben mynydd uchaf Cymru ar Drên Bach yr Wyddfa a manteisiwch ar y cyfleoedd diddiwedd i gerdded, beicio a mynydda yn Eryri. Mae Rheilffordd Eryri, y Mynydd Gwefru yn Llanberis, rownd o golff ar lannau’r Fenai ac ymweliad â phentref Eidalaidd hardd Portmeirion hefyd yn siwr o’ch ysbrydoli.

I ymwelwyr iau, mae Parc Glasfryn yn cynnig gweithgareddau dan do ac awyr agored, yn cynnwys cartio, bowlio a beiciau modur pedair olwyn. Mae’r Hwylfan, canolfan hwyl dan do fwyaf gogledd Cymru, yn lle delfrydol i’r plant ddefnyddio’u hegni, ac mae Parc Coedwig Greenwood yn barc hamdden ar thema natur, sydd â char sglefrio (rollercoaster) yn cael ei yrru gan bwer pobl. Dros y bont ar Ynys Môn, mae rhagor o atyniadau, yn cynnwys Pili Palas a Sw Môr Môn.

Traethau

Dinas Dinlle traeth tywod hir – traeth mwyaf gogleddol Penrhyn Llyn. 4 milltir

Chwaraeon Dwr

Plas Menai - Canolfan chwaraeon dwr genedlaethol, sy'n cynnig cyrsiau dydd mewn amrywiaeth eang o weithgareddau, ar bob lefel. 4.5 milltir

Cerdded

Rhaeadr Fawr – taith gerdded 3 milltir hwylus at raeadr syfrdanol. 0.5 milltir o’r bwthyn

Llwybr Arfordir Llyn – 84 milltir o amgylch Penrhyn Llyn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch â’r llwybr o fewn milltir i’r bwthyn.

Yr Wyddfa – mynydd uchaf Cymru – llwybr Llanberis (4.7 milltir - 3 awr) yw’r agosaf. 8 milltir o’r bwthyn.

Moel Siabod (Llwybrau Mynyddig Eryri) – Capel Curig. Taith dda i gerddwyr profiadol. 19 milltir o’r bwthyn.

Carneddau (Llwybrau Mynyddig Eryri) – Taith heriol, sy’n cynnwys 2il a 3ydd mynydd uchaf Cymru. Mae’r daith agosaf yn cychwyn yn Helyg, Capel Curig. 21 milltir

Golff

Cwrs golff Caernarfon – cwrs golff 18 twll. 3.5 milltir.

Beicio

Llwybr Seiclo Lôn Eifion – Llwybr 12.5 milltir llawn golygfeydd o Gaernarfon i Fryncir. Ymunwch â’r llwybr 0.5 milltir o’r bwthyn.

Marchogaeth Ceffylau

Stablau Marchogaeth Eryri – Addas ar gyfer pob oed a gallu. 3.5 milltir