- £560 per week
- £80 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mwynhewch y bwthyn hunan ddarpar hwn sydd wedi ei leoli mewn ardal wledig a thawel. Un filltir o dref farchnad groesawgar y Bala, mae'n cynnig golygfeydd anhygoel dros ddyffryn Dyfrdwy a chefn gwlad agored. Man delfrydol i ddarganfod Eryri ac ystod eang o atyniadau Gogledd Cymru, mae'r bwthyn 5 seren hwn hefyd yn leoliad perffaith i ymlacio mewn steil.
Llawr Gwaelod
Ystafell Fyw - ystafell helaeth gyda llawr derw, soffa a chadeiriau lledr a dodrefn derw. Tân trydan ffasiynol a theledu 40 modfedd, chwaraewr DVD, dewis o lyfrau a golygfeydd trawiadol drwy'r drysau patio i'r ardd a'r patio tu allan.
Cegin - cegin fawr gyfoes gyda ardal bwyta, gyda golygfeydd agored o gefn gwlad drwy'r drysau patio, yn arwain i'r ystafell haul gyffiniol. Mae'r gegin hardd gyda'r holl offer angenrheidiol gan gynnwys oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri, meicrodon, popty a hob trydan.
Ystafell haul - golygfeydd anhygoel i lawr dyffryn Dyfrdwy a golygfeydd 180 gradd o dir fferm agored. Dwy soffa ledr a bwrdd coffi.
Ystafell wely 1 gyda ystafell ymolchi ynghlwm - gwely maint king a golygfeydd i lawr i ddyffryn Dyfrdwy. Dodrefn derw yn cynnwys cwpwrdd hongian dillad, droriau dillad, drych a byrddau bach bob ochr i'r gwely. Teledu.
Ystafell ymolchi - ystafell gyda dau fynediad fel y gellir ei defnyddio fel ensuite i ystafell wely 1 neu fel prif ystafell ymolchi. Ystafell gyda digon o le ac wedi ei theilio yn gyfangwbl, baddon, uned gawod arwahan, toiled a basn.
Ystafell wely 2 gyda ystafell ymolchi ynghlwm - 2 wely sengl mawr, dodrefn derw a theledu. Mae'r ystafell ymolchi yn cynnwys cawod, basn a thoiled.
Ystafell iwtiliti arwahan gyda nifer o unedau, sinc, peiriannau golchi a sychu dillad, ac ystafell sychu.
Gardd
Bwthyn arwahan ger y Bala gyda gardd fawr gaeedig a golygfeydd anhygoel dros dir fferm agored i lawr i ddyffryn Dyfrdwy. Dodrefn gardd, bwrdd pren gyda 4 cadair, 2 fainc, barbaciw a lein ddillad.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn Croeso yn cynnwys Bara Brith a bisgedi lleol, diod ysgawen, creision Jones, te a choffi, siwgr a llaeth
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- 2 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Dim anifeiliad anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn
- Digon o le parcio preifat y tu allan i'r bwthyn
- Lle i storio beiciau
- Eitemau eraill yn cynnwys:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau glan, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled ar gyfer pob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol: cannydd, glanhawr cawod, chwistrellydd gwrth-facteria ayb
Gwybodaeth i bobl Anabl a Llai Abl
-
Adeilad un llawr gyda'r ystafelloedd i gyd ar y llawr gwaelod
-
Parcio cyfleus gyda'r wyneb yn slabiau
-
Does dim cyfyngiad taldra i bobl dros 6' 6"
-
Does dim stepiau i gael mynediad ac mae'r drws yn 800mm o led
-
Mae pob drws a choridor oddi mewn yr adeilad yn 750mm o led
-
Mae lle o dan y bwrdd bwyta ar gyfer cadair olwyn
-
Gellir cael mynediad i'r ardd
-
Mae doleni'r drysau a'r switshis golau i gyd o fewn cyrraedd
-
Mae adnoddau ar gael ar gyfer pobl sydd â nam ar y clyw neu'r golwg
-
Mae cylch dro yn yr ystafell wely a'r ystafell ymolchi o 1200mm a gellir cael mynediad i'r gwely o gadair olwyn ar yr ochr chwith
- Mae croeso i gŵn tywys