
Ty fferm hardd yn sefyll ar ben ei hun mewn lleoliad anhygoel.
- £1,033 per week
- £148 per night
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Ystafell chwaraeon
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Preferred changeover day: Saturday but for short breaks can be Friday or Monday
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Ty fferm hardd yn sefyll ar ben ei hun mewn lleoliad anhygoel. O'r twb poeth a'r ystafell chwaraeon, i'r bar a'r ardal chwarae, ddim llawer o fythynnod sydd yn cynnig cystal ystod o gyfleusterau ar y safle. Yn ychwanegol i hynny fe geir gwir lonyddwch, a golygfeydd panoramig trawiadol, o arfordir Gogledd Cymru i Fryniau Clwyd, gyda castell Dinbych yn dominyddu'r tirwedd.
Llawr Gwaelod
Cegin gydag ardal fwyta/ystafell frecwast gerllaw. Cegin fawr gyda'r holl offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell a rhewgell, popty a hob trydan. Bar brecwast gyda pwyntiau USB. Ardal fwyta gyda llawr pren, bwrdd a feinciau pîn.
Ystafell fwyta gyda bwrdd mawr derw i eistedd 8 a theledu ar y wal. Nodweddion gwreiddiol yn cynnwys lle tân a thrawst pren. Golygfeydd gwych o'r ardd, castell Dinbych, Bryniau Clwyd a'r arfordir.
Lolfa - cysurus a chlyd gyda lle i 5-6 o bobl eistedd. Teledu a nodweddion gwreiddiol, yn cynnwys llawr llechen a thrawst derw uwchben y drws. Lle tân carreg gyda stôf drydan.
Ystafell haul - ystafell ymlaciol gyda seddi cyfforddus i wyth. Golygfeydd o'r arfordir, Bryniau Clwyd a chastell Dinbych. Mynediad i'r ardd a barbaciw, ardal fwyta tu allan a thwb poeth.
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gyda golygfeydd, cypyrddau dillad a lampau.
Ystafell ymolchi - cawod, basn a thoiled.
Ystafell iwtiliti - storfa i esgidiau a dillad glaw. Yn cynnwys sinc, peiriant golchi dillad ac oergell ychwanegol.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl, cypyrddau, lampau a sedd ffenestr i fedru mwynhau'r golygfeydd. Wal gerrig a lle tân nodweddiadol. Nenfwd uchel a chwpwrdd dillad y gellir cerdded i mewn iddo.
Ystafell ymolchi ensuite gyda basn, baddon siâp-P gyda chawod oddi mewn, toiled a rheilen sychu tywelion.
Ystafell wely 3 - gwely maint king (neu dau wely maint 2'6" - noder pan yn archebu), gyda golygfeydd. Nenfwd uchel gyda thrawstiau, a chypyrddau dillad.
Ystafell wely 4 - ystafell fach glyd gyda gwely bync, cypyrddau dillad a lampau.
Ystafell ymolchi yn cynnwys cawod, toiled a basn.
Gardd
Gardd fawr yn y cefn a'r ffrynt gyda phlanhigion yn ogystal â lawnt, yn cynnig lleoliad heddychlon gyda golygfeydd o arfordir y gogledd, bryniau a dyffryn Clwyd, a castell Dinbych.
Twb Poeth i chwech gyda tho uwch ei ben - lle delfrydol i ymlacio a mwynhau'r golygfeydd. Cawod y tu allan gyda dwr poeth. Dwy goeden fedwen yn cynnig lleoliad rhamantus.
Dec perffaith ar gyfer bwyta tu allan gyda meinciau a bwrdd bwyta i eistedd 10.
Patio o flaen yr ystafell haul gydag ardal dan do sydd â Barbaciw nwy a'r opsiwn i goginio pitsa ar garreg boeth, sinc ddwbwl gyda dwr poeth ac oer. Bwrdd mawr a chadeiriau i eistedd 10.
Ystafell chwaraeon/Bar - adeilad tu allan gyda gwres sy'n rhoi lle ychwanegol i gymdeithasu; ystafell chwaraeon gyda bwrdd pwl, a chegin arall tu allan gyda sinc, oergell popty, meicrodon, gwydrau plastig i'r twb poeth, bwrdd a rac gwîn. Mae Bluetooth ar gael yn yr ystafell chwaraeon.
Ardal chwarae - mae'r cownter bar a stolion yn rhoi'r lleoliad perffaith ar gyfer diodydd cyn bwyd a chadw llygad ar y plant yn chwarae yn yr ardal chwarae sy'n cynnwys siglenni a ffram ddringo.
Ardal hudolus wedi hanner ei chuddio yn rhan ddeheuol yr ardd - 'cerrig camu' yn y goedwig yn arwain i fwrdd a stolion caws llyffant - lleoliad fydd yn swyno unrhyw un sy'n darganfod y lle dirgel hwn. Gerllaw, mae gwesty pryfed yn cuddio tu cefn i'r adeiladau tu allan, wedi ei amgylchynu gan goed gwsberis a cyrens duon, a rhedyn. Mae nodweddion gwreiddiol eraill yn cynnwys den draenogod o dan goeden gelyn, a dau fwrdd adar - yn sicrhau digon o fywyd gwyllt.
Patio bach yn y cefn o lechen lâs gyda bwrdd picnic crwn i eistedd wyth - delfrydol ar gyfer coffi yn y bore.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys cacennau cri, te a choffi, siwgwr a llaeth
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 4 sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Wifi ar gael
- Gemau bwrdd a dewis eang o lyfrau
- Teganau tu allan ar gael
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes tu mewn y bwthyn
- Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, tabledi i'r peiriant golchi dillad, clytiau, ffoil a ffilm glynu; Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled; Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Digon o le parcio ar gyfer hyd at 5 car