
Wedi ei leoli ar fferm yng Nghanolbarth Cymru, mae'r bwthyn hwn i 2 yn cynnwys ystafell gemau a dwy afon yn llifo trwy'r tir
- £343 per week
- £49 per night
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Ystafell chwaraeon
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Wedi’i leoli ar fferm yng nghalon Dyffryn hyfryd Efyrnwy, mae’r bwthyn yn fan canolog a delfrydol er mwyn archwilio Canolbarth a Gogledd Cymru. Mae hefyd ddigon o atyniadau ar y safle, gan gynnwys ystafell gemau, moch anwes Kunekune, balconi er mwyn gwylio'r godro dyddiol a dwy afon yn llifo trwy’r fferm, gan ei wneud yn fan delfrydol i gael gwyliau pysgota. Mae hanes lleol difyr gyda digonedd o lefydd i fynd am dro, gan gynnwys llwybr ar ochr yr afon o’r ffarm i’r pentref cyfagos sef Meifod, lle gallwch fynd am fwyd neu ddiod yn y Kings Head.
Llawr Gwaelod
Cegin fodern gyda phopeth sydd ei angen arnoch, ynghyd ag agoriad siâp bwa er mwyn gweini bwyd i’r ardal fyw/bwyta. Popty trydanol a hob, oergell a microdon.
Ardal fyw/bwyta gyda chynllun agored a thrawstiau derw, gyda lle tân wedi ei wneud o friciau a dodrefnu gwledig. Cadair esmwyth sydd â lle i dri eistedd, a chadair freichiau o flaen y stof dân drydanol a theledu gyda chwaraewr DVD. Bwrdd bwyta maint llawn gyda golygfeydd o’r ardd amgaeedig drwy’r drysau patio mawr.
Y Llawr Cyntaf
Ystafell wely super king(a all hefyd gael ei ailosod fel dau wely sengl os gofynnir) gyda chwpwrdd dillad yn y wal, bwrdd gwisgo, cadair a goleuadau lamp.
Ystafell ymolchi gyda chawod toiled a sinc.
Gardd / Tu Allan
Gardd gaeedig gyda mainc, bwrdd picnic a pharasol, a darperir set barbeciw os gofynnir amdano. Caiff yr ardd hon ei rhannu gyda’r bwthyn i 4 drws nesaf.
Drws nesaf mae ystafell gemau gyda bwrdd pwl maint llawn, bwrdd dartiau, cyfleusterau cadw’n heini a lle eistedd.
Pysgota ar y safle. Mae’r fferm hon yn ddigon ffodus i gael dwy afon (Efyrnwy a Banw) yn llifo trwy ei thir. Perffaith ar gyfer gwyliau pysgota.
Profiad o fferm laeth/cig eidion/defaid. Gwyliwch odro dyddiol o’r balconi pwrpasol. Moch anwes Kunekune i’r plant fwynhau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Darperir dillad gwely, tyweli dwylo a baddon, a sychwyr gwallt
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Mae modd darparu cot a chadair uchel os gofynnir amdanynt.
- Croesawir anifeiliaid anwes (1 mawr / 2 fach)
- Digonedd o lefydd parcio ar gael.
- Ystafell iwtiliti gyda golchwr a sychwr dillad (sy’n cael ei rannu gyda’r bwthyn i 4 drws nesaf)
Location
Mae amryw o lwybrau poblogaidd o’r stepen ddrws, gan gynnwys Llwybr Glyndwr a Llwybr Ann Griffiths (emynyddes Gymraeg enwog) a llwybr ar lan afon o’r fferm i’r pentref cyfagos Meifod. Yn y pentref mae siop, swyddfa bost a thafarn y Kings Head sydd yn gweini bwyd da. Rhai o’r mannau bwyta eraill rydym yn eu hawgrymu yw Gwern y Ciliau (6 milltir), Tan House Inn, Llangynyw (3 milltir) a’r Llew, yn Llansantffraid (7 milltir).
Mae yna amrywiaeth eang o atyniadau a gweithgareddau o fewn pellter byr i’r bwthyn. Ymhlith rhain mae Rheilffordd Ysgafn Llanfair yn Llanfair Caereinion (5 milltir), Llyn Efyrnwy (11 milltir) sy’n cynnig man i gerdded, beicio, pysgota a chwaraeon dwr o bob math, a Chastell a Gardd Powys (10.5 milltir). Ymhlith rhai o gestyll eraill sydd yn yr ardal mae gweddillion Castell Mathrafal a fu unwaith yn gartref i Llywelyn Ein Llyw Olaf, ac un o’i gestyll eraill yn Nolforwyn, sy’n darparu golygfeydd arbennig o Ddyffryn Hafren uchaf.
Dim ond 16 milltir sydd i gyrraedd Profiad Fferm Park Hall sydd yng Nghroesoswallt, tra bod Amgueddfa, Camlas a Chanolfan Siopa ‘Coed y Dinas’ Y Trallwng yn werth ymweld â nhw. Mae hefyd archfarchnadoedd i’w cael yn Nhrallwng, a digonedd o fwytai a Chanolfan Hamdden y Fflash (pwll nofio hamdden).
Cerdded
Sawl llwybr o fewn ac o amgylch Meifod, gan gynnwys llwybr glan afon o’r ffarm i Meifod.
Llwybr Ann Griffiths – taith 7 milltir yn dilyn Llyn Efyrnwy. Llwyth o dirluniau gwahanol, gan gynnwys golygfeydd o fynyddoedd y Berwyn. Dechrau o Dolanog – 4 milltir.
Llwybr Glyndwr - llwybr troed hir yng Nghanolbarth Cymru a gafodd statws Llwybr Cenedlaethol ym mlwyddyn 2000. Dechrau yn Maesmawr - 5 milltir.
Llwybr Hafren - llwybr ysgafn 12 milltir ar hyd Camlas Trefaldwyn o Y Trallwng (9 milltir) i Drenewydd.
Llwybr Clawdd Offa – Llwybr Cenedlaethol (177 milltir yn ei gyfanrwydd) sy’n dilyn arfordir Cymru/Lloegr. Mae’r rhan agosaf yn dechrau wrth pont Tal-y-bont, 10.5 milltir i ffwrdd.
Pysgota
700 llath o bysgota ar y safle yn Afonydd Banw ac Efyrnwy. Ymhlith y pysgod mae brithyll gwyllt, penllwyd, cochgangod ac eog. 200 llath o’r bwthyn.
Pwll Pysgota Parc Bluebell – pysgota bras a charp ar lyn 20 erw. 4 milltir.
Llyn Efyrnwy – Brithyll gwyllt a brithyll seithliw. 11 milltir
Darganfyddwch mwy am bysgota yn ardal y Trallwng.
Golff
Clwb Golff Y Trallwng – cwrs golff 18 twll. 9 milltir.
Clwb Golff Llanymynech – cwrs golff 18 twll ar arfordir Cymru. 11 milltir
Cwrs Golff Croesoswallt – cwrs golff 18 twll. 16 milltir.
Beicio
Llyn Efyrnwy – Llwybr crwn 11 milltir o amgylch Llyn Efyrnwy. Llwybr fflat a hawdd sydd ar y ffordd ar y mwyaf. Dechrau wrth ganolfan ymwelwyr gyda sawl sefydliad i gael hoe a lluniaeth. 11 milltir o’r bwthyn.
Chwaraeon Dwr
Chwaraeon Dwr Llyn Efyrnwy – Canwio, caiac, hwylio a hwylfyrddio – addas i’r teulu cyfan. 11 milltir.
Merlota
Stablau Penycoed. Merlota ar hyd arfordir Cymru. Ceffylau a merlod i weddu pobl o bob oedran a gallu. 14 milltir.