
Bwthyn Gwyliau gwledig a chlud, 5 milltir o dref hanesyddol Machynlleth, Canolbarth Cymru. Cyn fwthyn glowr o'r 18fed ganrif yw Hendre a saif o fewn ei ardd breifat ei hun.
- £464 per week
- £66 per night
- 5 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Dringo
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Arferai’r bwthyn gwyliau Cymreig swynol hwn fod yn fwthyn glöwr sydd wedi ei leoli yn ei ardd breifat ei hun yng nghefn gwlad hyfryd Canolbarth Cymru. Llawn cymeriad, mae’n cynnwys llawer o’i nodweddion gwreiddiol fel ei drawstiau derw a’i bentan derw bendigedig gyda thân agored cysurus. 5 milltir o fwthyn gwyliau Hendre mae Machynlleth, prifddinas hynafol Cymru, ac yn cynnig siopau bychain unigryw, caffis, tafarndai a’r hen senedd-dy. Wedi ei amgylchynu gan natur, llwybrau cerdded a beicio, gyda chwaraeon dwr a thraethau hefyd o fewn ugain munud.
Llawr Gwaelod
Mae bwthyn Hendre wedi ei adnewyddu’n ofalus ac wedi llwyddo i gadw cyfoeth ei gymeriad gwreiddiol. Mae’r holl drawstiau derw gwreiddiol yn dal yn eu lle yn ogystal â’r popty bara gwreiddiol yn y pentan gyda’i le tân cysurus. Lolfa deuluol yn cynnwys teledu Sky, chwaraewr DVD, fideo a CD a radio.
Mae’r cyfarpar yn y gegin newydd i gyd yn gweithio ar drydan yn cynnwys popty gyda hob seramig a pheiriant golchi llestri wedi ei integreiddio, microdon, oergell / rhewgell yn ogystal â’r dewis arferol o gytleri a llestri.
Ceir ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod gyda chawod uwchben y bath a pheiriant golchi/sychu dillad yn yr iwtiliti.
Llawr Cyntaf
3 ystafell wely fawr; un dwbl, un sengl ac un dwbl arall - y cyfan wedi eu dodrefnu yn chwaethus. Ceir ystafell cadw cotiau ar y llawr gyntaf hefyd gyda thoiled a basn golchi dwylo.
Gardd
Saif y bwthyn yn ei ardd breifat ei hun, gan fwynhau golygfeydd trawiadol o dir fferm organig a mynyddoedd o’i amgylch. Llecyn hardd i fwynhau gwyliau o ymlacio gyda llawer o deithiau cerdded yn cychwyn o’r drws.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwelyau wedi eu paratoi gyda dillad glân gyda blancedi Cymreig hyfryd arnynt, a thywelion wedi eu gosod yn barod ar eich cyfer.
Trydan a gwres yn gynwysedig. Pentwr cychwynnol o logiau yn cael eu darparu am ddim. Gellir prynu logiau ychwanegol gan y perchennog.
Wi-fi yn gynwysedig.
Darperir cot a chadair uchel ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu.
Pecyn Croeso, tywelion te, hylif golchi llestri a thoiledau rôl yn cael eu darparu.
Caniateir gwyliau byr, penwythnosau a chanol wythnosau ar adegau penodol o’r flwyddyn. Gweler mwy o fanylion dan 'Prisiau’.
Location
Lleolir bwthyn gwyliau Hendre 5 milltir o dref hanesyddol Machynlleth, Canolbarth Cymru lle ceir nifer o siopau bach unigryw, caffis, tafarndai ac archfarchnadoedd.
Mae’r bwthyn hunan-ddarpar dedwydd hwn yn gynnes a chroesawgar ac yn rhan o fferm. Ceir golygfeydd gwefreiddiol dros gefn gwlad Dyffryn Dyfi a gallwch fwynhau cyfoeth o fywyd gwyllt o foethusrwydd eich gardd eich hun. Mae’r Barcud Coch i’w weld yn hofran uwchben y tir yn gyson a cheir llwybrau cerdded hyfryd ymhob cyfeiriad.
Byddwch yn agos at draethau euraid Aberdyfi ac Ynys Las, golygfeydd trawiadol Eryri ynghyd â nifer o atyniadau lleol fel Canolfan y Dechnoleg Amgen, Cestyll Hanesyddol a Gwarchodfa Natur yr RSPB, hefyd yn Ynys Las. Mae nifer o gyrsiau golff, llwybrau cerdded a seiclo gerllaw, ynghyd â chanolfan beicio mynydd byd-enwog Coed-y-Brenin, ger Dolgellau.
Cerdded
Llwybr Glyndwr – llwybr cerdded hir yng nghanolbarth Cymru a gafodd statws Llwybr Cenedlaethol yn 2000. Gellir cael mapiau a theithlyfrau o’r Ganolfan Croeso ym Machynlleth. 5 milltir o’r bwthyn.
Llwybr Dyffryn Dyfi – dilynwch Afon Dyfi o’r aber yn Aberdyfi at ei tharddiad wrth gopa’r Aran Fawddwy ac yna’n ôl i lawr ochr ddeheuol yr afon trwy Fachynlleth a lawr i’r Borth. Gellir cael mapiau a theithlyfrau o’r Ganolfan Croeso ym Machynlleth. 5 milltir o’r bwthyn.
Llwybr Mawddach – Addas i bob oed – cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn. 22 milltir
Cadair Idris (mynydd) - 3 prif lwybr yn dechrau o Finffordd (14 milltir), Abergynolwyn (17 milltir) a Dolgellau (22 milltir).
Beicio
Beicio Mynydd Dyfi – gellir llogi beiciau mynydd o siop yr Holy Trail ym Machynlleth. Mae pob llwybr yn cychwyn ym Machynlleth. 5 milltir
Llwybr Mawddach – Fel uchod
Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – Llwybrau addas i bob oed. 28 milltir
Chwaraeon Dwr
Clwb Hwylio Clywedog – llyn 6 milltir, agored i bob math o gychod heb beiriant, o ganw i fwrdd hwylio i ddingi a chriwser. 9 milltir.
Chwaraeon Dwr yn Aberdyfi yn cynnwys hwylio, hwyl fyrddio, rhwyfo, canwio, pysgota a theithiau cychod. 16 milltir
Pysgota
Afon Dyfi – pysgota gwych ac afon enwog am ei brithyll brown, eogiaid a brithyll môr. 5 milltir.
Golff
Clwb Golff Machynlleth – cwrs golff 9 twll. 5 milltir
Clwb Golff Aberdyfi - cwrs golff 18 twll. 16 milltir