- £387 yr wythnos
- £55 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 3 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Gyda golygfeydd gwych o gefn gwlad hyd at fynyddoedd y Preseli, mae'r bwthyn hwn yn derbyn anifeiliaid anwes ac yn leoliad delfrydol ar gyfer eich arhosiad yng Ngorllewin Cymru. Mae'r cyn-ysgubor gyda digon o le tu allan gyda gardd gaeedig, lle parcio a lawnt fawr - lle perffaith i deulu a ffrindiau fwynhau. O draethau trawiadol Amroth, Saundersfoot a Dinbych y Pysgod, i barciau gweithgaredd ac antur ac atyniadau bob tywydd megis Oakwood, y Parc Dinosaur, a Fferm Folly, mae'r bwthyn hwn ond taith fer yn y car i'r llefydd hyn a llawer mwy.
Llawr Gwaelod
Lolfa gyda stôf goed, soffas cyfforddus, teledu (gyda Freeview), DVD, dreser drawiadol Gymreig, dewis eang o daflenni gwybodaeth, llyfrau a gemau.
Cegin fawr gyda'r holl offer yn cynnwys bwrdd a chadeiriau, peiriant golchi llestri, meicrodon, popty a hob trydan, tegell, tostiwr, oergell/rhewgell.
Ystafell iwtiliti gyda sinc, peiriant golchi dillad a storfa.
Ystafell ymolchi gyda toiled a basn.
Ystafell qwely 1 - gyda gwely dwbwl a chypyrddau dillad
Ystafelll wely 2 - dau wely sengl a chypyrddau dillad
Ystafell ymolchi gyda toiled, baddon a chawod
Ystafell wely 3 - gwely dwbwl, cypyrddau dillad, ystafell ymolchi en-suite gyda toiled, basn a chawod. Gyda golygfeydd anhygoel.
Tu Allan
Digon o le tu allan gyda lawnt, lle parcio, bwrdd a chadeiriau. Y lle delfrydol i eistedd tu allan, ymlacio a mwynhau'r golygfeydd. Barbaciw ar gael.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwelyau a thywelion ar gael
- Dewis da o lyfrau a gemau
- Cot a chadair uchel ar gael - dewch â dillad eich hun i'r cot
- Wifi ar gael (perffaith ar gyfer defnydd normal ond ddim yn ddigon cryf ar gyfer lawrlwytho ffilmiau ayd)
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dim ysmygu
- Croesewir anifeiliad anwes (mwyafrif o 2 gi am £30 y ci)
- Parcio ar gyfer nifer o geir
- 1 basgedaid o goed am ddim gyda mwy ar gael i'w prynu'n lleol os oes angen
Gwybodaeth ar gyfer yr Anabl a'r Llai Abl
- I gyd ar un lefel
- Ramp ar gael i fynd mewn i'r bwthyn gyda cadair olwyn
- Dim stepiau a gellir cael mynediad i'r ardd gyda cadair olwyn
- Y gegin, ardal fyw, ystafelloedd ymolchi ac ystafell wely yn addas ar gyfer cadair olwyn gyda chylch dro o 1200mm
- Mae'r ddwy gawod yn rhai y gellir cerdded i mewn iddynt
- Croesewir cwn tywys