Ty Dolffin

Tresaith, West Wales

  • 5 Star Gold
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer20% offer on stays until end of May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £3,227 yr wythnos
  • £461 y noson
  • 5 Star Gold
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Ystafell chwaraeon
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 4 o welyau king/super-king
  • 4 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 6 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Balconi
  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 15:30
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Llety gwyliau trawiadol yn Nhresaith mewn lleoliad sydd â golygfeydd anhygoel o'r môr o bob lefel. Wedi ei ddylunio a'i ddodrefni i'r safon uchaf posib, mae'n cynnwys sawl balconi, ystafell sinema gyda sgrîn 75", ystafell chwaraeon, a phopeth y byddech angen ar gyfer aduniad teulu neu ffrindiau yn Nhresaith. Mae'r llety hwn yn derbyn anifeiliaid anwes a chaniateir hyd at 2 gi. Mae traeth euraidd bellter cerdded i ffwrdd, yn ogystal â'r Ship Inn, tafarn leol ar ymyl y traeth. Mae llwybr arfordirol Ceredigion yn pasio gerllaw ac fe geir pysgota, beicio, caiacio, canwio a llawer mwy yn yr ardal. Mae'r rhan hwn o arfordir Gorllewin Cymru yn enwog am ei ddolffiniaid a gellir eu gweld o'r lan neu ar gwch o Cei Newydd.

Llawr Gwaelod

Wrth fynd i mewn i'r llety mae yna risiau trawiadol yn arwain i fyny i'r prif ardal fyw.

Ystafell wely 1 - gwely maint king gydag uned ymolchi. En-suite gyda baddon, cawod, toiled a basn.

Ystafell wely 2 - gwely maint king gydag uned ymolchi. Teledu ar y wal. En-suite gyda baddon, cawod, toiled a basn.

Ystafell wely 3 - gwely maint king gydag en-suite yn cynnwys cawod, toiled a basn. Mae drws yn cysylltu'r ystafell hon gydag ystafell wely 4 sy'n ddelfrydol ar gyfer teulu. 

Ystafell wely 4 - dau wely sengl maint llawn. Drws yn cysylltu ag ystafelly wely 3.

Ystafell chwaraeon gyda bwrdd pwl, tenis bwrdd a bwrdd dartiau. Drysau patio yn agor i'r tu allan.

Ystafell iwtiliti gyda peiriant golchi dillad ac oergell ychwanegol.

Ystafell ymolchi sy'n ddelfrydol ar gyfer golchi dillad y traeth, cwn, neu offer chwaraeon - yn cynnwys cawod a toiled.

Lle yn y garej ar gyfer offer chwaraeon ac yn cynnwys ystod eang o lyfrau a gemau. 

Llawr Cyntaf

Cegin drawiadol gyda'r holl offer angenrheidiol, wyneb gweithio cwarts ac ynys fawr gyda stolion. Offer Miele, 2 bopty sengl, sinc Belfast dwbwl, meicrodon cyfunol, 2 beiriant golchi llestri, peiriant coffi, 2 oergell, rhewgell fawr, tap dwr berwedig a hob serameg gyda 6 cylch. Nifer o lyfrau coginio.

Bwrdd bwyta crwn ar gyfer 8, ond gellir ei ymestyn i eistedd 12. Perffaith ar gyfer achlysur arbennig neu aduniad. 

Lolfa gyda soffas cyfforddus a lle i 9 eistedd.

Ystafell sinema gyda teledu 75" 4K, Amazon Prime, BT a Premier Sports gyda system sain amgylchynol Bose.

Ystafell hongian cotiau gyda toiled a basn.

Orendy/ystafell ddarllen gyda drysau mawr yn agor allan i'r teras yn y cefn. Seddi cyfforddus a dewis eang o lyfrau a gemau. 

Ail Lawr

Ystafell wely 5 - ffenestri o'r llawr i'r nenfwd i fwynhau'r golygfeydd anhygoel o'r gwely maint king. Teledu, uned ymolchi a soffa. En-suite gyda cawod, baddon jacuzzi, bidet, toiled a basn. O'r ystafell wely mae balconi preifat â golygfeydd o'r môr, gyda mynediad i balconi i'r ochr sydd â chadeiriau haul. Perffaith ar gyfer ymlacio.

Mezzanine - grisiau sbiral o ystafell wely 5 i mezzanine gyda 2 wely sengl. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer teulu os oes angen. 

Balconi i'r ochr gyda mynediad arwahan i'r llety. Cadeiriau haul. 

Tu Allan

Ardal balmantog gyda pwll bach metr o ddyfnder (gwnewch yn siwr fod plant bach yn cael eu goruchwylio bob amser). Teras cefn gyda mynediad ar hyd ramp (tu allan) neu drwy'r Orendy ar y llawr cyntaf. Popty pitsa/coed, barbaciw a dodrefn gardd. Uwchben y teras mae gwelyau blodau. 2 balconi a digon o le tu allan. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr a llaeth    

Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   

Trydan a gwres canolog yn gynwysedig. Gwres dan y llawr    

Cadair uchel a chot trafeilio ar gael - noder yr angen pan yn archebu. Dewch â dillad eich hun i'r cot    

Wi-Fi 

Digon o le parcio    

Dylid goruchwylio plant ar bob achlysur pan yn agos i'r pwll y tu blaen i'r llety   

Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad: Cegin - pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, cynhwysion cegin megis sbeisys a pherlysiau, blawd, olew, finegar ayb; Ystafell Ymolchi - sebon, 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled; cynnyrch glanhau cyffredinol   

Dim ysmygu  

Caniateir anifeiliaid anwes - hyd at 2 gi ond ni chaniateir cwn ifanc    

Popty pitsa - coed tân a llyfrau coginio ar gael      

Offer traeth y perchennog ar gael yn cynnwys cadeiriau, atalfeydd gwynt, bwcedi, rhawiau, cychod gwynt ayb   

Ni chaniateir partion stag a phlu    

Gwybodaeth Hygyrchedd

Ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod a'r holl ystafellodd ymolchi gyda cawodydd y gellir cerdded i mewn iddynt    

Ystafell fyw ar y llawr cyntaf ond gellir cael mynediad ar hyd ramp tu allan yr adeilad sydd yn mynd fyny o'r llawr gwaelod i'r llawr cyntaf        

Pob drws yn 2'9" i'r ystafelloedd gwely a'r en-suites   

Lle parcio wrth ochr y llety yn disgyn ryw chydig tuag at y ffordd. Ardal helaeth a diogel i ddod allan o gerbydau    

Mynediad i'r ystafell wely ar yr ail lawr a'r mezzanine uwchben drwy risiau yn unig    

Lleoliad

Mae'r llety hunan ddarpar hwn yn Nhresaith yn sefyll ar godiad gyda golygfeydd anhygoel o'r môr. Mae traeth hardd ac euraidd yn Nhresaith gyda digon o weithgareddau chwaraeon dwr a thafarn y Ship Inn. Mae Aberporth, Aberteifi, Llangrannog a Cei Newydd i gyd yn gyfleus ar gyfer dewis o lefydd i fwyta ac yfed. 

Mae Canolfan yr Urdd Llangrannog ond 6 milltir i ffwrdd ac mae'n le delfrydol ar gyfer diwrnod allan i'r teulu cyfan, gyda nifer o weithgareddau ar y safle yn cynnwys llethr sgîo, cwrs marchogaeth, canolfan hamdden, pwll nofio a chanolfan  ddringo. Mae'r arfordir cyfan yn enwog am ei ddolffiniaid a gellir archebu trip i fynd i'w gweld o bentref hardd Cei Newydd (13 milltir) neu Aberteifi (8 milltir). Mae llwybrau cerdded gwych yn yr ardal yn cynnwys rhan Ceredigion o Lwybr Arfordirol Cymru. 

Mae gweithgareddau ac atyniadau eraill ger y llety hwn yn cynnwys syrffio, Clwb Golff Cwmrhydneuadd, Parc Fferm Arfordirol Ynys Aberteifi, Canolfan Fêl Cei Newydd a Castell Aberteifi. Mae Castell Cilgerran (11 milltir) sy'n edrych allan dros afon Teifi werth ymweld ag ef am ei hanes diddorol a golygfeydd a llwybrau cerdded gwych.   

Cerdded

Llwybr Arfordirol Ceredigion - yn pasio gerllaw (0.2 milltir)    

Traethau

Traeth Tresaith – traeth euraidd gyda gweithgareddau ar gael yn cynnwys hwylio a chwaraeon dwr eraill (0.3 milltir)    

Nifer o draethau eraill heb fod ymhell   

Chwaraeon Dwr

Caiacio, hwylio a mwy ar gael ar draeth Tresaith (0.1 milltir)    

Golff

Clwb Golff Cwmrhydneuadd - cwrs golff 9 twll (5 milltir)    

Clwb Golff Aberteifi - cwrs pencampwriaethol 18 twll, 6687 llath, Par 72 (12 milltir)    

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth yng Nghanolfan yr Urdd Llangrannog (6 milltir)    

Pysgota

Pysgota gwych yn Nhresaith, Penbryn a phentiroedd eraill (0.1 milltir)

Tripiau pysgota môr ar gael yn Aberteifi (8 milltir)    

Trwyddedau pysgota eog ar gael ar yr afon Teifi (9 milltir)