Ty Nant

Tresaith, West Wales

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer15% May Half term - 24th May - 31st May 2024
  • Special Offer10% offer on stays between 1st November and 20th December 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,198 yr wythnos
  • £171 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 4 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Balconi
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Preferred changeover day: Friday
  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Ty hyfryd yn sefyll ar ben ei hun mewn lleoliad tawel, o fewn pellter cerdded i'r traeth yn Nhresaith, ar arfordir trawiadol Gorllewin Cymru. Gellir gweld cip o'r môr drwy'r coed. Mae'r ty helaeth hwn gyda digon o le i 8 o westeion, yn ogystal â ci neu ddau. Mae'n leoliad perffaith ar gyfer aduniadau teuluol, gwyliau antur neu yn syml, i orffwys ac ymlacio. Mae traeth hyfryd 'Baner Las' yn Nhresaith, gyda chreigiau, rhaeadr enwog a thafarn, The Ship Inn, sy'n cynnig golygfeydd anhygoel ar draws Bae Ceredigion. Mae cyfleoedd chwaraeon dwr, cerdded, beicio, pysgota môr a thripiau cwch i weld dolffiniaid i gyd o fewn cyrraedd.

Mae gwres canolog, Wifi a gardd gaeedig yn y llety, yn ogystal â barbaciw, pydew tân, a sied i storio offer.

Llawr Gwaelod

Lolfa gyda lloriau pren, digon o seddi cyfforddus, teledu freeview, chwaraewr DVD, yn ogystal ac Amazon Fire Stick i gyfrif Netflix; drysau yn arwain allan i'r patio gyda cip olwg o'r môr drwy'r coed. 

Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys popty trydan a hob, oergell, rhewgell, peiriant golchi llestri a meicrodon; bwrdd a chadeiriau; ystafell iwtiliti arwahan gyda peiriannau golchi a sychu dillad.

Ystafell gotiau gyda thoiled a basn; swyddfa fach gyda desg; cyntedd gyda lle i hongian cotiau, llyfrau, gemau ac ail oergell. 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gyda gwely mawr king ac uned ymolchi. Ensuite gyda cawod dros y bath, toiled a basn.

Ystafell wely 2 - gyda gwely king ac ensuite yn cynnwys cawod, toiled a basn. 

Ystafell wely 3 - gyda gwely dwbwl.

Ystafell wely 4 - gyda dau wely sengl.

Ystafell ymolchi gyda cawod uwchben y bath, toiled a basn.

Tu Allan

Patio bach tu allan y lolfa; lawnt yn y ffrynt. Dec yn y cefn gyda dodrefn gardd, pydew tân, barbaciw. Sied i storio offer traeth ayb. Golygfeydd o'r môr drwy'r coed. 

Parcio ar gyfer 4-5 car. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Caniateir 2 gi; dim anifail arall
  • Ni chaniateir i gwn fynd fyny grisiau, na chael eu gadael eu hunain yn y ty; cofiwch lanhau fyny ar ôl eich cwn
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig (yn cynnwys rhai i'r traeth ac i'r cwn)
  • Barbaciw a phydew tân
  • Cot trafeilio a chadair uchel ar gael. Dewch â dillad eich hun i'r cot
  • Trydan a gwres yn gynwysedig
  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, bara cartref, menyn, jam, cacennau cri, potel o wîn, blodau ffres
  • Darperir y canlynol: Cegin - pupur a halen, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant, clytiau, olew, finegar ayb. Ystafell ymolchi - sebon a 2 rolyn papur i bob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
  • Wifi
  • Twb poeth preifat ar gael am £100 yr wythnos
  • Llyfrau darllen gan gynnwys llyfrau coginio
  • Offer glan môr yn cynnwys cadeiriau, blancedi ayb
  • Dylai plant fod dan oruchwyliaeth bob amser pan tu allan y llety
  • Dim ysmygu
  • DIM partion stag na plu

Lleoliad