- £766 yr wythnos
- £109 y noson
- 10 Guests
- 5 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Ystafell chwaraeon
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 4 o welyau sengl
- 1 gwely bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Llety hunan-ddarpar hardd a sylweddol yn nhref Cei Newydd ar arfordir hyfryd Gorllewin Cymru. Dafliad carreg o’r traeth, mae ganddo ardd teras gyda seti, barbiciw a golygfeydd hyfryd o’r môr. Mae traethau Cei Newydd yn ymestyn mewn bwa euraidd o amgylch y bae ac maent yn ddelfrydol ar gyfer ymlacio a mynd am dro ger y môr. Gallwch gerdded o un pen y Cei i’r llall neu eistedd yn un o’r caffis sy’n edrych dros yr harbwr a gwylio’r dolffiniaid. Archwiliwch ryfeddodau Bae Ceredigion ar drip cwch neu treuliwch brynhawn difyr yn pysgota am fecryll.
Llawr Dan Ddaear
Ystafell chwarae fawr gyda chwaraewr DVD, gemau a theganau.
Llawr Gwaelod
Lolfa â thân nwy, teledu Freeview, chwaraewr DVD a golygfeydd o’r môr. Ystafell fwyta gyda thân nwy, cegin newydd wedi ei ddarparu'n llawn (oergel/rhewgell, microdon, peiriant golchi dillad, peiriant golchi llestri, periant sychu dillad ayyb) ac iwtiliti, 1 ystafell ymolchi â chawod a thoiled. Drysau i ardd teras gyda golygfeydd godidog o Fae Ceredigion.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 a 2 – y ddwy gyda gwely maint king yr un.
Ystafell wely 3 - 1 gwely sengl.
Ail fathrwm efo bath a chawod (plîs byddwch yn ymwybodol fod hyn ychydig o stepiau i lawr)
Cegin gyflawn yn cynnwys microdon, peiriant golchi, golchwr llestri, sychwr dillad ayb).
Ystafell gyfleustodau efo peiriant golchi dillad, peiriant sychu dillad, bwrdd a haearn smwddio.
Ail Lawr
Ystafell wely 4 – Gwely bync
Ystafell wely 5 - 3 gwely sengl
Gardd
Gardd teras (3 teras) gyda llefydd i eistedd i fwynhau golygfeydd godidog Bae Ceredigion.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dillad gwely a thyweli yn gynwysedig.
Nid oes modd derbyn archeb o fewn 2 wythnos i'r dyddiad dechrau. Cysylltwch yn gyntaf yn yr achos yma.
Cot teithio a gwely sengl ychwanegol y gellir eu gosod yn unrhyw un o’r ystafelloedd.
Gall fod yn anaddas i'r anabl gan fod y bwthyn ar 4 llawr a'r ardd ar 3 teras. Os hoffech drafod pa mor addas ydyw, cysylltwch â ni.
Ceir digonedd o fyrddau nofio ac offer traeth yn Rhianfa, felly ni fydd angen i chi ddod a’r rhain gyda chi.
1 lle parcio tu allan y ty. Gellir parcio ceir ychwanegol ar hyd y stryd os oes lle (stryd fach dawel) neu yn y maes parcio (150m).
Ffotograffiaeth gan Angela Gidden MBE
Ymgynghorydd Creadigol yw Angela a chynllunydd blaengar yng Nghymru a’r tu hwnt.
Mae ganddi angerdd tuag at ddodrefn, cynllunio mewnol a ffasiwn, ffotograffiaeth, ei gwreiddiau Cymreig, tirlun trefol a naturiol ysbrydolgar Cymru lle mae wrth ei bodd yn darganfod calon, enaid a diwylliant y wlad trwy lens ei chamera.