- Cysgu 4 o bobl
- 2 Ystafell wely
- 1 Ystafell ymolchi
- Derbyn 2 anifail anwes
- WiFi
- Gardd neu iard amgaeëdig
Disgrifiad
Safle delfrydol ar lethrau'r Mynydd Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Lleoliad anhygoel gyda'i fywyd gwyllt, fflora a ffawna, a golygfeydd rhyfeddol, dyma baradwys i bawb sy'n caru byd natur. Perffaith ar gyfer cyplau, teuluoedd neu ffrindiau, mae llety Llwynrhosser wedi ei leoli ar fferm weithiol sydd yn cynnwys 20 acer o goetir hynafol, mae'n derbyn anifeiliaid anwes ac yn ddihangfa delfrydol i gefn gwlad. Mae gan yr ardal hon statws Awyr Dywyll gyda dim llygredd golau sydd yn caniatau golygfeydd syfrdanol o'r awyr yn y nos.
Mae'n bosib i chi ddod â'ch ceffylau eich hun ar y gwyliau gan fod stablau ar gael ar y fferm. Mae'r ardal yn nefoedd i farchogion gyda llwybr ceffylau yn mynd drwy'r fferm ac i fyny i'r mynydd.
Ar gyfer toriad rhamantaidd, gellir mwynhau prydau gyda'r nos mewn nifer o leoliadau hudol o gwmpas y fferm, yn cynnwys cuddfannau yn y coetir, neu ar y mynydd. Hyn i gyd drwy drefniant ymlaen llaw - holwch am fanylion pan yn archebu.
Y lleoliad perffaith ar gyfer gwylwyr adar ac ystlumod, cerddwyr, marchogion, gwylwyr sêr, y rhai sy'n caru byd natur, ac unrhyw un sydd angen cymryd yr amser i ymlacio.
Mae'r afon Sawdde Fechan yn rhedeg drwy'r fferm. Dyma afon sy'n rhedeg i'r Tywi. Gellir cael trwydded yn y pentref lleol, yn ystod y tymor pysgota.
Llawr Gwaelod
Cegin - gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty trydan NEFF, meicrodon, peiriant golchi llestri, oergell gyda rhewgell bach oddi mewn, gwres dan y llawr
Lolfa - soffas cyfforddus i eistedd 4, bwrdd bwyta a chadeiriau i 4
Ystafell Ymolchi - cawod y gellir cerdded i mewn iddi, toiled, basn a gwres dan y llawr
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gyda cypyrddau bach ger y gwely a chwpwrdd dillad
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 – dau wely sengl gyda cypyrddau bach ger y gwely a chwpwrdd dillad
Gardd
Gardd wedi ei chau i mewn gyda lawnt a dodrefn gardd. Coetir hynafol, afonydd a chaeau'n tyfu'n wyllt i'w mwynhau ar y fferm
Gwybodaeth Ychwanegol
Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth, potel o wîn a hanner dwsin o wyau fferm ffres
Yn addas ar gyfer yr anabl gydag ystafell wely ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod. Dim reiliau llaw nac offer arall ar y safle. Drysau yn addas ar gyfer cadair olwyn. Bydd angen ramp i gyrraedd y drws cefn
Ceffylau - £10 y ceffyl, y noson. Mwyafrif o 3 ceffyl
Dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt ar gael
Haearn a bwrdd smwddio ar gael
Yr holl drydan yn gynwysedig
Wi-fi am ddim
Cadair uchel a chot trafeilio ar gael os dymunir. Dewch â'ch dillad eich hunan i'r cot
Croeso i anifeiliaid anwes (mwyafrif o 2 gi) @ £12 y ci
Os dymunir, gallwn baratoi pryd min nos poeth o'n bwydlen dymhorol. Gadewch i ni wybod pryd a be ac fe wnawn ni'r gweddill
Lleoliadau rhamantus ar gyfer eich prydau min nos - gallwn drefnu lleoliad hudol awyr agored i weini eich bwyd. Digon o opsiynau i chi ddewis ohonynt
Yr eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
Llety delfrydol ar gyfer ymwelwyr a cheffylau i Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd
Dim ysmygu tu mewn y llety
Nodweddion
- Cysgu 4 o bobl
- 2 Ystafell wely
- 1 Gwely dwbl
- 2 Gwely sengl
- 1 Ystafell ymolchi
- Derbyn 2 anifail anwes
- WiFi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Friday newid
- 30 o draeth
- 6 milltir o dafarn
- 6 o siop
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ar fferm weithredol
- Parcio preifat
- Dillad gwely yn gynwysedig
- Peiriant golchi llestri
- Dim rhewgell
- Dim ysmygu
- Tywelion yn gynwysedig
- Dim peiriant sychu dillad
- Dim peiriant golchi
- Cadair uchel
- Cot symudol
Prisiau
Map
Calendr
Eitemau Ychwanegol
Holiday Extras
We've hand-picked a selection of Holiday Extras from trusted partners to make your holiday extra special. When you make your booking, you'll see all the Extras on offer at your chosen property and be able to add them to your holiday. Booking them in advance gives you more time to relax when you arrive, and remember - many of these offers are exclusive so you won’t find them anywhere else.

Corris Mine Explorers 10% off Mine Exploration Tours
First excavated in 1836, Braich Goch Slate Mine closed around 40 years ago. Go underground and see first-hand the kind of conditions miners had to work in.

Virgin Wines 12 Bottle Classic Wine Selection
This classic case oozes class and is perfect to give you various flavours from across the globe! Enjoy 2 bottles of each wine to encourage sharing or indulgence...
- Normal price
- £115.87
- Price
- £95.50

Virgin Wines 12 Bottle Luxury Wine Selection
This 12 bottle case is packed full of wines to blow you away with flavours and complexities all round – a case guaranteed to impress all who get the pleas...
- Normal price
- £175.87
- Price
- £131.90

Cadw 20% I FFWRDD O AELODAETH CADW
Wrth fod yn aelod o Cadw, mi gewch fynediad diderfyn i dros 100 o safloedd hanesyddol ar draws Cymru.Ar ben hynny, mae aelodaeth Cadw yn cynnwys:50% i ffwrdd o ...

Virgin Wines 6 Bottle Celebratory Wine Selection
A true Prosecco lover's case! No excuse is needed for this beautiful selection (so don’t let others tell you any different!). Start with the wonderful flo...
- Normal price
- £74.93
- Price
- £61.75

Virgin Wines 6 Bottle Classic Wine Selection
This 6 bottle classic case is perfect for those wanting to try something of everything – carefully selected to incorporate crowd pleasers from across the ...
- Normal price
- £60.93
- Price
- £47.95

Europcar Car Hire
Europcar, our preferred car hire partner, are offering you great quality UK car hire at affordable prices. With our dedicated offer you will save up to 20%.

Dineindulge Dineindulge - private dining service
Enjoy private dining in the comfort of your holiday property. Dineindulge offer a personal chef service with restaurant quality cuisine from only £25 per perso...

Little Welsh Hamper Company Luxury Welsh Hampers
Enjoy free delivery on fantastic luxury Welsh hampers during your holiday

Sponge Sponge Cakes
Want to celebrate during your holiday? 15% discount on award winning handmade sponge cakes delivered to your holiday cottage.
Ardal leol
Fe leolir Llwynrhosser ar y Mynydd Du, oddi mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r bwthyn ar fuarth y fferm ac yn ffinio ag ysgubor arall. Mae'r ysgubor a'r bwthyn arwahan i'r prif dŷ fferm.
Yn y Parc Cenedlaethol mae'r mynyddoedd, afonnydd, rhaeadrau, cestyll ac ogofau yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy'n mwynhau'r awyr agored. Mae'r ardal yn boblogaidd ar gyfer cerdded, beicio ffordd a beicio mynydd, marchogaeth, rhedeg, yn ogystal ag ymlacio a mwynhau'r harddwch naturiol. Mae'r afon Sawdde Fechan yn rhedeg drwy'r fferm. Mae ei ffynhonell yn Llyn y Fan, llyn hardd ar ochr y mynydd sy'n gysylltiedig â chwedl merch y llyn, tarddiad meddygon Myddfai. Mae Pen y Fan, mynydd uchaf De Cymru, 28 milltir i ffwrdd.
Fe welir barcutiaid coch yn hedfan uwchben y fferm gyda canolfan fwydo barcutiaid coch 3.5 milltir o'r bwthyn. Bydd y gwcw i'w chlywed ddiwedd y gwanwyn/ddechrau'r haf. Mae telor y cnau, cnocell y coed, cyffylog, ynghŷd â rhywogaethau eraill, yn byw yn hapus yn y coetir ar y fferm.
Y pentref agosaf yw Llangadog (6 milltir). Yma fe geir nifer o dafarndai croesawgar, swyddfa bost, siop cigydd a siop groser. Mae Llangadog ar linell rheilffordd Calon Cymru (heart of Wales) gyda gwasanaeth trên rheolaidd rhwng Abertawe a'r Amwythig.
Gerddi
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Gerddi Aberglasne o fewn cyrraedd i Llwynrhosser
Cestyll
Fe leolir Castell Carreg Cennen ar gopa bryn gyda caffi a gwaretheg Corn Hir
Traethau
Mae traethau Gŵyr a Sir Gâr awr i ffwrdd o'r bwthyn, ac maent yn cynnig traethau tywod ym Mharc Gwledig Pen-bre a Llan Steffan, ac yn Nhalacharn Dylan Thomas
Pysgota
Ceir trwyddedau i bysgota ar yr Afon Tywi yn Llangadog (6 milltir)
Golff
Mae Clwb Golff Glynhir yn Llandybie (13 milltir)
Marchogaeth
Gyda stablau ar y safle mae'n bosib i chi ddod â'ch ceffyl eich hun ar wyliau, neu gellir marchogaeth yng Nghanolfan Farchogaeth Dinefwr (13 milltir)
Chwaraeon Dŵr
Fe geir nifer o gronfeydd dŵr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lle gellir hwylio, caiacio a mwy. Mae yna bwll nofio yn Llanymddyfri (13 milltir)
Adolygiadau