Stone Barn Cottage - Ysgubor Cerrig

Llandysul, West Wales

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £614 yr wythnos
  • £88 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae’r bwthyn gwyliau hwn wedi ei leoli mewn ugain acer o gefn gwlad hyfryd a dolydd blodeuog yng Ngorllewin Cymru. Mae’r bwthyn hwn gyda twba poeth ac yn berffaith ar gyfer gwyliau llawn gweithgareddau, neu ar gyfer y rhai sydd eisiau ymlacio - boed hynny yn beintio, ysgrifennu, darllen neu eistedd a synfyfyrio. Ceir gerddi hyfryd o amgylch y bwthyn ac ardal neilltuedig gyda barbeciw ac ardal eistedd ar gyfer prydau ‘al fresco’. Mae bwthyn Stone Barn wedi ei gynllunio gyda chymysgedd o drawstiau agored wedi eu hamlygu a dodrefn cyfoes.

Llawr Gwaelod

Pa un ai eich bod ond yn bwriadu coginio brecwast yn ystod eich arhosiad, neu ginio rhost Cymreig llawn, bydd popeth sydd ei angen arnoch yn y gegin gyfarparedig bum seren hon. Mae hyn yn cynnwys peiriant golchi, peiriant golchi llestri a rhewgell/oergell.

Mae’r lolfa helaeth yn cynnwys teledu smart, DVD, CD/Stereo, a Gemau, Llyfrau, Cylchgronau a Jig-so.

Mae gan yr ystafell wely en-suite ar y llawr gwaelod welyau twin a chawod fawr ar lefel y llawr - sydd yn ddelfrydol ar gyfer gwestai gydag anawsterau cerdded.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely en-suite arall gyda gwely maint king a dau wely futon sengl maint llawn ar gyfer oedolion neu blant. Ystafell cadw dillad (walk-in wardrobe), ystafell ymolchi hyfryd gyda chynllun mosaig o’r ddraig goch Gymreig a chawod dros y bath. Mae ganddi yn ogystal fynediad uniongyrchol ei hun i lawr i’r gerddi amgylchynol.

Gardd

Twb poeth preifat.

Ceir gerddi hyfryd yr holl ffordd o amgylch y bwthyn, ac ardal neilltuedig gydag ardal eistedd ar gyfer prydau ‘al fresco’ a barbeciw.

Ynghanol y blodau gwyllt ceir Hafan yr Haf, ty haf sydd yn troi i ddal y wawr a’r machlud haul bendigedig. Mae’n lle hyfryd i ymlacio a mwynhau brecwast yn yr awyr agored neu wydryn bach gyda’r nos. Mae’r olygfa draw at yr arfordir a Mynyddoedd y Preseli yn ei wneud yn nefoedd i beintwyr ac ysgrifenwyr hefyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Digonedd o le parcio tu allan i’r drws.

Gwelyau wedi eu gwneud cyn i chi gyrraedd, a chaiff tywelion eu darparu hefyd ar gyfer eich arhosiad.

Cot teithio, cadair codi babi a mat newid ar gael - dewch â’ch dillad gwely eich hun ar gyfer y cot. 

Darperir llieiniau llestri, cadachau a nwyddau glanhau.

Te/coffi a llaeth yn barod ar eich cyfer pan fyddwch yn cyrraedd.

Gwres a thrydan yn gynwysedig.

Wifi ar gael.

Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu.

Lleoliad

Mae bwthyn gwyrdd Stone Barn wedi ei leoli ar Fferm Gastell, ger pentref Ffostrasol. Mae Ffostrasol chwe milltir i ffwrdd o Gastellnewydd Emlyn, chwe milltir o Landysul a tair milltir ar ddeg o Aberteifi. Mae’r bwthyn hefyd chwarter awr i ffwrdd o arfordir dreftadaeth hardd a thraethau tywodlyd Bae Ceredigion. Mae tafarn Ffostrasol, rwan yn enwog am ei fwyd bar blasus, ac mae’n rhaid i chi brofi cinio dydd Sul Betty (archebu bwrdd o flaen llaw yn angenrheidiol). Mae ‘La Calabria’ hefyd o fewn milltir, bwyty Eidalaidd sydd yn enwog am ei goginio cwbl Eidalaidd wedi ei gyfuno â chynnyrch ffres Cymreig. Ar waelod y dyffryn mae Caws Dyffryn Teifi wedi ei leoli, cynhyrchwr caws sydd wedi ennill gwobrau ac yn cyflenwi Harrods gyda’i gaws. Mae gan Aberteifi amryw o ddarpariaethau megis banc, swyddfa bost, caffi rhyngrwyd, archfarchnad, gorsaf betrol, fferyllfa, meddygfa, milfeddygfa, marchnad dan do a siopau annibynnol diddorol.

Gerllaw mae Llwybr Teifi, rhan o Rwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy’n arwain ein hymwelwyr beicio drwy olygfeydd anhygoel o arfordir Ceredigion, neu i mewn i’r tir i ganol y bywyd gwyllt a’r gwarchodfeydd natur o amgylch Tregaron. Dim ond chwarter awr yn y car ac fe fyddwch ger arfordir hyfryd Bae Ceredigion, gyda’i draethau glan, di-gyffwrdd Poppit Sands, Llangranog, Penbryn, Mwnt a threfi porthladd swynol Ceinewydd, Tresaith a Thraethau Casnewydd. Mae Llwybr Treftadaeth yr Arfordir yn darparu cerdded ar hyd clogwyni, a golygfeydd bendigedig ar hyd arfordir Ceredigion a Sir Benfro gyda golygfeydd o byllau, adar môr, morloi ac weithiau dolffiniaid.

Wedi eu gwasgaru ar hyd yr ardal mae nifer o safleoedd hanesyddol canoloesol hynafol, o gaerau Celtaidd i gloddfeydd Rhufeinaidd a mynachlogydd Cymreig o’r Oesoedd Canol. Mae’n werth ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a thy a gardd Aberglasney sydd wedi eu hadnewyddu o’r ail ganrif ar bymtheg yng Nghaerfyrddin. Mae yna hefyd nifer o fwytai a thafarndai gwych yn y cyffiniau lle gallwch fwynhau bwyd cartref lleol neu brydau mwy egsotig yn ystod eich arhosiad yng Ngorllewin Cymru. Pa un ai fod gennych ddiddordeb mewn cerdded ,beicio, pysgota, hwylio, golff neu farchogaeth ar draeth, pori drwy siopau antique a chrefftau lleol, ymweld â’r safleoedd hanesyddol bydd digonedd o bamffledi gwybodaeth yn eich bwthyn gwyliau.

Chwaraeon Dwr

Yng Nghlwb Hwylio Canw Llandysul cewch rafftio dwr gwyn, canwio a chaiacio gyda golygfeydd gwych ar hyd afon Teifi, 7.2 milltir.

Canolfan Chwaraeon Dwr Ceredigion Cei Newydd, 10.4 milltir.

Cerdded

Llawer o deithiau cerdded lleol o drothwy’r drws sy’n addas ar gyfer pob lefel a gallu. Clwb cerdded lleol a theithiau tywys ar gael. Llwybr Arfordir Ceredigion, 10 milltir.

Pysgota

Cymdeithas Pysgota â gwialen Llandysul wedi ei lleoli’n gyfagos gyda thrwyddedau ar gyfer pysgota eog a brithyll brown ar yr enwog Afon Teifi, 4.3 milltir.

Pysgota môr – Mae Bae Ceredigion yn enwog am ei ddraenogiaid y môr a’i merfog a gellir hurio cwch o sawl porthladd bychan yng Ngheredigion, 10 milltir.

Golff

Cwrs Golff Saron, Penwern - cwrs 9 twll gyda 18 ti.

Beicio

Mae yna lwybrau beicio ar gyfer pob oed a gallu. Mae yna le i chi storio eich beiciau yn ddiogel yn y bwthyn neu gellir paratoi llogi beiciau o flaen llaw. Lonydd gwledig distaw o’r bwthyn yn berffaith ar gyfer beicio. Llwybr Teifi, 6 milltir.

Merlota

Mae marchogaeth ar gael mewn sawl lleoliad gan gynnwys Gilfach yr Halen, Llwyncelyn, 12 milltir.