Madiwela

Cardigan, West Wales

  • 4 Star Gold
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £944 yr wythnos
  • £135 y noson
  • 4 Star Gold
  • This property can be found on Niche Retreats

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Gyda golygfeydd anhygoel o’r môr, y traeth, y dafarn leol a’r cwrs golff, mae’r llety hwn yn cynnig profiad 5 seren rhagorol. Gellir gweld dolffiniaid yn aml yn y bae o ffenestr y gegin. Mwynhewch yr olygfa neu, os ydych chi’n teimlo’n fwy egnïol, ewch am dro ar hyd y Llwybr Arfordirol ac ymwelwch â’r traeth hyfryd ym Mwnt a’r eglwys leol fechan. Mae’r bwthyn yng Ngwbert, sydd ond yn daith fer mewn car o Aberteifi ac sy’n wych ar gyfer teuluoedd neu ffrindiau. Ewch ar gwch cyflym, ewch i grwydro o amgylch Castell Aberteifi sydd wedi’i adnewyddu’n llwyr, neu ewch i sgïo ar y llethr yn Llangrannog! 


Eiddo Newydd Sbon


Llawr Gwaelod

Cegin fawr gyda phopeth sydd ei angen arnoch – ynys, ffwrn ddwbl Rangemaster â hob 6 chylch nwy, oergell maint llawn, microdon, tostiwr, a bwrdd bwyta gyda seddi i 8 o bobl. 

Ardal agored â chyntedd gwydr iddo sy’n rhan hyfryd o’r lolfa, yn edrych allan ar draws y Bae. Man eistedd cyfforddus gyda soffas i 6 o bobl. Teledu, chwaraewr DVD a chwaraewr CD.

Ail fan bwyta neu ystafell ddarllen / ysgrifennu drws nesaf i’r lolfa. Bwrdd a chadeiriau i 4 a desg neu fwrdd ymbincio mawr.

Ystafell iwtiliti gyda rhewgell maint llawn (7 drôr), peiriant golchi dillad, basn a man storio.

Ystafell ymolchi (mynediad gan ddefnyddio rhes fer o risiau) – tŷ bach a basn.


Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 – Prif ystafell gyda gwely mawr iawn ac en-suite. Cawod en-suite y gellir cerdded i mewn iddi. Ystafell fawr gyda golygfeydd anhygoel o’r môr.

Ystafell wely 2 – Ystafell ddwbl, hefyd â golygfeydd anhygoel o’r môr.

Ystafell wely 3 – Ystafell wely â 2 wely sengl sy’n edrych allan ar gefn yr eiddo. Gellir cyfuno’r gwelyau i wneud gwely dwbl.

Prif ystafell ymolchi gyda bath a chawod drosto, drych maint llawn, tŷ bach a basn.


Tu Allan

Ardal flaen â lawnt gyda nodwedd dŵr, golygfeydd gwych di-dor o’r môr o’r lawnt blaen.

Teras a gardd yn y cefn gyda dodrefn gardd i eistedd arno a mwynhau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd pecyn yn barod i’ch croesawu yn cynnwys te, coffi, siwgr a llaeth.

Darperir dillad gwely a thyweli.

Trydan a gwres canolog yn gynwysedig. Gwres o dan y llawr.

Cadair uchel, cot teithio a giât grisiau ar gael ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.

Wi-fi ar gael.

Digon o le i barcio ar y dreif.

Darperir yr eitemau a ganlyn hefyd yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad.
Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri, cadachau llestri a sgwrwyr newydd.
Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn o bapur ym mhob tŷ bach.
Cynnyrch glanhau cyffredinol: cannydd, glanhawr cawod, hylif gwrthfacteria ac ati.

Dim ysmygu y tu mewn a dim anifeiliaid anwes.

Er gwybodaeth, er mai dŵr bas sydd yn y nodweddion dŵr yn yr ardd, ni ddylid gadael plant ifanc heb eu gwarchod o’u cwmpas.

Lleoliad

Mae’r bwthyn gwyliau hwn sydd ar ei ben ei hun wedi’i leoli yng Ngwbert, 2.5 milltir yn unig o Aberteifi ar y ffordd arfordirol. Mae Gwesty’r Cliff tua 500 metr drws nesaf gyda’i fwyty, sba a chwrs golff. Mae’r tŷ yn edrych dros dwll cyntaf y cwrs hwn. Mae Bistro Flat Rock ar draws y ffordd ac mae Clwb Golff Aberteifi 400 metr yn unig i ffwrdd. Mae Gwbert yn edrych dros draeth Poppit lle mae afon Teifi, sy’n enwog am eog, yn cwrdd â’r môr ym Mae Ceredigion.

Mae Aberteifi ei hun yn dref ddiddorol, llawn hanes. Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yma yn y castell a adnewyddwyd o’r newydd. Yn ogystal â’r siopau cadwyn arferol mae nifer o siopau lleol gyda chynnyrch lleol gwych. Mae’r afon sy’n llifo drwy’r dref, y Teifi, yn enwog am fod yn un o’r afonydd eog gorau yn y DU. Yn draddiodadol, defnyddiwyd cwryglau i ddal y pysgod hyn, a gallwch ganfod mwy yn yr amgueddfa cwryglau yn rhaeadrau Cenarth. Mae Tresaith 8 milltir i’r gogledd lle mae traeth tywod euraidd, dwy dafarn groesawgar, bwytai, caffi a siop. Mae Canolfan yr Urdd yn Llangrannog yn berffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu: mae llethr sgïo, canolfan ferlota a chanolfan hamdden fodern ar y safle, a hefyd neuadd chwaraeon, cae ‘astro turf’ ac ystafell ffitrwydd. I’r de, mae gan bentref Trefdraeth, sir Benfro, nifer o leoedd lleol i fwyta a thraeth gwych arall.

Mae’r holl arfordir yn enwog am ddolffiniaid ac nid yw’n anghyffredin gweld ysgol o ddolffiniaid yn ymuno â chi tra byddwch yn caiacio o rai o’r traethau. Wrth gwrs, gallwch eu gwylio o’r tŷ ond, i gael golwg agosach, gallwch drefnu teithiau gwylio dolffiniaid hefyd o Aberteifi (3 milltir). Mae teithiau cerdded ardderchog yn yr ardal, gan gynnwys rhan Ceredigion o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan, a gallwch ymuno ag ef yn uniongrychol o flaen y tŷ.

Mae’r atyniadau a’r gweithgareddau eraill yn cynnwys Parc Fferm Arfordirol Ynys Aberteifi sy’n warchodfa natur arforol. Mae Cei Newydd yn bentref arfordirol hyfryd a, heb os, mae’n werth ymweld â Chastell Cilgerran (11 milltir) sy’n edrych dros afon Teifi gyda’i hanes diddorol ynghyd â golygfeydd a theithiau cerdded gwych.

Cerdded
Gallwch ymuno â rhan Ceredigion o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan ddim ond 0.2 milltir o’r bwthyn.

Traethau
Bae bychan o fewn pellter cerdded hawdd i’r tŷ – 0.1 milltir.

Traeth Mwnt – traeth tywod prydferth y gallwch gerdded iddo ar hyd y llwybr arfordirol neu yrru iddo. 3 milltir.

Chwaraeon Dŵr
Caiacio, hwylio a mwy ar gael ar draeth Tresaith – 8 milltir.

Golff
Clwb Golff Aberteifi – cwrs pencampwriaeth 18 twll yn mesur 6,687 llathen, Par 72, sydd ond yn bellter byr i gerdded. 0.2 milltir.

Merlota
Canolfan Ferlota yng Nghanolfan yr Urdd yn Llangrannog. 6 milltir.

Pysgota
Pysgota rhagorol o’r glannau yng Ngwbert o fannau caregog. Gallwch archebu teithiau ar gychod pysgota o Aberteifi. 3 milltir.

Gallwch brynu trwyddedau pysgota eog ar gyfer pysgota plu ar yr enwog afon Teifi – 2 filltir.

Beicio

Beicio ffordd gwych gyda heolydd tawel a chymysgedd o deithiau hawdd neu serth, heriol at fodd pawb – 0.1 milltir.