- £547 yr wythnos
- £78 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Wedi ei leoli yng nghefn gwlad odidog Gorllewin Cymru arferai'r bwthyn gwyliau hwn fod yn weithdy i’r gof, ond fe’i trawsnewidiwyd yn chwaethus yn ddiweddar, a llwyddwyd i gadw ei swyn gwreiddiol. Gerllaw ceir Coedwig Brechfa gyda’i llwybrau beicio mynydd byd enwog ac mae’r ardal hefyd yn un wych ar gyfer cerdded, pysgota eogiaid a mwynhau’r llonyddwch gwledig.
Llawr Gwaelod
Cegin ar gynllun agored, ardal fyw a bwyta gyda stôf llosgi coed drawiadol yn agorfa wreiddiol y lle tân.
Cegin – wedi ei darparu’n dda gydag oergell a rhewgell fawr yn un, peiriant golchi dillad, peiriant golchi llestri, popty trydan a hob, tostiwr a microdon.
Soffas lledr cyfforddus a chlyd i eistedd hyd at 6. Teledu sgrin fflat fawr gyda freeview ar fraced, fel bod modd ei haddasu er mwyn ei gweld o bob rhan o’r ystafell.
Bwrdd bwyta gyda lle i 6.
Grisiau troellog hyfryd yn arwain i’r ystafell wely oriel ar y llawr cyntaf. Dyluniwyd y grisiau gan artist a chrefftwr lleol.
Ystafell wely 1 – Ystafell twin gyda chwpwrdd dillad a chist ddroriau.
Ystafell ymolchi – ystafell ymolchi fawr gyda bath roll top, toiled, sinc ac uned gawod ar wahân.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - mae'r brif ystafell wely yn ystafell wely oriel fawr gyda chist ddroriau a storfa. Golygfeydd gwych o gefn gwlad a'r pentref.
Tu Allan
Bwrdd a chadeiriau gardd mewn ardal ardd fawr i'w rhannu. Rhennir yr ardd gydag eiddo'r perchnogion drws nesaf, fodd bynnag maent i ffwrdd am gyfnodau hir o’r flwyddyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwlau a thywelion yn cael eu darparu
- Detholiad gwych o lyfrau a gemau i blant.
- Storfa ddiogel ar gyfer beiciau.
- Nid oes signal ffon symudol ym mhob rhan o'r eiddo.
- Wifi yn gynwysedig.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Dim ysmygu.
- Croesewir anifeiliaid anwes (2 gi ar y mwyaf, £20 yr anifail).
- Parcio tu allan i'r bwthyn.
- 1 basged o goed am ddim, digonedd ar gael i'w prynu os oes angen mwy.