- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- £756 yr wythnos
- £108 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Dringo
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
- Pwynt gwefru modur trydan
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mae Llety Elan wedi ei leoli o fewn gardd eang, gyda twb poeth preifat, stôf goed, gwres dan y llawr a llawer mwy. Mae tref arfordirol Aberystwyth o fewn 3 milltir sy'n cynnig ystod eang o adnoddau ac atyniadau. Gyda mynediad uniongyrchol i lwybr beicio Ystwyth sy'n cysylltu Aberystwyth a Thregaron.
Yn ogystal â chaffis a bwytai, mae gan Aberystwyth ddau draeth a phromenâd, gyda'r pier hynaf yng Nghymru, castell canoloesol,a rheilffordd y graig. Hefyd rheilffordd gul i Bont ar Fynach, sinema draddodiadol, prifysgol a Chanolfan Celfyddydau mwyaf Cymru.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw fawr ar gynllun agored, yn cynnwys cegin, ardal fwyta a lolfa. Gwres dan y llawr a drysau patio yn arwain i lawnt a thwb poeth preifat.
Cegin fodern gyda popty a hob trydan, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriant golchi llestri a peiriant golchi dillad.
Bwrdd bwyta rhwng y gegin a'r lolfa.
Lolfa fawr gyda soffas lledr, yn mwynhau golygfeydd allan i'r patio a'r twb poeth. Stôf goed a theledu 40".
Ystafell wely 1 - gwely maint king mawr neu dau wely sengl os dymunir (noder hynny pan yn archebu). Teledu ar y wal a soffa - delfrydol ar gyfer plant neu taid a nain!
Ystafell ymolchi gyda cawod, toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - ystafell fawr gyda gwely maint king. Ffenestr fawr i fwynhau'r golygfeydd. Digon o le ar gyfer cot os oes angen.
Ystafell wely 3 - gyda dau wely sengl a ffenestri ar ddwy ochr.
Ystafell ymolchi fodern gyda baddon yn sefyll ar ben ei hun, cawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Gardd fawr gaeedig gyda lawnt artiffisial yn y ffrynt. Twb poeth preifat a golygfeydd pellgyrhaeddol. Bwrdd a chadeiriau ar y patio, a sied i gadw beiciau ayb.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr a llaeth, cacennau cri a Prosecco
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig. Dewch â thywelion eich hun i'r traeth a'r twb poeth
- Trydan a gwres canolog yn gynwysedig
- Basgedaid gyntaf o goed yn gynwysedig. Gellir prynu mwy o goed yn Aberystwyth yn B&M neu Charlie's Stores
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r staer i'w cael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- 1 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Croesewir un ci (mae'n bosib y caniateir un arall drwy gais)
- Dim ysmygu y tu mewn
- Lle parcio i 3 gar
- Dim stepiau i'r llety sy'n ei wneud yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n llai abl
- Fe ddarperir y canlynol:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
Lleoliad
Mae Llety Elan wedi ei leoli o fewn gardd eang, mewn lleoliad tawel ym mhentref Llanfarian, lai na 3 milltir o dref brysur Aberystwyth ar arfordir Bae Ceredigion. Mae Llanfarian yn cynnig siop bentref a siop sgodyn a sglodion drwyddedig.
Mae tref brifysgol Aberystwyth yn cynnig siopau niferus, bwytai, caffis a thafarndai, yn ogystal ac archfarchnadoedd, a siop M & S newydd. Mae yma hefyd 2 draeth a phromenâd, yn ogystal â mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordirol Cymru. Yn gartref i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru a Chanolfan y Celfyddydau (y ganolfan gelf mwyaf yng Nghymru), yn ogystal â sinema draddodiadol, castell ac amgueddfa. Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i reilffordd y graig - yr hiraf ym Mhrydain a'r unig un o'i math yng Nghymru.
Ymysg y bwytai â argymhellir mae'r Glengower, Baravin, Gwesty Cymru, Byrgyr a SY23 - i gyd wedi eu lleoli ar lan y môr yn Aberystwyth. Ar gyfer cinio dydd Sul mae'n werth ymweld â'r Marine, tra fod Tynllidiart Arms a Maes Bangor yn Capel Bangor (6 milltir), Y Ffarmers yn Llanfihangel y Creuddyn (7 milltir) a Halfway Inn yn Pisgah (7.4 milltir) werth ymweld â nhw. Hefyd digon o dafarndai gwych, yn cynnwys y Glengower a'r Ship & Castle ar gyfer cwrw lleol.
Ceir mynediad uniongyrchol i fynyddoedd y Cambrian a Chwm Rheidol o Aberystwyth. Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yn cynnig diwrnod allan poblogaidd i fyny i Bont ar Fynach (amserlen dymhorol), ardal sy'n llawn chwedloniaeth. Ar ôl cyrraedd Pont ar Fynach, dilynwch y llwybr ger ymyl yr afon i weld y tair pont sydd wedi eu hadeiladu un uwchben y llall, ac hefyd rhaeadr odidog. Beth am dretio eich hun i bryd o fwyd yn Hafod Arms cyn dal y trên nôl i Aberystwyth.
Gellir cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn 'Colossal Activities' - o golff i feicio mynydd, partion plant a llogi caiac. Mae'n bosib hefyd mwynhau trip i fynyddoedd y Cambrian gyda 'Cambrian Safaris' i weld y golygfeydd, hanes lleol a bywyd gwyllt. Mae atyniadau eraill yn cynnwys 'The Magic of Life Butterfly House', adfeilion abaty Sistersaidd Cymreig yn Ystrad Fflur, a'r Animalariwm yn Borth.
Traethau
- Traeth Gogleddol Aberystwyth - traeth tywod a graean a phrif atyniad y dref. Yn ystod tymor yr haf mae yma gastell neidio, mulod, a reidiau 'cwpan te' ar y prom sy'n sicrhau digon o weithgareddau i gadw'r plant yn hapus. Fe ganiateir cwn ar adegau tawel y flwyddyn (2.8 milltir)
- Traeth Deheuol Aberystwyth – traeth tywod a graean cysgodol - tawelach na'r traeth Gogleddol (2.8 milltir)
- Traeth Clarach – traeth tywod a graean cysgodol (tywod yn dod i'r golwg yn ystod llanw isel). Gellir teithio o Fae Clarach i Aberystwyth ar hyd llwybr milltir o hyd gyda golygfeydd anhygoel ar draws Bae Ceredigion (4.8 milltir)
- Traeth y Borth – traeth tywod 3 milltir o hyd. Gyda statws Baner Lâs a phoblogaidd gyda syrffwyr a theuluoedd (8.7 milltir)
Cerdded
- Llwybr Ystwyth - llwybr cerdded/beicio 20 milltir o hyd o Aberystwyth i Tregaron. O stepen y drws - 4 milltir i Aberystwyth, 16 milltir i Dregaron
- Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan - ymunwch â'r llwybr ar y promenâd yn Aberystwyth a mwynhewch arfordir amrywiol Bae Ceredigion (2.8 milltir)
- Pen Dinas - ymwelwch â chaer hanesyddol sy'n edrych i lawr ar Aberystwyth a'r arfordir (2.3 milltir)
- Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian - 3 llwybr gyda golygfeydd gwych (11 milltir)
- ‘Dilynwch y Mynach’ - llwybr 6.5 milltir o hyd yn dilyn yr afon o'i tharddiad i Bont ar Fynach ble mae'r rhaeadrau enwog (12 milltir)
Beicio
- Llwybr Ystwyth - fel uchod
- Llwybr Beicio Rheidol – llwybr 17 milltir o hyd o Bont ar Fynach, drwy Gwm Rheidol i lawr i'r harbwr yn Aberystwyth, y rhan fwyaf ar hyd lonydd tawel a llwybrau beicio penodol (2.8 milltir)
- Gellir dod o hyd i rai o'r traciau beicio mynydd gorau yng Nghymru a'r DU yng Nghanolfan Beicio Mynydd Nant yr Arian (11 milltir)
Pysgota
- Pysgota môr yn Aberystwyth (2.8 milltir)
- Gellir llogi cwch pysgota o'r Marina yn Aberystwyth
- Pysgota brithyll gwych yn yr afonydd a llynnoedd lleol. Gelli cael trwydded dyddiol o'r 'GB Fishing Shop' ar Stryd Corporation (2.6 milltir)
Golff
- Clwb Golff Aberystwyth – cwrs 18 twll gyda golygfeydd gwych (3 milltir)
- Clwb Golff y Borth – cwrs golff bencampwriaethol mewn lleoliad arfordirol anhygoel (8.7 milltir)
Marchogaeth
- Canolfan Farchogaeth Rheidol - cwrs neidio, a threcio o gwmpas Cwm Rheidol (6.7 milltir)
Gwylio Adar
- Nant yr Arian - yn cynnwys canolfan fwydo Barcutiaid Coch (11 milltir)
- Gwarchodfa Natur R.S.P.B yn Ynys-hir ar ochr ddeheuol aber yr afon Ddyfi (14 milltir)