Corlan Aber

Aberystwyth, West Wales

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,052 yr wythnos
  • £150 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Gyda twb poeth preifat ac ystafell chwaraeon, mae'r llety hwn yn derbyn anifeiliaid anwes ac yn darparu lleoliad gwych ar gyfer aduniadau. Lai na 3 milltir o dref Aberystwyth ar arfordir Bae Ceredigion, mae Corlan Aber yn mwynhau safle tawel ym mhentref Llanfarian. Gellir ymuno â Llwybr Beicio Ystwyth o stepen y drws, gyda mynediad uniongyrchol i siopau a bwytai Aberystwyth.

Mae Aberystwyth yn gartref i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru, dau draeth, promenâd, castell, rheilffordd y graig, a trên stêm i Bont ar Fynach. Heb anghofio Prifysgol Aberystwyth, sinema draddodiadol a Chanolfan Gelfyddydau fwyaf Cymru. 

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw agored siap-L yn cynnig ardal ymlaciol i deuluoedd neu ffrindiau, gyda gwres dan y llawr yn y lolfa a'r ardal fyw.

Cegin - gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell, rhewgell, popty, meicrodon a pheiriant golchi llestri. Mae'r ystafell iwtiliti cydffiniol yn cynnwys peiriant golchi dillad.

Ardal fwyta - bwrdd mawr ar gyfer 10 o westeion, yn edrych allan dros yr ardd gefn.

Lolfa - soffas a chadeiriau i'r holl westeion eistedd gyda'i gilydd, gyda teledu 40" ar y wal. Drysau patio yn arwain allan i'r ardd a'r twb poeth.

Ystafell Chwaraeon a Bar - ystafell arwahan gyda bar a bwrdd pool 6 troedfedd, a soffa. 

Ystafell wely - gwely maint king mawr(dau wely sengl - nodi wrth archebu) soffa fach ac ystafell gawod en-suite. Gan nad oes unrhyw stepiau i'r llety, dyma leoliad gwych i westeion llai abl. 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely - gyda gwely king mawr(dau wely sengl - nodi wrth archebu) En-suite mawr gyda cawod.

Ystafell wely 3 - gwely maint king.

Ystafell wely 4 - gyda dau wely sengl. 

Ystafell ymolchi yn cynnwys baddon gyda cawod oddi mewn, toiled a basn. 

Gardd

Gardd gaeedig gyda twb poeth preifat, bwrdd a chadeiriau i'r holl westeion. Lawnt artiffisial ar gyfer ei defnyddio drwy'r flwyddyn. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn Croeso yn cynnwys cacennau cri, Prosseco, te a choffi, siwgwr a llaeth     
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig    
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig - dewch â thywelion eich hun ar gyfer y twb poeth a'r traeth    
  • 1 sychwr gwallt
  • Llyfrau a gemau ar gael    
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r staer i'w cael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot 
  • Croesewir un ci (mae'n bosib y caniateir un arall drwy gais)   
  • Dim ysmygu y tu mewn
  • Lle parcio i 3 car  
  • Fe ddarperir y canlynol:
    • Cegin: 2 rolyn papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi cychwynnol i'r peiriant, clytiau a thywelion sychu llestri  
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol   

Lleoliad

Llety mawr delfrydol ar gyfer grwpiau ger Aberystwyth, mae Corlan Aber mewn lleoliad tawel ym mhentref Llanfarian, gyda gardd gaeedig a thwb poeth preifat. Chwarter milltir oddi ar y brif ffordd rhwng Aberystwyth ac Aberaeron. Mae Llanfarian yn cynnig siop bentref a siop sgodyn a sglodion drwyddedig. 

Mae tref brifysgol Aberystwyth yn cynnig siopau niferus, bwytai, caffis a thafarndai, yn ogystal ac archfarchnadoedd, a siop M & S newydd. Mae yma hefyd 2 draeth a phromenâd, yn ogystal â mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordirol Cymru. Yn gartref i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru a Chanolfan y Celfyddydau (y ganolfan gelf mwyaf yng Nghymru), yn ogystal â sinema draddodiadol, castell ac amgueddfa. Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i reilffordd y graig - yr hiraf ym Mhrydain a'r unig un o'i math yng Nghymru.

Ymysg y bwytai â argymhellir mae'r Glengower, Baravin, Gwesty Cymru, Byrgyr a SY23 - i gyd wedi eu lleoli ar lan y môr yn Aberystwyth. Ar gyfer cinio dydd Sul mae'n werth ymweld â'r Marine, tra fod Tynllidiart Arms a Maes Bangor yn Capel Bangor (6 milltir), Y Ffarmers yn Llanfihangel y Creuddyn (7 milltir) a Halfway Inn yn Pisgah (7.4 milltir) werth ymweld â nhw. Hefyd digon o dafarndai gwych, yn cynnwys y Glengower a'r Ship & Castle ar gyfer cwrw lleol.  

Ceir mynediad uniongyrchol i fynyddoedd y Cambrian a Chwm Rheidol o Aberystwyth. Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yn cynnig diwrnod allan poblogaidd i fyny i Bont ar Fynach (amserlen dymhorol), ardal sy'n llawn chwedloniaeth. Ar ôl cyrraedd Pont ar Fynach, dilynwch y llwybr ger ymyl yr afon i weld y tair pont sydd wedi eu hadeiladu un uwchben y llall, ac hefyd rhaeadr odidog. Beth am dretio eich hun i bryd o fwyd yn Hafod Arms cyn dal y trên nôl i Aberystwyth.

Gellir cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn 'Colossal Activities' - o golff i feicio mynydd, partion plant a llogi caiac. Mae'n bosib hefyd mwynhau trip i fynyddoedd y Cambrian gyda 'Cambrian Safaris' i weld y golygfeydd, hanes lleol a bywyd gwyllt. Mae atyniadau eraill yn cynnwys 'The Magic of Life Butterfly House', adfeilion abaty Sistersaidd Cymreig yn Ystrad Fflur, a'r Animalariwm yn Borth. 

Traethau

  • Traeth Gogleddol Aberystwyth - traeth tywod a graean a phrif atyniad y dref. Yn ystod tymor yr haf mae yma gastell neidio, mulod, a reidiau 'cwpan te' ar y prom sy'n sicrhau digon o weithgareddau i gadw'r plant yn hapus. Fe ganiateir cwn ar adegau tawel y flwyddyn (2.8 milltir)     
  • Traeth Deheuol Aberystwyth – traeth tywod a graean cysgodol - tawelach na'r traeth Gogleddol (2.8 milltir)    
  • Traeth Clarach – traeth tywod a graean cysgodol (tywod yn dod i'r golwg yn ystod llanw isel). Gellir teithio o Fae Clarach i Aberystwyth ar hyd llwybr milltir o hyd gyda golygfeydd anhygoel ar draws Bae Ceredigion (4.8 milltir)   
  • Traeth y Borth – traeth tywod 3 milltir o hyd. Gyda statws Baner Lâs a phoblogaidd gyda syrffwyr a theuluoedd (8.7 milltir)   

Cerdded

  • Llwybr Ystwyth - llwybr cerdded/beicio 20 milltir o hyd o Aberystwyth i Tregaron. O stepen y drws - 4 milltir i Aberystwyth, 16 milltir i Dregaron     
  • Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan - ymunwch â'r llwybr ar y promenâd yn Aberystwyth a mwynhewch arfordir amrywiol Bae Ceredigion (2.8 milltir)    
  • Pen Dinas - ymwelwch â chaer hanesyddol sy'n edrych i lawr ar Aberystwyth a'r arfordir (2.3 milltir)    
  • Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian - 3 llwybr gyda golygfeydd gwych (11 milltir)   
  • ‘Dilynwch y Mynach’ - llwybr 6.5 milltir o hyd yn dilyn yr afon o'i tharddiad i Bont ar Fynach ble mae'r rhaeadrau enwog (12 milltir)    

Beicio

  • Llwybr Ystwyth - fel uchod
  • Llwybr Beicio Rheidol – llwybr 17 milltir o hyd o Bont ar Fynach, drwy Gwm Rheidol i lawr i'r harbwr yn Aberystwyth, y rhan fwyaf ar hyd lonydd tawel a llwybrau beicio penodol (2.8 milltir)     
  • Gellir dod o hyd i rai o'r traciau beicio mynydd gorau yng Nghymru a'r DU yng Nghanolfan Beicio Mynydd Nant yr Arian (11 milltir)   

Pysgota

  • Pysgota môr yn Aberystwyth (2.8 milltir)   
  • Gellir llogi cwch pysgota o'r Marina yn Aberystwyth 
  • Pysgota brithyll gwych yn yr afonydd a llynnoedd lleol. Gelli cael trwydded dyddiol o'r 'GB Fishing Shop' ar Stryd Corporation (2.6 milltir)    

Golff

  • Clwb Golff Aberystwyth – cwrs 18 twll gyda golygfeydd gwych (3 milltir)     
  • Clwb Golff y Borth – cwrs golff bencampwriaethol mewn lleoliad arfordirol anhygoel (8.7 milltir)    

Marchogaeth

  • Canolfan Farchogaeth Rheidol - cwrs neidio, a threcio o gwmpas Cwm Rheidol (6.7 milltir)    

Gwylio Adar

  • Nant yr Arian - yn cynnwys canolfan fwydo Barcutiaid Coch (11 milltir)  
  • Gwarchodfa Natur R.S.P.B yn Ynys-hir ar ochr ddeheuol aber yr afon Ddyfi (14 milltir)