- £796 yr wythnos
- £114 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Gyda twb poeth preifat ac ystafell chwaraeon, mae'r llety hwn yn derbyn anifeiliaid anwes ac yn darparu lleoliad gwych ar gyfer aduniadau. Lai na 3 milltir o dref Aberystwyth ar arfordir Bae Ceredigion, mae Corlan Aber yn mwynhau safle tawel ym mhentref Llanfarian. Gellir ymuno â Llwybr Beicio Ystwyth o stepen y drws, gyda mynediad uniongyrchol i siopau a bwytai Aberystwyth.
Mae Aberystwyth yn gartref i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru, dau draeth, promenâd, castell, rheilffordd y graig, a trên stêm i Bont ar Fynach. Heb anghofio Prifysgol Aberystwyth, sinema draddodiadol a Chanolfan Gelfyddydau fwyaf Cymru.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw agored siap-L yn cynnig ardal ymlaciol i deuluoedd neu ffrindiau, gyda gwres dan y llawr yn y lolfa a'r ardal fyw.
Cegin - gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell, rhewgell, popty, meicrodon a pheiriant golchi llestri. Mae'r ystafell iwtiliti cydffiniol yn cynnwys peiriant golchi dillad.
Ardal fwyta - bwrdd mawr ar gyfer 10 o westeion, yn edrych allan dros yr ardd gefn.
Lolfa - soffas a chadeiriau i'r holl westeion eistedd gyda'i gilydd, gyda teledu 40" ar y wal. Drysau patio yn arwain allan i'r ardd a'r twb poeth.
Ystafell Chwaraeon - ystafell arwahan gyda bwrdd dartiau (dewch â dartiau eich hun) a bwrdd pwl bach. Oergell arall os oes angen.
Ystafell wely - gwely maint king mawr, soffa fach ac ystafell gawod en-suite. Gan nad oes unrhyw stepiau i'r llety, dyma leoliad gwych i westeion llai abl.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely - gyda gwely king mawr. En-suite mawr gyda cawod.
Ystafell wely 3 - gwely maint king.
Ystafell wely 4 - gyda dau wely sengl.
Ystafell ymolchi yn cynnwys baddon gyda cawod oddi mewn, toiled a basn.
Gardd
Gardd gaeedig gyda twb poeth preifat, bwrdd a chadeiriau i'r holl westeion. Lawnt artiffisial ar gyfer ei defnyddio drwy'r flwyddyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn Croeso yn cynnwys cacennau cri, Prosseco, te a choffi, siwgwr a llaeth
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig - dewch â thywelion eich hun ar gyfer y twb poeth a'r traeth
- 1 sychwr gwallt
- Llyfrau a gemau ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r staer i'w cael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Croesewir un ci (mae'n bosib y caniateir un arall drwy gais)
- Dim ysmygu y tu mewn
- Lle parcio i 3 car
- Fe ddarperir y canlynol:
- Cegin: 2 rolyn papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi cychwynnol i'r peiriant, clytiau a thywelion sychu llestri
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol