Sgubor Nantcoy

Aberystwyth, West Wales

  • 5 Star
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £604 yr wythnos
  • £86 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 17:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn steilus gyda twb poeth preifat ger Aberaeron ar arfordir trawiadol Ceredigion. Delfrydol ar gyfer gwyliau bach rhamantus, mae'r bwthyn hwn wedi ei adnewyddu'n ddiweddar ac yn derbyn anifeiliaid anwes. Gyda trawstiau agored, llawr modern o goncrit wedi sgleinio, stôf goed groesawgar a thwb poeth, dyma'r bwthyn perffaith ar gyfer ymlacio a dadflino. Mae Cei Newydd, Aberaeron ac Aberystwyth i gyd o fewn taith fer gyda digon o ddewis o lefydd i fwyta allan a mwynhau. Mae Mynyddoedd Cambrian yn cynnig golygfeydd anhygoel yn ogystal ag ystod eang o weithgareddau awyr agored megis cerdded, pysgota, beicio mynydd, gwylio adar a llawer mwy. (Gyda gwely soffa ar y mezzanine i gysgu hyd at 4).

Llawr gwaelod

Lolfa, ardal fwyta a chegin ar gynllun agored.

Cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell a rhewgell SMEG, popty a hob trydan, peiriant golchi llestri a meicrodon. 

Bwrdd bwyta a chadeiriau i 4.

Lolfa gyda teledu ar y wal, soffa ledr gyfforddus a 2 gadair freichiau. Stôf goed (basgedaid gyntaf o goed yn gynwysedig).

Ystafell wely 1 - gwely maint king gydag uned ymolchi a chwpwrdd dillad.

Ystafell ymolchi gyda baddon, toiled, basn ac uned gawod arwahan. Step 20mm i mewn i'r gawod. 

Llawr cyntaf

Mezzanine gyda gwely soffa lledr (i gysgu 2 ychwanegol) gyda golygfeydd.

Tu allan

Gardd breifat gaeedig gyda twb poeth, bwrdd a chadeiriau i 4.

Gwybodaeth ychwanegol    

  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig     
  • Trydan a gwres canolog yn gynwysedig     
  • Cadair uchel a chot trafeilio ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot      
  • Wi-fi ar gael
  • Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a chwpwl o dabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol    
  • Gall archfarchnadoedd ddanfon nwyddau i'r bwthyn ond mae hefyd digon o siopau lleol gerllaw    
  • Wedi ei leoli ar fferm weithiol 
  • Dim ysmygu  
  • Caniateir un anifail anwes    

Gwybodaeth hygyrchedd

Drysau i'r ystafelloedd gwely ac ymolchi yn 83.82cm

Lle parcio addas o flaen y ty gyda digon o le diogel i ddod allan o gerbydau   

Mynediad gwastad o'r lle parcio i'r bwthyn   

Ystafell wely ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod    

Step 20mm i mewn i'r gawod   

Lleoliad

Bwthyn steilus gyda twb poeth preifat ger bwthyn arall ar fferm weithiol 95 acer sydd wedi ei lleoli ger pentref bychan Bethania, 5 milltir o'r arfordir. Mae nifer o lefydd i fwyta allan gerllaw gan gynnwys Hungry Ram yn Penuwch a'r Penuwch Inn, neu tafarn Rhos yr Hafod yn Cross Inn. 

Mae tref Aberaeron gyda'i phensaerniaeth Sioraidd hardd a'i thai amryliw ond 8 milltir i ffwrdd. Mae yma draeth graeanog a harbwr godidog. Ceir nifer o lefydd i fwyta ac yfed yma yn cynnwys yr enwog Harbwrfeistr a'r Cwch Gwenyn, a siop sgodyn a sglodion Celtic. Yn yr haf gellir prynu pysgod ffres ar ymyl y cei, gyda parlwr hufen iâ blasus gerllaw.

Mae'r bwthyn yn cynnig mynediad hawdd i nifer o leoliadau ar hyd arfordir hardd Ceredigion. Mae'r arfordir hwn yn enwog am ei ddolffiniaid a gellir archebu trip ar gwch o Cei Newydd 15 milltir i ffwrdd. Gellir hefyd eu gweld mewn nifer o leoliadau ar y lan yn cynnwys y Mwnt a morglawdd Cei Newydd. Mae nifer o draethau euraidd ger Cei Newydd a gellir cymryd rhan mewn gweithgareddau megis caiacio yno. 

Bymtheg milltir i'r gogledd mae tref brifysgol Aberystwyth, cartref llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae yma bromenâd a phier, yn ogystal â dau draeth. Mae Mynyddoedd y Cambrian i'r dwyrain yn cynnig llwybrau cerdded, beicio mynydd, a nifer o leoliadau i weld a bwydo y Barcutiaid Coch hardd. 


Traethau

Mae traethau Cei Newydd, Cei Bach a Thraethgwyn o fewn 6 milltir, ond y traeth agosaf yw Aberarth sydd yn gildraeth bychan graeanog   

Chwaraeon Dwr

Dewis eang o chwaraeon dwr ar gyfer pob gallu ar gael yng Nghei Newydd (15 milltir)  

Pysgota

Pysgota môr - tripiau i gael o harbwr Aberaeron, hefyd gellir pysgota o'r lan o gwmpas yr ardal (5.5 milltir)   

Pysgota gêm - mae Clwb Pysgota Tref Aberaeron yn cynnig trwydded dyddiol ar gyfer yr afonydd lleol a Llyn Fanod (3 milltir)    

Cerdded

Nifer o lwybrau gwych yn cynnwys Llwybr Arfordirol Ceredigion sydd yn rhan o Lwybr Arfordirol Cymru. Llwybrau cerdded yn cychwyn o stepen y drws    

Beicio

Lonydd gwledig yn ddelfrydol ar gyfer beicio gyda beicio mynydd ar gael yn Bwlch Nant yr Arian (23 milltir)   

Golff

Clwb Golff Penrhos - yn nyffryn Wyre gyda golygfeydd trawiadol (6.1 milltir)    

Marchogaeth

Marchogaeth ar gael yn lleol