- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £705 yr wythnos
- £101 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Dringo
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
- Pwynt gwefru modur trydan
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Bwthyn hardd a chyfoes gyda twb poeth preifat a stôf goed groesawgar, ger tref glan môr Aberystwyth ar arfordir Bae Ceredigion. Wedi ei leoli i fyny lôn dawel, mae'r bwthyn yn cynnig mynediad uniongyrchol i lwybr beiciau Ystwyth. O fewn cyrraedd i nifer o atyniadau, siopau, bwytai a chaffis yn y dref.
Mae Aberystwyth yn gartref i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru, dau draeth, promenâd, castell, rheilffordd y graig, a trên stêm i Bont ar Fynach. Heb anghofio Prifysgol Aberystwyth, sinema draddodiadol a Chanolfan Gelfyddydau fwyaf Cymru.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw fawr siap-L sy'n cynnwys cegin, ardal fwyta a lolfa. Gwres o dan y llawr a stôf goed.
Cegin yn cynnwys popty trydan dwbwl, hob, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a golchi dillad.
Bwrdd bwyta mawr yn edrych allan ar yr ardd ffrynt.
Lolfa groesawgar gyda seddi cyfforddus o flaen y stôf goed a theledu Smart 40".
Snyg - lolfa fach arwahan gyda teledu Smart a gwely soffa - gellir ei defnyddio ar gyfer ystafell wely ychwanegol i un.
Toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely maint king. Digon o le i got os oes angen.
Ystafell wely 2 - dau wely sengl - gellir eu gwneud yn wely maint king ar gais. Noder pan yn archebu os oes angen gwely king.
Ystafell ymolchi gyda baddon, cawod arwahan, rheilen sychu tywelion, toiled a basn.
Gardd
Lawnt artiffisial yn y ffrynt - mynediad drwy ddrysau patio o'r ystafell fyw. Gyda bwrdd, cadeiriau a sied ar gyfer storio beiciau ayb
Gardd hollol gaeedig yn y ffrynt a'r cefn gyda twb poeth i 4.
Mynediad uniongyrchol i ardal chwarae y pentref ar hyd llwybr o'r bwthyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te a coffi, siwgwr a llaeth, cacennau a Prosecco
- Trydan a gwres canolog yn gynwysedig
- Basgedaid gyntaf o goed yn gynwysedig. Gellir prynu mwy o goed yn Aberystwyth yn B&M neu Charlie's Stores
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig. Dewch â thywelion eich hun i'r traeth a'r twb poeth
- 1 sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r staer i'w cael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Wifi ar gael
- Croesewir un ci (mae'n bosib y caniateir un arall drwy gais)
- Dim ysmygu y tu mewn
- Lle parcio i 2 gar
- Fe ddarperir y canlynol:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
Lleoliad
Mae Hafod Aber wedi ei leoli ar lôn breifat ar gyrion pentref Llanfarian, lai na 3 milltir o dref brysur Aberystwyth ar arfordir Bae Ceredigion. Mae'r bwthyn cyfoes hwn wedi ei leoli ar hen drac rheilffordd sydd nawr yn rhan o lwybr beicio Ystwyth, 20 milltir o hyd ac yn cysylltu Aberystwyth a Thregaron. Mae Llanfarian yn cynnig siop bentref a siop sgodyn a sglodion drwyddedig.
Mae tref brifysgol Aberystwyth yn cynnig siopau niferus, bwytai, caffis a thafarndai, yn ogystal ac archfarchnadoedd, a siop M & S newydd. Mae yma hefyd 2 draeth a phromenâd, yn ogystal â mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordirol Cymru. Yn gartref i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru a Chanolfan y Celfyddydau (y ganolfan gelf mwyaf yng Nghymru), yn ogystal â sinema draddodiadol, castell ac amgueddfa. Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i reilffordd y graig - yr hiraf ym Mhrydain a'r unig un o'i math yng Nghymru.
Ymysg y bwytai â argymhellir mae'r Glengower, Baravin, Gwesty Cymru, Byrgyr a SY23 - i gyd wedi eu lleoli ar lan y môr yn Aberystwyth. Ar gyfer cinio dydd Sul mae'n werth ymweld â'r Marine, tra fod Tynllidiart Arms a Maes Bangor yn Capel Bangor (6 milltir), Y Ffarmers yn Llanfihangel y Creuddyn (7 milltir) a Halfway Inn yn Pisgah (7.4 milltir) werth ymweld â nhw. Hefyd digon o dafarndai gwych, yn cynnwys y Glengower a'r Ship & Castle ar gyfer cwrw lleol.
Ceir mynediad uniongyrchol i fynyddoedd y Cambrian a Chwm Rheidol o Aberystwyth. Mae Rheilffordd Cwm Rheidol yn cynnig diwrnod allan poblogaidd i fyny i Bont ar Fynach (amserlen dymhorol), ardal sy'n llawn chwedloniaeth. Ar ôl cyrraedd Pont ar Fynach, dilynwch y llwybr ger ymyl yr afon i weld y tair pont sydd wedi eu hadeiladu un uwchben y llall, ac hefyd rhaeadr odidog. Beth am dretio eich hun i bryd o fwyd yn Hafod Arms cyn dal y trên nôl i Aberystwyth.
Gellir cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn 'Colossal Activities' - o golff i feicio mynydd, partion plant a llogi caiac. Mae'n bosib hefyd mwynhau trip i fynyddoedd y Cambrian gyda 'Cambrian Safaris' i weld y golygfeydd, hanes lleol a bywyd gwyllt. Mae atyniadau eraill yn cynnwys 'The Magic of Life Butterfly House', adfeilion abaty Sistersaidd Cymreig yn Ystrad Fflur, a'r Animalariwm yn Borth.
Traethau
- Traeth Gogleddol Aberystwyth - traeth tywod a graean a phrif atyniad y dref. Yn ystod tymor yr haf mae yma gastell neidio, mulod, a reidiau 'cwpan te' ar y prom sy'n sicrhau digon o weithgareddau i gadw'r plant yn hapus. Fe ganiateir cwn ar adegau tawel y flwyddyn (2.8 milltir)
- Traeth Deheuol Aberystwyth – traeth tywod a graean cysgodol - tawelach na'r traeth Gogleddol (2.8 milltir)
- Traeth Clarach – traeth tywod a graean cysgodol (tywod yn dod i'r golwg yn ystod llanw isel). Gellir teithio o Fae Clarach i Aberystwyth ar hyd llwybr milltir o hyd gyda golygfeydd anhygoel ar draws Bae Ceredigion (4.8 milltir)
- Traeth y Borth – traeth tywod 3 milltir o hyd. Gyda statws Baner Lâs a phoblogaidd gyda syrffwyr a theuluoedd (8.7 milltir)
Cerdded
- Llwybr Ystwyth - llwybr cerdded/beicio 20 milltir o hyd o Aberystwyth i Tregaron. O stepen y drws - 4 milltir i Aberystwyth, 16 milltir i Dregaron
- Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan - ymunwch â'r llwybr ar y promenâd yn Aberystwyth a mwynhewch arfordir amrywiol Bae Ceredigion (2.8 milltir)
- Pen Dinas - ymwelwch â chaer hanesyddol sy'n edrych i lawr ar Aberystwyth a'r arfordir (2.3 milltir)
- Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian - 3 llwybr gyda golygfeydd gwych (11 milltir)
- ‘Dilynwch y Mynach’ - llwybr 6.5 milltir o hyd yn dilyn yr afon o'i tharddiad i Bont ar Fynach ble mae'r rhaeadrau enwog (12 milltir)
Beicio
- Llwybr Ystwyth - fel uchod
- Llwybr Beicio Rheidol – llwybr 17 milltir o hyd o Bont ar Fynach, drwy Gwm Rheidol i lawr i'r harbwr yn Aberystwyth, y rhan fwyaf ar hyd lonydd tawel a llwybrau beicio penodol (2.8 milltir)
- Gellir dod o hyd i rai o'r traciau beicio mynydd gorau yng Nghymru a'r DU yng Nghanolfan Beicio Mynydd Nant yr Arian (11 milltir)
Pysgota
- Pysgota môr yn Aberystwyth (2.8 milltir)
- Gellir llogi cwch pysgota o'r Marina yn Aberystwyth
- Pysgota brithyll gwych yn yr afonydd a llynnoedd lleol. Gelli cael trwydded dyddiol o'r 'GB Fishing Shop' ar Stryd Corporation (2.6 milltir)
Golff
- Clwb Golff Aberystwyth – cwrs 18 twll gyda golygfeydd gwych (3 milltir)
- Clwb Golff y Borth – cwrs golff bencampwriaethol mewn lleoliad arfordirol anhygoel (8.7 milltir)
Marchogaeth
- Canolfan Farchogaeth Rheidol - cwrs neidio, a threcio o gwmpas Cwm Rheidol (6.7 milltir)
Gwylio Adar
- Nant yr Arian - yn cynnwys canolfan fwydo Barcutiaid Coch (11 milltir)
- Gwarchodfa Natur R.S.P.B yn Ynys-hir ar ochr ddeheuol aber yr afon Ddyfi (14 milltir)