Llety steilus yn cynnig golygfeydd di-dor o'r afon a'r arfordir o'i leoliad heddychlon yn Aberystwyth.
- £798 yr wythnos
- £114 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r afon
- Golygfeydd o'r harbwr
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Llety steilus yn cynnig golygfeydd di-dor o'r afon a'r arfordir o'i leoliad heddychlon yn Aberystwyth, yn edrych allan dros aber yr afon Ystwyth a Bae Ceredigion. Gyda ffenestri mawr drwyddi draw sy'n gadael y golau naturiol i lifo mewn, mae lleoliad tawel River View ym mhen pellaf teras preifat o dai, gyda'r bonws ychwanegol o fod o fewn pellter cerdded i bopeth sydd gan Aberystwyth i'w gynnig. Mae Llwybr Arfordirol Cymru a llwybrau Rheidol ac Ystwyth ar stepen y drws.
Llawr Gwaelod
Ardal agored gyda ffenestri mawr sy'n caniatau i olau naturiol lifo mewn, nenfydau uchel a golygfeydd di-dor o'r afon a'r arfordir.
Cegin - gyda'r holl offer yn cynnwys oergell/rhewgell, meicrodon, popty trydan a hob nwy, peiriannau golchi llestri a golchi dillad. Ffenestr fawr i wneud y mwyaf o'r golygfeydd.
Ardal bwyta/lolfa - ystafell olau ac agored, cymdeithasol ac ymlaciol gyda golygfeydd o draeth Tanybwlch, afon Ystwyth a'r harbwr. Lloriau pren gwreiddiol a digon o le i eistedd. Bwrdd bwyta, teledu, chwaraewr DVD, seinydd bluetooth, llyfrau, mapiau CDs a gemau.
Ystafell wely 1 - gwely maint king, a golygfeydd anhygoel drwy ffenestri mawr.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl gydag ensuite yn cynnwys cawod, toiled a basn.
Ystafell wely 3 - dau wely sengl maint llawn a ffenestri mawr.
Ystafell ymolchi - yn cynnwys baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.
Tu Allan
Gardd gaeedig yn wynebu'r De gyda golygfeydd di-dor o'r arfordir a'r afon. Lleoliad delfrydol i eistedd nôl i fwynhau paned o goffi neu lasied o wîn tra'n edmygu machlud haul trawiadol dros Fae Ceredigion.
Gardd graean tu allan i'r drws ffrynt gyda bwrdd a chadeiriau. Gardd fawr tu hwnt gyda lawnt ac ardal bywyd gwyllt.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr, menyn, cacennau cri a gwîn
- Gwres trydan a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Un sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn
- I gyd ar un llawr - delfrydol ar gyfer y llai abl
- Digon o le parcio ar gyfer 1 car mawr neu 2 gar cymhedrol. Parcio ychwanegol ar draeth Tanybwlch, 1 funud i ffwrdd