- £365 yr wythnos
- £52 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Wedi ei leoli ar fferm weithiol ychydig y tu allan i dref glan môr Aberystwyth, gallwch fwynhau golygfeydd gwledig prydferth o'r llecyn hwn. Mae digon o draethau gerllaw, llwybrau cerdded o'r bwthyn a nifer o weithgareddau ac atyniadau eraill i'w mwynhau. Mae mewn lleoliad delfrydol ar gyfer gwneud y mwyaf o'r amrediad o atyniadau a gweithgareddau sydd gan yr ardal i'w cynnig.
Mae Brynheulwen wedi ei gyfuno â'r ffermdy a newydd gael ei drawsnewid, ond mae'r nodweddion traddodiadol wedi eu cadw. O fewn 2 filltir i'r bwthyn mae tafarn leol a siopau pentref, a 4 milltir i ffwrdd mae tref Fictoraidd Aberystwyth, ble mae amrywiaeth eang o fwytai, caffis, tafarndai, siopau ac archfarchnadoedd.
Llawr Gwaelod
Lolfa – Stepiau carreg yn arwain i'r lolfa gyda thrawstiau uchel yn y to, 2 soffa fawr gyfforddus, teledu mawr a pheiriant chwarae DVD, lle tân llechen gyda phren o'i amgylch, a hefyd llosgydd trydanol yn rhoi effaith llosgi coed.
Ystafell fwyta – Bwrdd wedi ei wneud o bren derw â lle i 6 eistedd, cypyrddau bach gyda theledu/DVD a system Hi-Fi arno.
Cegin – Yn fodern a golau, mae cyfarpar llawn yn y gegin gan gynnwys, hefyd, bar brecwast, oergell integredig, peiriant golchi llestri, popty mawr, microdon a thostiwr.
Ystafell wely gyda gwely dwbl mawr, haearn a dodrefn o bren pinwydden gan gynnwys cwpwrdd ddillad a 2 gist ddroriau, stôl a drych ar fwrdd, cloc radio ddigidol, teledu/DVD a lampau cyffwrdd ar y cabinetau wrth ochr y gwely. Yn yr en-suite mae cawod, toiled, sinc gyda drych LED, sebon hylif moethus, uned eillio a rheilen dywelion gyda gwres.
Ystafell fodern gyda pheiriant golchi/sychu dillad a sinc.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely gyda gwely dwbl mawr bren, cwpwrdd ddillad, cist o ddroriau, bwrdd ochr, teledu/DVD a ffenest Velux yn y to er mwyn i chi allu gwneud y mwyaf o'r olygfa ar draws y dyffryn.
Ystafell ymolchi gyda bath gyda chawod llaw, sinc a thoiled.
Ystafell wely gyda dau wely sengl difán gyda chabinetau wrth ymyl y gwlâu.
Gardd
Gardd breifat gaeëdig gyda ffens o'i amgylch, bwrdd gyda mainc, barbiciw ac ardal fechan gyda glaswellt. Storfa ddiogel i gadw beics/offer chwaraeon ar gael.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso pan gyrhaeddwch, sy'n cynnwys amrywiaeth o gynnyrch lleol.
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.
- Dillad gwlâu a thywelion dwylo a bath yn cael eu darparu.
- Cot, cadair uchel a giatiau grisiau (gwaelod a thop y grisiau) ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
- Wifi ar gael.
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes yn y bwthyn.
- Mae'r canlynol yn cael eu darparu i chi yn y bwthyn: Cegin: Hylif golchi llestri a thabledi peiriant golchi llestri. Ystafell ymolchi: Sebon a phapur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol: Cannydd, glanhawr cawod a dwsteri
- Mae digon o le parcio, a storfa ddiogel i gadw beics, offer pysgota neu chwaraeon ayyb.