Blaenilar

Aberystwyth, West Wales

  • 4 Star Gold
  • Bwthyn i 4 ynghanol atyniadau Gorllewin Cymru, yn agos i Aberystwyth, llwybrau cerdded, traethau, canolfan beicio mynydd, trên stêm, rhaeadrau a llawer mwy.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £461 yr wythnos
  • £66 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae'r bwthyn hardd hwn ger Aberystwyth yn mwynhau lleoliad trawiadol, yn edrych allan dros Gwm Ystwyth yng nghefn gwlad heddychlon Gorllewin Cymru. Mae Aberystwyth (4 milltir) yn dref arfordirol odidog gydag ystod eang o adnoddau. Lleoliad delfrydol i wneud y mwyaf o'r ardal boblogaidd hon a phopeth sydd i'w gynnig yma, gan gynnwys ystod o atyniadau teuluol, llwybrau cerdded, traethau, canolfan feicio mynydd Nant yr Arian, rheilffordd fach a rhaeadrau Pont ar Fynach. 

Llawr Gwaelod

Mae Blaenilar wedi ei ddodrefni i safon uchel. Mae'r gegin/ystafell fwyta gyda'r offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, meicrodon a theledu Freeview.

Lolfa gyda seddau cyfforddus, tân trydan, teledu Freeview gyda chwaraewr DVD a CD.

Ystafell gyda gwely dwbwl, cypyrddau ger y gwely a chwpwrdd dillad.

Ystafell wely gyda bync maint llawn, cypyrddau dillad.

Ystafell ymolchi eang gyda baddon, cawod arwahan, a rheilen sychu tywelion.

Gardd

Mae ardal patio a barbaciw eang yn Blaenilar, ynghyd â mynediad i lawnt ac ardal chwarae plant sy'n cael ei rannu, gyda siglen a llithren.    

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwelyau a thywelion ar gael      
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig        
  • Haearn a bwrdd smwddio ar gael      
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot                   
  • Wifi ar gael      
  • Digon o le parcio oddi ar y ffordd      
  • Croesewir 1 anifail anwes am ddim, o bosib 2 ar gais. Gadewch i ni wybod pan yn gosod eich archeb             
  • Ystafell olchi dillad yn cael ei rhannu ar y safle gyda mynediad 24 awr                   
  • Gellir disgwyl croeso ac awyrgylch gyfeillgar Cymreig gan y perchnogion ar y safle      
  • Gwyliau byr ar gael drwy gydol y flwyddyn arwahan i wyliau'r haf    
  • Ar gyfer grwpiau mwy o deulu neu ffrindiau, mae yma hefyd 2 fwthyn arall 5 seren ar y safle - Blaenlli (cysgu 6) ac Y Ddinas (cysgu 4)

Gwybodaeth ar gyfer Pobl Anabl a Llai Abl

  • Mae'r llety i gyd yn addas ar gyfer pobl anabl gyda'r holl ystafelloedd ar y llawr gwaelod. Mae hyn yn cynnwys y gegin, lolfa, ystafell wely ac ystafell ymolchi    
  • Nid oes unrhyw gyfyngiad ar daldra   
  • Mynediad rhwydd i gadair olwyn, yr holl ddrysau dros 750mm gyda'r prif ddrws yn 860mm o led    
  • Lle parcio cyfleus gyda mynediad gwastad ar darmac i'r bwthyn
  • Dim stepiau yn y bwthyn a gellir cael mynediad i'r ardd mewn cadair olwyn     
  • Golau ychwanegol yn y gegin a chloc siarad ar gyfer y rheiny sydd â nam gweledol. Mae hyn ar gael drwy drefniant ymlaen llaw - gadewch i ni wybod pan yn archebu     
  • Rheiliau yn yr ystafell ymolchi gydag ensuite arwahan   
  • Lle i gadair olwyn ffitio o dan y bwrdd bwyta, a lle o dan y gwely ar gyfer bagiau a hoist    
  • Mae'r switshis golau a handlenni'r drysau i gyd o fewn cyrraedd  
  • Mae lle ar gyfer cadair olwyn y ddwy ochr i'r gwely ac i mewn i'r ystafell ymolchi. Mae yna stepen 5 modfedd i mewn i'r uned gawod   
  • Gellir cael gwared yn ddiogel â phadiau anymataliaeth a nodwyddau hyperdermic

Ar gael os dymunir :-

  • Sedd uwch ar gyfer y toiled a chomod 
  • Sedd i'r bath    
  • Mae yna gwmni gofal ar gael ar gyfer cefnogaeth, ac fe ellir llogi offer symudedd ychwanegol yn lleol     

Fe ganiateir cwn tywys

Lleoliad

Wedi ei leoli yng nghefn gwlad gyda golygfeydd panoramig syfrdanol, mae Blaenilar yn un o dri bwthyn sydd wedi eu hadnewyddu ar y safle. Mae yna dafarn leol a siop bentref o fewn 2 filltir, gydag Aberystwyth (4 milltir) yn cynnig ystod eang o fwytai, caffis, tafarndai, siopau ac archfarchnadoedd.

Mae Blaenilar yn cynnig lleoliad gwych i ddarganfod Canolbarth a Gorllewin Cymru, ymweld â glan mor, neu ymweld â'r brifysgol a Llyfrgell Cenedlaethol Cymru. Mae pysgota mor ar gael yn lleol tra fod syrffio yn boblogaidd ar hyd yr arfordir. Mwynhewch rownd o golff yn Llanrhystud, Aberystwyth neu Borth, marchogaeth yng nghanolfan reidio Rheidol, neu gellir ymweld a Fantasy Farm yn Llanrhystud (8.5 milltir). Mae'r ardal hefyd yn cynnig llwybrau cerdded gwych gyda digon o fywyd gwyllt yn cynnwys adar arfordirol a barcutiaid coch. 

Mae Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian, un o'r prif ganolfannau beicio mynydd yng Nghymru, ond 15 milltir o'r bwthyn, a gellir gwylio'r barcutiaid coch yn cael eu bwydo yma. Mentrwch ar drip tanddaearol Mwynfa Arian a Phlwm yn Llywernog (14.5 milltir), neu eisteddwch nol a mwynhau golygfeydd gwych ar dren stem drwy Gwm Rheidol i Bont ar Fynach. 

Traethau

Traeth cysgodol yn nhref poblogaidd Aberystwyth. Yn ystod yr haf, gellir gweld mulod, castell gwynt, a reidiau ar y prom sy'n sicrhau fod digon i ddiddanu'r plant (4 milltir)       

Traeth euraidd 3 milltir o hyd o Borth i Ynys Las (13 milltir)   

Cerdded

Llwybr Ystwyth - llwybr cerdded/beicio 21 milltir o Aberystwyth i Tregaron drwy Llanfarian (0.5 milltir o'r bwthyn)    

Llwybr Arfordirol Ceredigion - yn dilyn arfordir Bae Ceredigion. Mae'r man ymuno rhwyddaf yn Aberystwyth (4 milltir)    

‘Dilyn y Mynach’: 6.5 milltir yn dilyn yr afon o'i tharddiad i Bont ar Fynach gyda'i raeadrau enwog (14.5 milltir)     f

Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian - 3 llwybr anhygoel (15 milltir)

Ystad yr Hafod (ym mherchnogaeth y Comisiwn Coedwigaeth) - yn cynnig 5 llwybr sy'n galluogi ymwelwyr i ddarganfod tirwedd enwog yr Hafod (18.5 milltir)    

Beicio

Llwybr Ystwyth - Llwybr beicio 21 milltir o Aberystwyth i Dregaron, mae modd ymuno ag ef 0.5 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Beicio Rheidol - Mae’r llwybr 17 milltir hwn yn eich arwain o Bontarfynach, drwy Gwm Rheidol ac i lawr i’r porthladd yn Aberystwyth, yn bennaf ar hyd lonydd cefn tawel a llwybrau beic pwrpasol, 14.5 milltir

Canolfan Feicio Mynydd Nant yr Arian - un o brif ganolfannau Beicio Mynydd Cymru. Gan gynnwys Llwybr Teiars Cyfandirol Syfyrdrin, un o’r llwybrau gwyllt llawn golygfeydd sydd gyda’r harddaf yn y DU, 15 milltir o’r bwthyn.

Pysgota

Pysgota môr yn Aberystwyth - llawn amrywiaeth rhywogaethol, gyda meysydd sydd mor doreithiog â dyfroedd Dyfnant a Chernyw, 4 milltir.

Cronfeydd Nant-y-moch a Dinas, ger Ponterwyd - y ddau yn llawn amrywiaeth o frithyll. Gellir prynu trwyddedau pysgota o Orsaf Danwydd Rheidol ym Mhonterwyd, 15 milltir

Golff

Clwb Golff Aberystwyth - cwrs golff 18 twll, 4 milltir

Marchogaeth

Mae gan Ganolfan Marchogaeth Rheidol ddwy arena maint llawn gyda llifoleuadau ar y ddwy, (tu mewn a thu allan), cwrs neidio a thraws gwlad, a theithiau merlota gwych yng Nghwm Rheidol, 9 milltir.