Y Ddinas

Aberystwyth, West Wales

  • 4 Star Gold
  • Bwthyn hunan ddarpar i 4 ger Aberystwyth. Agos i amryw o atyniadau teuluol, canolfan beicio mynydd, tren stem a rhaeadrau, traethau a llwybrau cerdded hardd.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £391 yr wythnos
  • £56 y noson
  • 4 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn hunan ddarpar ger Aberystwyth yn sefyll uwchlaw dyffryn yr afon Ystwyth yng nghefn gwlad hyfryd Ceredigion. Mae wedi ei leoli yn wych er mwyn gwneud y mwyaf o bopeth sydd gan y rhanbarth poblogaidd hwn yng Ngorllewin Cymru i’w gynnig.
Saif tref arfordirol hardd Aberystwyth, gyda’i chyfleusterau di-ri bedair milltir yn unig i ffwrdd, yn ogystal ag amrediad helaeth o atyniadau eraill. Mae hyn yn cynnwys amryw o atyniadau i’r teulu, canolfan beicio mynydd Nant yr Arian, Pontarfynach gyda’i drên stêm a rhaeadrau, y traethau yn Borth ac Ynys Las a nifer o lwybrau cerdded prydferth.

Llawr Gwaelod
Cegin ac ardal fwyta groesawgar yn cynnwys yr holl gyfleuster. Ymhlith y cyfleusterau ceir microdon, golchwr llestri, popty trydan a hob, rhewgell, oergell a theledu.
Ystafell fyw gysurus gyda golygfeydd rhagorol o’r wlad drwy ddrysau patio mawr. Tân trydan, teledu gyda sianeli am ddim, chwaraewr DVD a hi-fi. Ceir soffa gwely yn yr ystafell hon hefyd.
Ystafell wely ddwbl gyda chwpwrdd dillad, bwrdd gwisgo, cypyrddau ger y gwely a golygfeydd cefn gwlad.
Ystafell wely twin gyda chwpwrdd dillad, bwrdd gwisgo, cypyrddau ger y gwelyau a golygfa hyfryd o gefn gwlad.
Ystafell ymolchi yn cynnwys bath gyda chawod uwch ei ben, basn ymolchi, toiled a rheilen cynhesu tywelion.

Gardd
Patio wedi ei ddodrefnu yn edrych allan ar olygfeydd godidog o Geredigion.
Ceir hefyd ardal chwarae i blant gyda siglenni a llithren a gaiff ei rannu gyda gwesteion eraill sy’n aros ar y safle.

Gwybodaeth Ychwanegol
Ar gyfer grwpiau neu deuluoedd mwy, ceir bwthyn gwyliau moethus arall ar y safle sydd hefyd yn cysgu 4 o bobl.

Dillad gwely, tywelion dwylo a bath yn gynwysedig.

Gwres a thrydan yn gynwysedig.

Bwrdd a haearn swmddio ar gael.

Darperir cot a chadair uchel ar gais.

Digonedd o le parcio oddi ar y ffordd.

Croesewir 1 anifail anwes, efallai 2 ar gais.

Ystafell golchi dillad ar gyfer yr holl westeion sy’n aros ar y safle gyda mynediad 24 awr.

Mae bond 'gofal da am lety' ar y llety hwn am £150, sydd yn ad-daladwy ac yn ddyledus i Y Gorau o Gymru ar yr un pryd â balans eich gwyliau. Neu, gallwch osgoi y bond hwn drwy, yn hytrach, dalu ffî sydd ddim yn ad-daladwy am £5 y person.


Gallwch ddisgwyl awyrgylch gyfeillgar Gymreig a chroeso cynnes gan y perchnogion sydd hefyd yn byw ar y safle.

Lleoliad

Mae llety gwyliau Y Ddinas wedi ei leoli yn y man perffaith er mwyn mwynhau awyr agored Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae nifer o draethau, pentrefi a threfi arfordirol o fewn pellter byr yn y car gydag amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored ar gael wrth garreg eich drws. Ymhlith rhain mae Canolfan Beicio Mynydd Nant yr Arian, syrffio, pysgota bras a môr, nifer o gyrsiau golff a Merlota Rheidiol. Mae Canolfan Weithgareddau Llain hefyd yn cynnig diwrnod teuluol gwych, gydag amrywiaeth o weithgareddau i’w cynnig gan gynnwys caiacio, dringo, abseilio, cyfeiriannu, cyrsiau rhaff uchel ac isel, gwifren-zip a chyrsiau antur.

Mentrwch ar daith ddofn danddaearol ym mhyllau arian a phlwm Llywernog, ymwelwch â Fantasy Farm yn Llanrhystud, neu ymlaciwch a mwynhau taith llawn golygfeydd ar y rheilffordd gul trwy Gwm Rheidiol o Aberystwyth i Bontarfynach. I ddysgu mwy am ddiwylliant a hanes Cymru, gallwch fynd am drip i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, sy’n cynnal amryw o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn.

Traethau
Traeth cysgodol o dywod a graen yn nhref glan môr boblogaidd Aberystwyth. Yn ystod cyfnod brig yr haf mae asynnod, castell neidio a reidiau ‘cwpan te’ ar hyd y prom sy’n sicrhau fod digon o adloniant i’r plant. 4 milltir.

Traeth tywodlyd sy’n ymestyn am dair milltir o Borth i Ynys Las. 13milltir.

Cerdded
Llwybr Ystwyth – llwybr cerdded/beicio 21 milltir o Aberystwyth i Dregaron. Ymunwch â’r llwybr 0.5 milltir o’ch llety.

Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn dilyn arfordir amrywiol Bae Ceredigion. 4 milltir o’ch llety gwyliau, Aberystwyth yw’r man hawsaf i ymuno.

‘Dilyn y Mynach’: 6.5 milltir yn dilyn yr afon o’i tharddiad i Bontarfynach, lle mae’n creu’r rhaeadrau enwog. 14 milltir o’r bwthyn

Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian - 3 taith gerdded brydferth. 14.5 milltir

Mae Ystâd yr Hafod (eiddo’r Comisiwn Coedwigaeth) yn cynnig 5 taith gerdded wedi eu marcio sy’n amrywio mewn hyd a her, ac sy’n galluogi ymwelwyr i archwilio tirlun enwog yr Hafod. 18 milltir

Beicio
Llwybr Ystwyth – Llwybr beicio 21 milltir o Aberystwyth i Dregaron, mae modd ymuno 0.5 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Beicio Rheidol - Mae’r llwybr 17 milltir hwn yn eich arwain o Bontarfynach, drwy Gwm Rheidol a lawr i’r harbwr yn Aberystwyth, yn bennaf ar hyd lonydd cefn tawel a llwybrau beic pwrpasol. 14.5 milltir

Canolfan Feicio Mynydd Nant yr Arian – un o brif ganolfannau Beicio Mynydd Cymru. 15 milltir

Pysgota
Pysgota môr yn Aberystwyth - llawn amrywiaeth, gyda rhestr o rywogaethau gwahanol sydd mor doreithiog â dyfroedd Dyfnant a Chernyw. 4 milltir.

Cronfeydd Nant-y-moch a Dinas, ger Ponterwyd - y ddau gydag amrywiaeth o frithyll. Gellir prynu trwyddedau pysgota o Orsaf Danwydd Rheidol ym Mhonterwyd. 14 milltir

Golff
Clwb Golff Aberystwyth – cwrs golff 18 twll. 4 milltir

Clwb Golff Penlanlas, Rhydyfelin - cwrs golff 9 twll. 4 milltir

Cwrs Golff Capel Bangor – cwrs golff 9 twll. 8 milltir

Marchogaeth
Mae gan Ganolfan Marchogaeth Rheidiol arena maint llawn gyda llifoleuo tu mewn a thu allan, cwrs neidio a thraws gwlad, a theithiau gwych yng Nghwm Rheidiol. 8.5 milltir