Cae Cefn

Aberystwyth, West Wales

  • 4 Star
  • Llety hunan-ddarpar i 2 yn Aberystwyth mewn lleoliad tawel, gwledig gyda golygfeydd hyfryd o’r môr. Amrywiaeth o atyniadau, bwytai, caffis a bariau o fewn milltir.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £770 yr wythnos
  • £110 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae’r llety hunan-ddarpar rhamantaidd hwn yn Aberystwyth mewn lleoliad tawel, gwledig gyda golygfeydd hyfryd o’r môr. Mae ganddo hefyd y fantais ychwanegol o fod o fewn milltir i dref gosmopolitaidd, lle bydd mwy na digon o ddewis o leoedd i fwyta ac yfed yn dda. Mae’r llety wedi’i leoli ar arfordir Canolbarth Cymru, ac felly mae’n agos at draethau Aberystwyth, Borth ac Ynys Las, Llwybr Arfordirol Cymru a hefyd promenâd a Rheilffordd y Graig hudolus Aberystwyth.

Llawr Gwaelod

Cegin / Ystafell Fwyta – Unedau cegin modern, llawr llechen, mewn steil glân, syml gydag ambell hen ddodrefnyn rystig fel bwrdd a chadeiriau tŷ fferm ‘antique’. Ffwrn drydan a hob anwytho, oergell yn cynnwys rhewgell bychan, tegell a thostiwr. Mae pantri yma hefyd i storio bwyd, yn ogystal â microdon. Mae gwres o dan y llawr drwyddo draw, sy’n gwneud y lle i gyd yn gynnes a chlyd. 

Lolfa – Lolfa fawr, olau gyda nifer o ffenestri, gyda golygfeydd pell o arfordir Canolbarth Cymru. Drysau plyg ar draws un wal. Stôf llosgi coed mewn un cornel, a theledu clyfar gyda Freeview/iPlayer/Netflix.

Ystafell wely – Ystafell wely syml mewn steil gwledig gyda gwely dwbl a drysau llithro mawr rhyngddi yn ei gwahanu o’r prif ystafell fyw. Cwpwrdd dillad i ddau, un bwrdd wrth ochr y gwely gyda golau arno.

Ystafell gawod – Ystafell wen, olau gyda chawod agored/ystafell wlyb. Drych mawr sy’n gwneud i’r ystafell deimlo’n llawer mwy.

Gardd

Gardd agored fawr gyda phatio preifat, a seddi i bedwar person, dwy gadair orwedd, a barbeciw. Golygfeydd eang o’r môr ar hyd arfordir Ceredigion ac ar draws Mynyddoedd y Cambria.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae’r pecyn croesawu yn cynnwys amrywiaeth o ddiodydd a bwyd o Gymru.
  • Mae’r gwres a’r trydan yn gynwysedig.
  • Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.
  • Wi-fi o ansawdd da ar gael am ddim.
  • Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu yn y bwthyn.
  • Digon o le i barcio.

Lleoliad

Mae’r llety hunan-ddarpar hwn yn Aberystwyth mewn lleoliad gwledig tawel gyda golygfeydd gwych dros y dref ac allan i’r môr, ar ochr y mynydd ger Craig Glais. Cewch fynediad ato drwy hanner milltir o ffordd breifat, i fyny o bromenâd Aberystwyth, ac felly mae’n mwynhau’r gorau o’r ddau fyd. Mae wedi ei leoli mewn man neilltuedig, ac mae’n rhannu ffordd â dim ond llond llaw o gartrefi eraill sydd wedi’u gwasgaru ar hyd y ffordd, gan sicrhau amgylchedd distaw, ymlaciedig gyda golygfeydd arbennig o’r môr.

Gellir canfod y cyfleusterau agosaf yn Aberystwyth, gan gynnwys amrywiaeth eang o siopau, bwytai, caffis a bariau. Gallwn argymell nifer fawr o fwytai yn y dref, gan gynnwys Baravin, Pysgoty, Medina, Gwesty Cymru, Agnellis ac Ultracomida – sydd oll o fewn milltir. Mae digonedd o dafarndai, caffis hyfryd ac ambell far coctels i’w mwynhau, yn ogystal â dau draeth a phromenâd os hoffech fynd am dro braf ar hyd glan y môr.

Mae gan Aberystwyth ganolfan gelfyddydol ardderchog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y rheilffordd clogwyn hiraf ym Mhrydain (a’r unig un o’i fath yng Nghymru) a sinema deuluol draddodiadol, a hynny heb sôn am y mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordirol Cymru sy’n arwain at fwy o draethau rhagorol fel Borth ac Ynyslas, sydd â golygfeydd anhygoel dros fae Ceredigion ar hyd y ffordd.

Mae Aberystwyth yn dref brifysgol brysur ar lan y môr sydd hefyd yn cynnig mynediad uniongyrchol i Fynyddoedd y Cambria a Dyffryn Rheidol. Mae Rheilffordd Dyffryn Rheidol yn cynnig taith diwrnod poblogaidd iawn i fyny i Bontarfynach (amserlen dymhorol), ardal sy’n gysylltiedig â mythau a chwedlau rhyfeddol. Pan gyrhaeddwch Bontarfynach, dilynwch y llwybr ar hyd yr afon i weld y tair pont sydd wedi’u hadeiladu ar ben ei gilydd a rhaeadr anhygoel.

Traethau

  • Traeth y Gogledd, Aberystwyth – Traeth tywod a cherrig mân a chanolbwynt y dref. 0.6 milltir o’ch llety hunan-ddarpar yn Aberystwyth
  • Traeth y De, Aberystwyth – Traeth tywod a cherrig mân cysgodol – yn dawelach na Thraeth y Gogledd y dref. 1.2 milltir.
  • Traeth Clarach – Traeth tywod a cherrig mân cysgodol (mae’r traeth yn cael ei ddatguddio pan fydd y llanw’n isel). Mae Bae Clarach wedi’i gysylltu ag Aberystwyth gan lwybr natur milltir o hyd gyda golygfeydd ardderchog ar draws Bae Ceredigion. 1 filltir ar droed / 3 milltir mewn car.
  • Traeth Borth – Traeth gwych 3 milltir o hyd. Mae wedi ennill Gwobr y Faner Las ac mae’n boblogaidd gyda syrffwyr, syrffwyr barcud a theuluoedd. 7.5 milltir.
  • Traeth Ynyslas – Traeth hyfryd gyda thwyni tywod ar ochr ddeheuol aber Dyfi.

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan. Ymunwch â’r llwybr o’r promenâd a mwynhewch arfordir amrywiol Bae Ceredigion. 0.6 milltir.
  • Mwynhewch daith gerdded drwy Warchodfa Natur Parc Penglais yn Aberystwyth. 0.8 milltir.
  • Pen Dinas – ymwelwch â chaer hynafol ar y bryn yn edrych i lawr ar Aberystwyth a’r arfordir. Cerddwch o’r drws i gopa’r bryn mewn 35 munud.
  • Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian – 3 taith gerdded â golygfeydd. 11.5 milltir.
  • ‘Dilyn y Fynach’: 6.5 milltir yn dilyn yr afon o’i ffynhonnell i Bontarfynach, lle mae’n creu ei rhaeadrau enwog. 13 milltir o’r bwthyn

Golff

  • Clwb Golff Aberystwyth – dyma gwrs golff 18 twll hyfryd gyda golygfeydd gwych. 0.5 milltir.
  • Clwb Golff Borth – cwrs golff pencampwriaeth 18 twll mewn lleoliad arfordirol trawiadol. 8.5 milltir.

Beicio

  • Llwybr Ystwyth – llwybr beicio / cerdded 21 milltir o Aberystwyth i Dregaron drwy Llanfarian. 1 filltir.
  • Llwybr Beicio Rheidol – Mae’r llwybr 17 milltir hwn yn mynd â chi i Bontarfynach, drwy Ddyffryn Rheidol i lawr i’r harbwr yn Aberystwyth, a hynny yn bennaf ar hyd cefnffyrdd tawel a llwybrau beicio dynodedig. O stepen eich drws.
  • Gellir canfod rhai o’r llwybrau beicio mynydd gorau yng Nghymru a’r DU gerllaw yng Nghanolfan Beicio Mynydd Nant yr Arian. Mae’n cynnwys y Llwybr Syfyrddin Continental Tyres, un o’r llwybrau gwyllt sydd â’r golygfeydd gorau yn y DU. 11 milltir.

Pysgota

  • Pysgota ar y môr yn Aberystwyth – yma, mae rhai o’r ardaloedd pysgota mwyaf amrywiol y gallech eu dychmygu, gyda rhestr o rywogaethau sy’n cystadlu â dyfroedd toreithog Dyfnaint a Chernyw hyd yn oed. 0.6 milltir.
  • Gallwch archebu lle ar gwch siarter o Farina Aberystwyth.
  • Pysgota brithyll gwyllt gwych yn nifer o’r afonydd lleol ac yn y llynnoedd yn y mynyddoedd. Mae modd prynu tocynnau dydd o’r Siop Bysgota GB ar Heol Corporation (0.7 milltir).

Marchogaeth

  • Mae gan Ganolfan Farchogaeth Rheidol arenâu maint llawn wedi’u goleuo dda, yn yr awyr agored ac o dan do, ynghyd â chwrs neidio a thraws gwlad, a theithiau marchogaeth gwych o gwmpas Dyffryn Rheidol. 6 milltir.

Gwylio adar

  • Mae Nant yr Arian yn cynnwys canolfan bwydo barcutiaid coch. 11.5 milltir.
  • Gwarchodfa Natur yr RSPB yn Ynys-hir ar ochr ddeheuol aber afon Dyfi. 13 milltir.

Chwaraeon Dŵr

  • Aber Adventures – ysgol syrffio, ysgol padlfyrddio ar eich sefyll a Llogi Caiacau yn Borth – 7.5 milltir.
  • Canolfan Weithgareddau Llain, Llanarth. Canolfan amlweithgaredd, gan gynnwys caiacio a chanŵio, hwylio ac adeiladu rafftiau, rhaffau uchel, cyrsiau antur a llawer mwy. 20.5 milltir.