- £- yr wythnos
- £- y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Hen ysgubor wedi’i hadnewyddu’n llwyr i gynnig llety 4 seren, gyda twb poeth preifat a golygfeydd pellgyrhaeddol dros aber yr Afon Ddyfi, Bae Ceredigion a chefn gwlad Cymru. Mae’r bwthyn hwn wedi ei leoli ar fferm, lai na milltir o bentref Talybont gyda’i siop, tafarndai, fferyllfa a gorsaf betrol. Mae hefyd yn ganolog i dref glan y môr boblogaidd Aberystwyth, a thref Machynlleth - Prifddinas Hynafol Cymru. Dyma’r man delfrydol i ymlacio a mwynhau amser yn darganfod y traethau lleol ac atyniadau amrywiol.
Llawr Gwaelod
Cegin ac ardal fwyta ac eistedd agored, gyda system wresogi dan y llawr. Cegin yn cynnwys pob cyfleuster gan gynnwys peiriant golchi llestri, ac ardal fwyta hyfryd yn edrych allan dros yr ardd a’r caeau.
Mae’r lolfa yn cynnwys soffas cyfforddus, teledu mawr gyda Playstation 3 a chwaraewr DVD, gemau a fideos.
Ystafell arwahan gyda peiriant golchi dillad a rhewgell.
Llawr Cyntaf
Grisiau derw agored yn arwain at ddwy lofft ac ystafell gawod.
Llofft ddwbl helaeth gyda gwely maint ‘super-king’ a golygfeydd anhygoel dros yr aber a’r môr.
Ail lofft eang gyda’r dewis o fedru cael gwely maint ‘super-king’ neu ddau wely sengl maint llawn - *gadewch i ni wybod eich dewis*. Cornel ddarllen yn edrych allan dros yr ardd a’r caeau.
Ystafell gyda chawod fawr bwerus, toiled a basn.
Gardd
Gardd breifat a chaeedig yng nghefn y bwthyn gyda twb poeth a dodrefn gardd i fedru mwynhau golygfeydd cefn gwlad. Offer Barbaciw ar gael.
Mae yna hefyd ddodrefn gardd o flaen y bwthyn i fedru mwynhau golygfeydd o’r aber a’r môr.
Gwybodaeth ychwanegol
- Croeso cynnes Cymreig yn cynnwys cacennau cartref
- Gwres a thrydan yn gynwysedig (gwres canolog Eco Biomass)
- Dillad gwelyau, tywelion llaw a baddon, a dau sychwr gwallt ar gael
- Wi-Fi ar gael
- Cot, cadair uchel a gât grisiau ar gael os dymunir
- Croeso i 2 anifail anwes
- Digon o le parcio