- Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
- £723 yr wythnos
- £103 y noson
- 6 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Dringo
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Bwthyn gwyliau 5 seren ger Aberystwyth, mewn llecyn perffaith ar gyfer gwyliau i deulu ar arfordir Canolbarth Cymru. Ymlaciwch ar lan y môr, cerddwch a beiciwch trwy lonyddwch cefn gwlad, gwylio’r barcutiaid coch yn cael eu bwydo ac ymweld ag atyniadau teuluol yn yr ardal. Ymhlith y rhain mae'r Animalariwm, Labrinth y Brenin Arthur, holl gyfleusterau Aberystwyth a thaith ar y trên stêm i Bontarfynach gyda’i raeadr a'i bontydd enwog.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw a chegin agored gyda dodrefn derw â steil gwledig, gyda llawr llechi, bwrdd bwyta a 6 chadair, oergell/rhewgell, popty, micro-don, golchwr llestri, peiriant golchi a sychu dillad.
Ardal i eistedd ac ymlacio gyda llawr pren, 2 soffa a chadair i 6 o bobl, bwrdd coffi, nythaid o fyrddau, teledu â sianeli am ddim, DVD a stôf llosgi coed (darperir coed tân).
O’r ystafell fyw mae 1 gris yn arwain i gyntedd lle ceir drws cefn yn agor i batio gyda lein ddillad, bwrdd a 6 chadair.
Ystafell ymolchi teulu gyda chawod dros y bath a llawr llechfaen. 2 ris arall i’r ystafelloedd gwely.
Yn yr ystafell wely gyntaf ceir llawr derw ac ystafell en suite gyda chawod a llawr llechi. Gwely maint king a gwely sengl, bwrdd gwisgo, otoman, cypyrddau wrth ochr y gwely a theledu.
Ail ystafell wely gyda llawr derw, gwelyau king a sengl, bwrdd gwisgo, otoman, cypyrddau wrth ochr y gwely a theledu.
Gardd
Gardd amgaeedig fawr gyda dodrefn patio a lein ddillad. Lawnt gyda lle parcio o fewn y gatiau blaen.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwlau a thywelion yn cael eu darparu.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Cot teithio, cadair uchel a giât grisiau ar gael. Dewch a'ch dillad gwely eich hun ar gyfer y cot.
- Platiau a phowleni plastig i blant yn cael eu darparu.
- Wi-fi ar gael.
- Parcio preifat.
- Yn fodlon derbyn 1 ci.
- Dim ysmygu.
- Stôf llosgi coed yn y lolfa a gwresogyddion storio.
Lleoliad
Ar lôn breifat, mae bwthyn 5 seren Llety'r Graig yn un o ddau fwthyn sydd wrth ymyl ei gilydd mewn dyffryn gwledig hardd yn wynebu’r de, gyda golygfeydd arbennig o fryniau’r ardal. Milltir yn unig o bentref Tal-y-bont gyda’i dafarndai, siop, garej, ac ardal chwarae i blant. Mae’r dyffryn deniadol hwn yn gyfleus ar gyfer glan y môr a Mynyddoedd Cambria, gyda chyfleoedd arbennig i gerdded a beicio.
Lleolir y bwthyn 8 milltir o dref Prifysgol a glan môr Aberystwyth sydd â Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa, Canolfan Hamdden, Castell, Siopau, Cwrs Golff, Llwybr Beicio, Rheilffordd Gul i Bontarfynach gyda’i raeadrau enwog, a nifer o lwybrau cerdded dymunol.
11 milltir i’r cyfeiriad arall mae tref hanesyddol Machynlleth sydd â llwybrau beicio, llwybrau cerdded, Canolfan Hamdden, Cwrs Golff, Senedd-dy cyntaf Cymru, yn dyddio’n ôl i ddechrau’r bymthegfed ganrif a Marchnad Stryd ar ddydd Mercher. Rai milltiroedd eto tua’r gogledd mae Canolfan y Dechnoleg Amgen, a Chanolfan Grefftau Corris a Labyrinth y Brenin Arthur.
Perffaith ar gyfer gwyliau moethus i’r teulu, a bydd cyfle i ymweld â Gwarchodfa Natur Ynys Hir a’r Twyni Tywod, cerdded, seiclo, gweld golygfeydd, mynd i lan y môr, chwarae golff, gwylio adar a physgota. Mae mwyngloddiau Arian a Phlwm Llywernog a Rhaeadrau a Grisiau Pontarfynach hefyd yn werth ymweld â nhw.
Traethau
Mae traethau hardd o fewn 7 milltir yn y Borth ac Ynys Las, ac mae tref glan môr boblogaidd Aberystwyth o fewn 8 milltir.
Cerdded
Mae digon o lwybrau cerdded mynydd a chefn gwlad. Mae llwybrau cerdded cyhoeddus hefyd gerllaw a llwybr arfordir yn y Borth, 6 milltir o’r bwthyn.
Beicio
Mae llwybr beicio am tua 3 milltir yn mynd o’r pentref wrth ymyl y ffordd fawr, ac mae nifer o lwybrau seiclo eraill o fewn rhai milltiroedd. Hefyd, mae digonedd o ffyrdd gwledig sy’n addas ar gyfer cerdded a seiclo.
Beicio Mynydd Dyfi – Beics ar gael i’w llogi yn siop The Holy Trail ym Machynlleth. Mae’r holl lwybrau’n dechrau o Fachynlleth. 11 milltir
Canolfan Feicio Mynydd Nant yr Arian – un o brif ganolfannau Beicio Mynydd Cymru. 14 milltir
Gwylio Adar
Canolfan yr RSPB yn Ynyshir, Prosiect Gweilch Dyfi, Canolfan Fwydo Barcud Coch yn Nant yr Arian.
Golff
Mae Clwb Golff y Borth o fewn 7 milltir, Clwb Golff Aberystwyth o fewn 9 milltir. 12 milltir at Glwb Golff Machynlleth. Mae Clybiau Golff eraill llai ar gael yng Nghapel Bangor a Rhydyfelin.