- Cysgu 5 o bobl
- 2 Ystafell wely
- 1 Ystafell ymolchi
- Derbyn 2 anifail anwes
- WiFi
- Gardd neu iard amgaeëdig
Disgrifiad
Mae bwthyn Siop Shoni Bric-a-Moni wedi ei leoli ar set ffilmio Pentre Bach, gyd parc, ardaloedd chwarae eang, ystafell gemau, sied weithgareddau, gweithdai ac hyd yn oed sied gwisgo’i fyny. Mae Pentre Bach wedi ei leoli o fewn hanner can acer o dir fferm weithiol, gyda llwybrau cerdded a beicio gwych gerllaw, a nifer fawr o atyniadau a gweithgareddau o fewn taith fer yn y car, yn cynnwys traeth yn nhref Brifysgol Aberystwyth. Mae Siop Shoni Bric-a-Moni wedi ei addurno’n hynafol ac mae’n cynnwys piano a nifer o bethau diddorol ac anarferol eraill.
Llawr Gwaelod
Cegin ac ardal fwyta ac eistedd gyda drysau yn agor allan i’r ardd gefn. Cegin yn cynnwys oergell (gyda rhewgell oddi mewn) a pheiriant golchi dillad. Rhewgell ychwanegol yn y Caffi drws nesaf.
Ystafell ymolchi gyda cawod, basn a thoiled.
Llofft ddwbl - stepiau i lawr i’r llofft gyda gwely dwbl, droriau a chwpwrdd dillad.
Llofft gyda gwely bync a gwely sengl. Teganau, gemau a llyfrau.
Tu allan
Ardal patio yn y cefn a lawnt fawr sydd yn cael ei rhannu gyda gweddill y bythynnod. Mainc a digon o weithgareddau a gofod i blant fwynhau. Mae yna hefyd barc chwarae, ystafell gemau, sied weithgareddau, a sied ar gyfer gwisgo’i fyny. Yn ogystal ceir nant fechan ar y safle. Mae’r ystafell chwaraeon yn rhan o’r dyfeisiwr ecolegol ecsentrig Bili Bom Bom, ac mae’n cynnwys tennis bwrdd a bwrdd pêl-droed bach ac hefyd nifer o deganau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Storfa ddiogel ar gyfer beiciau.
- Digon o le parcio.
- Darperir dillad gwelyâu a thywelion.
- Trydan a gwres canolog olew yn gynwysedig.
- Cadair uchel, cot teithio a gât ar gyfer y grisiau ar gael os dymunir. Dewch â’ch dillad gwely eich hun ar gyfer y cot.
- Wi-fi yn gynwysedig.
- Darperir yr eitemau canlynol ar gyfer eich arhosiad:
- Cegin - halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi ar gyfer y peiriant golchi llestri.
- Ystafell ymolchi - sebon a 2 rôl toiled ar gyfer pob toiled.
- Cynnyrch glanhau cyffredinol - chwistrellydd gwrth-facteria a.y.b.
- Dim ysmygu tu mewn i’r bwthyn.
- Caniateir anifeiliaid anwes (dim mwy na dau gi).
- Gellir archebu’r bwthyn hwn ar y cyd â’r bythynnod eraill ym Mhentre Bach (Gwesty Pili Pala a Ty Pél-droed) i letya hyd at 19 o westeion.
- Gellir derbyn archebion gan grwpiau i gynnwys yr holl fythynnod gyda lle arlwyo a bwyta ar gael yn y Caffi sydd ar y safle.
Nodweddion
- Cysgu 5 o bobl
- 2 Ystafell wely
- 1 Gwely dwbl
- 1 Gwely sengl
- 1 Gwely bync
- 1 Ystafell ymolchi
- Derbyn 2 anifail anwes
- WiFi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Friday newid
- 7 o draeth
- 4.5 milltir o dafarn
- 4.5 o siop
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ar fferm weithredol
- Parcio preifat
- Dillad gwely yn gynwysedig
- Rhewgell
- Ystafell chwaraeon
- Dim ysmygu
- Tywelion yn gynwysedig
- Dim peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi
- Cadair uchel
- Cot symudol
Prisiau
Map
Calendr
Eitemau Ychwanegol
Holiday Extras
We've hand-picked a selection of Holiday Extras from trusted partners to make your holiday extra special. When you make your booking, you'll see all the Extras on offer at your chosen property and be able to add them to your holiday. Booking them in advance gives you more time to relax when you arrive, and remember - many of these offers are exclusive so you won’t find them anywhere else.

Corris Mine Explorers 10% off Mine Exploration Tours
First excavated in 1836, Braich Goch Slate Mine closed around 40 years ago. Go underground and see first-hand the kind of conditions miners had to work in.

King Arthur's Labyrinth 10% off Underground Adventures
Take an exciting trip to the underground caverns and tunnels and learn about the myths and legends of King Arthur where your adventure begins by boat!

Virgin Wines 12 Bottle Classic Wine Selection
This classic case oozes class and is perfect to give you various flavours from across the globe! Enjoy 2 bottles of each wine to encourage sharing or indulgence...
- Normal price
- £115.87
- Price
- £95.50

Virgin Wines 12 Bottle Luxury Wine Selection
This 12 bottle case is packed full of wines to blow you away with flavours and complexities all round – a case guaranteed to impress all who get the pleas...
- Normal price
- £175.87
- Price
- £131.90

Cadw 20% I FFWRDD O AELODAETH CADW
Wrth fod yn aelod o Cadw, mi gewch fynediad diderfyn i dros 100 o safloedd hanesyddol ar draws Cymru.Ar ben hynny, mae aelodaeth Cadw yn cynnwys:50% i ffwrdd o ...

Virgin Wines 6 Bottle Celebratory Wine Selection
A true Prosecco lover's case! No excuse is needed for this beautiful selection (so don’t let others tell you any different!). Start with the wonderful flo...
- Normal price
- £74.93
- Price
- £61.75

Virgin Wines 6 Bottle Classic Wine Selection
This 6 bottle classic case is perfect for those wanting to try something of everything – carefully selected to incorporate crowd pleasers from across the ...
- Normal price
- £60.93
- Price
- £47.95

Europcar Car Hire
Europcar, our preferred car hire partner, are offering you great quality UK car hire at affordable prices. With our dedicated offer you will save up to 20%.

Dineindulge Dineindulge - private dining service
Enjoy private dining in the comfort of your holiday property. Dineindulge offer a personal chef service with restaurant quality cuisine from only £25 per perso...

Little Welsh Hamper Company Luxury Welsh Hampers
Enjoy free delivery on fantastic luxury Welsh hampers during your holiday
Pages
Ardal leol
Bwthyn ar safle Pentre Bach, Blaenpennal, ger Tregaron yw Siop Sioni Bric-a-Moni. Wedi ei leoli ar set ffilmio'r gyfres deledu i blant, ‘Pentre Bach’, cartref Sali Mali a nifer o gymeriadau enwog eraill. Mae’r holl bentref wedi ei gynllunio o amgylch y cymeriadau ac mae’r parc chwarae, y sied weithgareddau, y gweithdai a’r caffi yn setiau ffilmio go iawn yn y gyfres (mae gan y caffi amseroedd agor cyfyngedig - gellir ei archebu ar gyfer aduniadau/partion). Mae yma bedwar bwthyn gwyliau i gyd, y pedwar wedi eu lleoli ar hanner can acer o dir fferm gweithiol yng nghefn gwlad godidog Gorllewin Cymru. Mae Tregaron oddeutu pedair milltir a hanner i ffwrdd gyda tafarndai a siopau gwych. Fel fferm weithiol mae yna sawl cyfnod cyffrous yn ystod y flwyddyn, er enghraifft, y tymor wyna pryd gall y plant weld a hyd yn oed helpu i fwydo’r wyn bach (trwy drefniant gyda’r ffermwr).
Pymtheg milltir i ffwrdd mae tref brifysgol a glan y môr Aberystwyth gyda dau draeth mawr, ystod eang o dafarndai, gwestai a chaffis. Yn gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan y Celfyddydau mae’r dref yn cynnig digon o amrywiaeth diwylliannol. Mae’n ardal wych ar gyfer gweithgareddau awyr agored gan gynnwys cerdded, beicio, beicio mynydd - fe gynhelir gwyl feicio flynyddol gyda ras broffesiynol o amgylch tref Aberystwyth yn ogystal â digwyddiadau eraill. Gellir pysgota môr o’r lan neu ar dripiau cwch a cheir amrywiaeth o weithgareddau eraill megis caiacio, dringo, abseilio, cyfeiriannu, cwrs rhaffau uchel ac isel, gwifren zip a chwrs antur.
Mae’n werth ymweld ag un o berlau arfordir Bae Ceredigion, sef Aberaeron, tref borthladd fechan, 14 milltir i ffwrdd o’r bwthyn. Mae yno nifer o lefydd i fwyta ac yfed, gan gynnwys yr Harbourmaster a rhywfaint o siopau lleol. Mae’r holl arfordir yn enwog am ei boblogaeth niferus o ddolffiniaid ac mae amryw o lefydd gwych i weld y mamaliaid hardd yma, gan gynnwys tripiau sy’n teithio yn arbennig i’w gweld o harbwr Cei Newydd.
Traethau
Mae traeth Aberystwyth yn draeth delfrydol ar gyfer mwynhau’r diwrnod gyda’r teulu, 15 milltir i ffwrdd o’ch bwthyn. Fe geir sawl traeth gwych arall yn y cyffiniau gan gynnwys traethau Cei Newydd, 20 milltir i ffwrdd ac Aberaeron, 14 milltir i ffwrdd.
Cerdded
Ceir llawer o lwybrau cerdded difyr yn cychwyn o’r fferm. Mae Llwybr Cors Caron oddeutu 3 milltir i ffwrdd tra bod Llwybr Arfordir Ceredigion a Llwybr Arfordir Cymru 14 milltir i ffwrdd.
Beicio
Beicio ffordd gwych ar hyd lonydd gwledig tawel (0.1 milltir).
Canolfan Feicio Mynydd Nant yr Arian – un o brif ganolfannau beicio mynydd Cymru, sy’n cynnwys Llwybr Teiars Cyfandirol Syfyrdrin, un o’r llwybrau gyda’r golygfeydd harddaf yn y Deyrnas Unedig (24 milltir).
Pysgota
Pysgota môr o’r lan yn Aberystwyth a chychod siarter ar gael o’r harbwr (12 milltir).
Afonydd Teifi a Brenig - trwyddedau ar gael drwy’r clwb pysgota lleol (7 milltir).
Pysgota gyda phlu a physgota bras yn Fferm y Fron (1.9 milltir).
Golff
Mae Cwrs Golff Penros ger Llanrhystud yn gwrs golff o hyd pencampwriaethol gyda 18 twll (8.4 milltir).
Marchogaeth
Mae Canolfan Farchogaeth Rheidol yn cynnig merlota o amgylch Dyffryn Rheidol ar gyfer pob lefel a gallu (18 milltir).
Adolygiadau