Ty Pair

Aberaeron, West Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Pre-Easter offer for stays between 23rd February - 28th March
  • Special Offer10% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £453 yr wythnos
  • £65 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Sawna
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king

Cegin

  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Gyda golygfeydd anhygoel o'r môr, mae'r bwthyn hunan ddarpar hwn ar fferm weithiol yn agos i Aberaeron ac Aberystwyth. Yn ogystal â hyfrydwch yr arfordir (yn cynnwys dolffiniaid enwog Gorllewin Cymru) a nifer o draethau gerllaw, mae Mynyddoedd y Cambrian yn cynnig nifer o weithgareddau, yn cynnwys llwybrau cerdded gwych, beicio, beicio mynydd, pysgota, ac hyd yn oed cyfle i fwydo'r barcutiaid coch sy'n hedfan uwchben. Lleoliad delfrydol ar gyfer eich gwyliau yng Ngorllewin Cymru. 

Llawr gwaelod

Cegin ac ardal fwyta gyda'r holl offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, hob a phopty trydan, tostiwr, tegell, meicrodon, oergell/rhewgell maint llawn, a bâr brecwast.

Lolfa gyda soffa gysurus siap L, teledu a drysau patio. Bwrdd bwyta i 4. 

Ystafell ymolchi gyda cawod y gellir cerdded i mewn iddi, toiled a basn.

Ystafell wely 1 - gwely superking (gellir newid y gwely i ddau wely sengl - noder hyn pan yn archebu).

Ystafell wely 2 - gwely king 

Tu Allan

Ardal patio yn y cefn, lawnt gyda bwrdd a chadeiriau.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig  
  • Storfa feiciau ddiogel  
  • Wifi ar gael
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig  
  • Cadair uchel a chot trafeilio ar gael - dewch â dillad eich hun i'r cot.  
  • Dim ysmygu   
  • Dim anifeiliaid anwes
  • Parcio tu allan i'r bwthyn   

Gwybodaeth i Bobl Anabl a Llai Abl

 - ystafelloedd gwely a'r ystafell ymolchi ar un lefel ond 4 step i fyny i'r lolfa a'r ardal fwyta   

 - cawod y gellir cerdded i mewn iddi   

 - ni ellir cael mynediad i'r lolfa a'r ardal fwyta mewn cadair olwyn   

Lleoliad

Mae'r bwthyn hwn yn ffinio gydag un bwthyn hunan ddarpar arall ac wedi ei leoli ar fferm weithiol uwchben pentref Llanon, ger Aberaeron. Ond cwarter milltir sydd i bentref Llanon, gyda'i draeth graeanog, ac hefyd tafarn, siop leol a siop prydau parod. 

Mae tref harbwr Sioraidd Aberaeron 5 milltir i ffwrdd. Dyma dref sydd wedi adeiladu enw da gyda bwytai a thafarndai gwych, yn cynnwys yr Harbwrfeistr, yr Hive, a'r Celtic. Yn ystod yr adegau prysur gellir archebu tripiau cwch neu brynu pysgod ffres o'r Cei. Mae nifer o siopau annibynnol yn Aberaeron, o archfarchnadoedd bach a siopau groser, i siopau arbennig ar gyfer y tŷ, megis Seld, gyda'i nwyddau Cymreig neilltuol.   

Fe leolir tref brifysgol Aberystwyth 11 milltir i'r gogledd gyda'r Llyfrgell Genedlaethol, traethau, pier, siopau lleol, archfarchnadoedd. a nifer o lefydd i fwyta ac yfed. Gellir llogi tripiau cwch i weld y bywyd gwyllt, pysgota, neu wylio'r dolffiniaid o Gei Newydd, 12 milltir i ffwrdd. 

Gydag arfordir garw a hardd, mae rhai o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd wedi eu lleoli o gwmpas y môr a'r arfordir, yn cynnwys pysgota, syrffio, hwylio, gwylio adar, beicio a cherdded. 

Traethau

  • Llanon - traeth graeanog o fewn pellter cerdded (0.3 milltir)  
  • Cei Bach - traeth euraidd ger Cei Newydd sy'n boblogaidd gyda teuluoedd (12 milltir)  

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Ceredigion - (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru) yn rhedeg ar hyd yr arfordir a gellir ymuno ag ef yn Llanon (0.3 milltir)   

Chwaraeon Dŵr

  • Canolfan Weithgareddau Llain - (5.5 milltir)
  • Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion - dewis o hwylio dingi, hwylio, cychod pŵer, syrffio gwynt a caiacio, gyda sesiynau hir neu fyr sy'n addas ar gyfer pob lefel a gallu (8.5 milltir) 

Pysgota

  • Pysgota môr - pysgota gwych o'r lan neu gellir llogi cwch o Aberaeron (5 milltir)  
  • Canolfan Bysgota Nine Oaks, Derwen Gam (9 milltir)

Beicio

  • Beicio gwych ar ffyrdd gwledig (1 milltir)  
  • Beicio Mynydd Bwlch Nant yr Arian (19 milltir)

Golff

  • Clwb Golff Penros, Llanrhystud - cwrs 18 twll mewn 150 acer o gefn gwlad ffrwythlon (2.2 filltir)  

Marchogaeth

  • Gilfach yr Halen, Llwyncelyn - trecio tywysedig drwy gefn gwlad anhygoel (4.5 milltir)