Angorfa Aberaeron Apartment

Aberaeron, West Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £444 yr wythnos
  • £63 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r harbwr
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Llety gwyliau yn Aberaeron, yn edrych allan ar yr harbwr ac yn ganolog i dref lan môr Sioraidd hardd. Mae popeth yr ydych angen o fewn pellter cerdded yn cynnwys bwytai o safon uchel, tafarndai, siopau bach, parlwr hufen ia, harbwr a'r traeth. Unwaith yn borthladd pysgota prysur mae'n dal yn bosib i brynu pysgod ffres o'r Cei. Mae'r llety yn medru cysgu 4 (3 ac 1 ychwanegol, gweler manylion gwelyau).

Ceir mynediad i'r llety fyny grisiau.

Ail lawr

Cegin, lolfa ac ardal fwyta agored, y gegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys meicrodon, popty, oergell gyda rhewgell oddi mewn a pheiriant golchi. Lolfa gysurus gyda lle i 4 eistedd, teledu, DVD a golygfeydd ar draws yr harbwr.

Ystafell wely 1 gyda gwely 4 troedfedd. Yn swyddogol mae'r gwely yn cysgu 1 ond gall gysgu 2.

Trydydd llawr

Ystafell wely 2 - dau wely sengl gyda golygfeydd nenlinell allan i'r môr.

Ystafell ymolchi steilus gyda cawod, toiled a basn. 


Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth, bisgedi a chacennau cartref. Gadewch i ni wybod os ydych yn dathlu achlysur arbennig ac fe wnawn gynnwys sypreis ychwanegol yn y pecyn 
  • Noder fod mynediad i'r llety fyny grisiau. Anaddas ar gyfer gwesteion llai abl. 
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig (dewch â'ch tywelion eich hun i'r traeth)  
  • Trydan a gwres yn gynwysedig  
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 
  • Archfarchnadoedd yn dosbarthu i'r llety ond mae yna nifer o siopau gwych yn gwerthu cynnyrch o ffynonellau lleol  
  • Dim ysmygu a dim anifeiliaid anwes  
  • Does dim parcio penodol i'r llety ond mae maes parcio ar y Cei a pharcio ar y stryd gerllaw  
  • Wi-fi ar gael  

Lleoliad

Mae'r llety hwn ar 2il a 3ydd llawr tŷ sydd gyferbyn â'r cei. O fewn 100 llath i'r siopau a'r cyfleusterau sydd gan Aberaeron i'w cynnig. Gyda tai o arddull Sioraidd, roedd Aberaeron unwaith yn borthladd pysgota prysur, ond erbyn hyn mae'n dref hynafol, enwog am ei thai lliwgar a'r harbwr ysblennydd. Mae yna nifer o lefydd gwych i fwyta ac yfed yn cynnwys yr Harbwrfeistr, Arosfa, siop sgodyn a sglodion Celtic. Mae'n rhaid hefyd flasu hufen ia o'r Hive pan ar ymweliad ac Aberaeron.

Mae tref Aberystwyth 15 milltir i'r Gogledd ac yma fe leolir Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Aberystwyth, rheilffordd y graig Constitution Hill, harbwr, traethau ac wrth gwrs y pier a'r promenâd. Mae'n werth ymweld â twyni tywod Ynys Las sydd yn rhan o warchodfa natur cenedlaethol Dyfi. 

Mae tref glan môr Cei Newydd yn gorwedd i'r de. Yn enwog am ei dolffiniaid, gellir archebu tripiau cwch i'w gweld o'r cei. Yn aml, gellir gwylio'r dolffiniaid o wal yr harbwr.

Traethau

Aberaeron - gyda 2 draeth graeanog o fewn pellter cerdded (0.1 milltir)   

Chwaraeon Dŵr

Ystod eang o chwaraeon dŵr ar gael yng Nghei Newydd, yn addas ar gyfer pob lefel a gallu (8 milltir)  

Pysgota

Pysgota môr - pysgota o'r lan gyda tripiau cychod ar gael (0.1 milltir)  

Pysgota gêm - Clwb Pysgota Tref Aberaeron yw'r unig glwb swyddogol ar yr afon Aeron. Mae'n rheoli tua 2 filltir o bysgota ar ddwy lan yr afon (0.1 milltir)   

Cerdded

Llwybr Arfordirol Ceredigion - rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan ac yn pasio heibio'r tŷ (0.1 milltir) 

Beicio

Ffyrdd gwledig sy'n ddelfrydol ar gyfer beicio, yn ogystal â llwybrau oddi ar y ffordd yn cynnwys Llwybr Ystwyth (0.2 filltir)   

Golff

Clwb Golff Penros -150 acer o gefn gwlad ffrwythlon yn Nyffryn Wyre, Gorllewin Cymru (8.1 milltir)  

Marchogaeth

Marchogaeth ar gael mewn nifer o leoliadau yn cynnwys Gilfach yr Halen Llwyncelyn (3 milltir)