- £557 yr wythnos
- £80 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau bync
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae’r bwthyn gwyliau hwn ger Aberaeron yn cynnig twb poeth preifat ac mae o fewn 120 metr i’r traeth, y llwybr arfordirol a golygfeydd hynod o Fae Ceredigion. Mae Bro Dawel yn dŷ Sioraidd crand gyda digon o gymeriad a nodweddion – gan gynnwys stôf llosgi coed groesawgar yn y lolfa. Mae’r lleoliad yn gyfleus hefyd – dim ond 1.5 milltir ar hyd y llwybr arfordirol, dewch o hyd i fwytai gwych, siopau a chaffis Aberaeron.
Llawr Gwaelod
Mae yma gegin wledig newydd sbon sy’n cadw at naws glyd ond ymarferol y tŷ. Mae’n cynnwys pob cyfleustra modern (gan gynnwys peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad) ac mae offer gweini ar gael hefyd. Mae hon yn ystafell gymdeithasol sydd drws nesaf i’r ystafell fwyta/ystafell wydr.
Yn yr ystafell wydr, mae bwrdd bwyta â lle i 8 o bobl, sy’n edrych allan ar yr ardd breifat.
Cawod a thŷ bach ar y llawr gwaelod. Mae’r cyfleusterau hyn yn ddefnyddiol iawn, os ydych chi newydd ddod yn syth o’r traeth neu o’r twb poeth.
Mae gan y lolfa gyntaf stôf llosgi coed aml-danwydd i’ch cynhesu chi ar nosweithiau clyd yn y tŷ. Mae hyn, yn ogystal â’r soffa gornel gyfforddus a’r gadair freichiau, yn gyfuniad perffaith tra byddwch yn gwylio’r teledu neu DVD, yn darllen un o’r detholiad o lyfrau lleol neu’n chwarae gemau bwrdd.
Mae’r ail lolfa’n cynnwys gwely soffa dwbl a lle tân nodweddiadol. Ceir teledu a chwaraewr DVD, llyfrgell fechan ac amrywiaeth o gemau bwrdd.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 – Mae’r prif ystafell wely’n cynnwys gwely dwbl clyd gyda chabinet naill ochr iddo, cist ddillad a chwpwrdd dillad. Ceir hefyd olygfeydd o Fae Ceredigion o’r ystafell hon.
Ystafell wely 2 – Yn yr ail ystafell wely, ceir gwely bync gyda bwrdd wrth ei ymyl, cwpwrdd dillad bychan a golygfa o’r môr.
Ystafell wely 3 – Gwely dwbl a bwrdd naill ochr iddo, a chwpwrdd dillad. Mae golygfa o’r môr yma hefyd.
Mae’r ystafell ymolchi fawr yn cynnwys cawod, bath hyfryd sy’n sefyll ar ei ben ei hun, yn ogystal â thŷ bach a basn ymolchi.
Gardd
Mae gan y bwthyn gwyliau hwn yn Aberaeron lawnt, twb poeth 6 sedd mewn cilfach neilltuo yn yr ardd, a dodrefn i’r ardd.
Gwybodaeth Ychwanegol
· Bydd pecyn yn barod i’ch croesawu, yn cynnwys cynnyrch lleol.
· Mae basged o goed yn rhan o’r pecyn croesawu. Mae mwy o goed ar gael am £5 y fasged gan y perchennog.
· Mae’r gwres a’r trydan yn gynwysedig.
· Darperir dillad gwely, tyweli bach a mawr, a sychwr gwallt.
· Gwely soffa dwbl ar gael yn yr ail lolfa. Rhowch wybod os bydd angen dillad gwely arnoch ar gyfer y gwely ychwanegol hwn.
· Wi-fi ar gael.
· Cot a chadair uchel ar gael ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
· Dim anifeiliaid anwes, a dim ysmygu.
· Mae lle parcio oddi ar y ffordd i ddau gar, ac mae mannau parcio cyhoeddus gerllaw.