- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- £655 yr wythnos
- £94 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r afon
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Trwydded parcio ar gael
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 15:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Golygfeydd anhygoel dros Stadiwm Principality a'r afon, mae Taff Penfro Cardiff Apartment ar y llawr cyntaf ac wedi ei leoli yng nghanol Caerdydd, o fewn pellter cerdded i bopeth sydd gan y Ddinas i'w chynnig, gan gynnwys y Stadiwm, Castell, siopau, bwytai, bariau a pharciau. Gyda 3 ystafell wely ac yn cysgu hyd at 6 o westeion, mae'r llety yn berffaith ar gyfer gwyliau byr yn y ddinas, ar gyfer digwyddiadau yn y stadiwm, neu ar gyfer arhosiadau corfforaethol. Mae'r llety wedi ei leoli ar Arglawdd Fitzhamon sy'n gartref i'r farchnad bwyd stryd enwog bob dydd Sul. Mae'r llety yn dod â pharcio ar gyfer 1 car, gyda pob hwb teithio, yn cynnwys gorsafoedd trên a bws, o fewn pellter cerdded.
Llawr Cyntaf
Cegin, ardal fwyta a lolfa ar gynllun agored. Soffa siap L ac un gwely soffa dwbl. Teledu Smart ar y wal.
Cegin yn cynnwys peiriannau golchi llestri a golchi dillad, oergell, rhewgell, popty a hob trydan, tegell, tostiwr a pheiriant gwneud coffi.
Ystafell wely 1 - gwely maint king gyda ffenestri mawr yn edrych allan i gefn y llety; teledu.
Ystafell wely 2 - gwely dwbl
Ystafell wely 3 - 2 wely sengl, cypyrddau a golygfeydd dros y stadiwm.
Ystafell ymolchi gyda bath a chawod oddi mewn, toiled a basn.
Tu Allan
Dim ardal benodol tu allan ond mae'r ddinas ar stepen y drws.
Gwybodaeth chwanegol
- Mae'r llety ar y llawr cyntaf gyda mynediad i fyny grisiau yn unig
- Ddim i gael ei archebu ar gyfer partion, ar unrhyw gyfrif
- Gwres a thrydan yn gynwysedig .
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Sychwr gwallt a drych hir
- Cadair uchel a chot trafeilio ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Wi-Fi yn gynwysedig am ddim
- Mae caniatâd i barcio un car gyda digon o opsiynau eraill gerllaw - parcio stryd am ddim 5 munud i ffwrdd ar droed. Bydd manylion a mapiau yn cael eu rhoi i'r gwesteion. Mae teithio ar drên neu fws yn ddelfrydol gan fod y llety ond taith fer ar droed o'r gorsafoedd tren a bws
- Dim ysmygu
- Dim anifeiliaid anwes
- Gellir cysgu 7 os dymunir yn y gwely soffa dwbl neu wely 'tynnu allan' ychwanegol (bydd yn rhaid gwneud cais pan yn archebu)
Gwybodaeth ar gyfer Gwesteion Anabl a'r Llai Abl
- Mae mynediad i'r llety i fyny 3 step o flaen yr adeilad ac yna grisiau i fyny i'r llawr cyntaf
- Mae'r holl ystafelloedd ar y llawr cyntaf