Ysgubor Tawe

Swansea Valley, South Wales

  • 4 Star
  • Ysgubor Tawe, dim ond wyth milltir o Abertawe wedi ei osod ar fferm fryniog dawel yng Nghwm Tawe a'i olygfeydd godidog.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £578 yr wythnos
  • £83 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Yn nythu rhwng mynyddoedd y Bannau Brycheiniog a hafan arfordirol Gwyr, mae’r bwthyn gwyliau hwn ym Mhontardawe wedi’i leoli ar fferm heddychlon ym Mro Tawe. Mae’r bwthyn mewn lle perffaith i ymlacio a gwneud y mwyaf o atyniadau a gweithgareddau’r ardal. Dim ond 8 milltir i ffwrdd o Abertawe.

Llawr Gwaelod

Cegin ac ystafell fwyta agored gyda chegin osod ffasiynol, popty nwy, meicrodon, tostiwr, gril, peiriant coffi a theledu. Mae lle i chwech fwyta wrth y bwrdd bwyd.

Lolfa gyda theledu mawr 50”, DVD a soffas lledr moethus. Drysau dwbl yn agor allan ar ardal yr ardd a golygfeydd gwych.

Ystafell wely ddwbl gydag ystafell wlyb en-suite.

Llawr cyntaf

Dwy ystafell ddwbl en-suite gyda bath hanner-maint a chawod uwchben y bath, toiled a sinc.

Tu allan

Ardal batio, ystafell haul a mainc a chae mawr caeedig, ½ erw o lawntiau i’w mwynhau a gasebo pren ac ardal barbeciw sy’n cael ei rhannu gyda’r bwthyn arall.

Mae yna hefyd olchdy i’w rannu, gyda pheiriant golchi a sychwr dillad.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'r trydan yn cael ei fesur gan fesurydd.

Mae gwres yn gynwysedig.

Pecyn croeso wrth i chi gyrraedd yn cynnwys te, coffi, siwgr a bisgedi.

Darperir dillad gwely a thywelion

Trydan a gwres olew canolog yn gynwysedig.

Wi-Fi ar gael.

Cadair uchel, cot teithio a giat grisiau ar gael yn y bwthyn. Os gwelwch yn dda dewch â’ch lliain gwely eich hun ar gyfer y cot.

Mae’r eitemau canlynol hefyd yn gynwysedig yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad;

Cegin: halen a phupur, rôl cegin, hylif golchi llestri/tabledi golchi llestri, tywelion sychu llestri a sgwrwyr newydd, ffoil tin a chling ffilm.

Ystafell ymolchi: sebon hylif a dau doiled rôl ar gyfer pob toiled.

Cynnyrch glanhau cyffredinol: cannydd (bleach), glanhawr cawod, chwistrellydd gwrthfacteria a.y.y.b

Dim ysmygu tu fewn.

Croeso i anifeiliaid anwes (uchafswm o ddau gi) am £15 y ci, ond dim anifeiliaid anwes yn yr ystafelloedd gwely. Nid yw'r bwthyn hwn yn derbyn cathod. 

Mae’r bwthyn hwn yn cynnig gwyliau byr ar adegau penodol o’r flwyddyn. Mwy o wybodaeth o dan ‘Prisiau’.

Lleoliad

Mae Ysgubor Tawe wedi’i leoli wyth milltir i ffwrdd o Abertawe. Mae’n adeilad ar wahân sy’n rhannu buarth gydag un bwthyn arall ar fferm wledig, 36 erw heddychlon ym Mro Tawe. Er gwaethaf yr ardal dawel a’r golygfeydd godidog, mae’r bwthyn gwyliau yma wedi’i leoli llai na milltir i ffwrdd o bentref Pontardawe gydag amryw o siopau lleol, tafarnau, banc a llefydd i fwyta ac i yfed. Mae yna hefyd archfarchnad ddwy filltir i ffwrdd.

Mae’r Stadiwm Liberty, cartref tîm pêl-droed Abertawe a thîm rygbi’r Gweilch wedi’i leoli saith milltir i ffwrdd. Mae gan Abertawe hefyd barc dwr/canolfan nofio gyda phwll 50m a nifer o lithrennau dwr a reidiau dwr. Mae Abertawe’n cynnwys nifer o siopau gwych, ac mae ganddi arwyddocad hanesyddol mawr gan mai Abertawe oedd prif gynhyrchydd copr y Byd yn yr 19eg ganrif.

Dim ond deuddeg milltir i ffwrdd mae Penrhyn Gwyr, yn adnabyddus am ei brydferthwch naturiol anhygoel, ei holl draethau a’i weithgareddau arfordirol. Mae Parc Cenedlaethol Y Bannau Brycheiniog wedi’i leoli un ar ddeg milltir i’r Gogledd gyda golygfeydd godidog, cyfleon cerdded gwych a gweithgareddau awyr agored eraill.

Cerdded

Llwybr priod a llwybrau cerdded yn rhedeg heibio’r bwthyn. Mae yna hefyd lwybr cerdded coedwigol ar y fferm. 0.1 milltir.

Chwaraeon Dwr

Mae Chwaraeon Dwr Abertawe yn darparu amryw o weithgareddau chwaraeon dwr a hyfforddiant ar gyfer pob oed a phob lefel o brofiad. 11 milltir.

Golff

Mae Clwb Golff Pontardawe mewn lleoliad dyrchafedig gyda golygfeydd gwych. 1.4 milltir.

Beicio

Beicio Mynydd - Mae Parc Coedwig Afan yn un o draciau beicio mynydd gorau Prydain gyda 4 llwybr llifo gwych a digonedd o draciau sengl aml-dywydd. 12 milltir.

Llwybrau beicio, llwybr NCN tuag at y Bannau Brycheiniog neu i’r De tuag at Abertawe. 1.5 milltir.

Pysgota

Pysgota Gêm : Afon Tawe, afon fach hyfryd sy’n cynnwys eogiaid, brithyll y môr a brithyll brown. Cysylltwch â Chymdeithas Pysgota Isafonydd Tawe am docynnau diwrnod. 1 milltir.

Pysgota Môr : Pysgota o’r lan gwych, cychod pysgota a siarter ar gael o Farina Abertawe. 9.4 millir.

Merlota

Canolfan Marchogaeth Cimla - gwersi marchogaeth, merlota a gwyliau marchogaeth ar gyfer pob oed a phob gallu. 9.8 miltir.