- £717 yr wythnos
- £102 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Yng nghefn gwlad ac yn agos i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, arfordir gwefreiddiol Gwyr a Bro’r Sgydau mae’r bwthyn hwn yn cynnig llety hunan-ddarpar 5 seren ynghanol harddwch Cwm Tawe. Wrth i chi yrru i fyny at y bwthyn fe ddewch yn ymwybodol o lonyddwch distaw eang yr ardal. Fodd bynnag mae’n hygyrch iawn ac mae’n hawdd cyrraedd yr atyniadau lleol. Boed am benwythnos hir moethus neu wythnos egnïol o feicio neu gerdded, Bwthyn Glyn yw’r lle perffaith ar gyfer eich gwyliau.
Eisteddwch i fwynhau pryd o fwyd neu ddiodydd tu allan ar noson fwyn yn y gerddi tlws o dan olau’r teras, ymlaciwch gyda brecwast yn yr ystafell fyw heulog neu swatio’n glyd yn y bath trobwll gyda llyfr. Wedi ei leoli ymhell o’r brif ffordd heb unrhyw draffig yn pasio drwodd, mae’r bwthyn yn cynnig awyrgylch heddychlon, gyda dim mwy na chwningen neu gnocell y coed achlysurol i amharu arnoch.
Llawr Gwaelod
Mae’r gegin/ystafell fwyta ar gynllun agored ac yn gyflawn gyda phopty ceramig dwbl Rangemaster ac wynebau gweithio gwenithfaen, golchwr llestri, oergell a rhewgell integredig.
Ystafell iwtiliti gyda golchwr / sychwr dillad.
Ystafell fyw gyda theledu sgrin lydan a Sky+, Wifi, chwaraewr DVD, stôf llosgi coed a basged o goed tân yn y fargen.
Llawr Cyntaf
Ystafell ddwbl gydag en-suite yn cynnwys cawod
Ail ystafell wely ddwbl
Ystafell wely twin
Prif ystafell ymolchi gyda bath trobwll
Gardd
Ardal balmantog yn y blaen, yr ochr a’r cefn. Ceir lawnt fawr yn y blaen hefyd gyda golygfeydd o’r mynyddoedd a’r dyffrynnoedd. Dodrefn gardd - bwrdd pren a chwe chadair.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir dillad gwely a thywelion
Darperir cot a chadair uchel ar gais, dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Gwres canolog (olew) a thrydan yn gynwysedig
Stôf llosgi coed gyda basged o goed am ddim
Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu.
Digonedd o le parcio ar y safle.
Stôf llosgi coed gyda basged o goed am ddim.