Dairy Cottage

Porthcawl, South Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer10% October Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £461 yr wythnos
  • £66 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Llaethdy oedd y bwthyn hwn sy’n caniatáu anifeiliaid, wedi ei leoli mewn 4.5 acer o dir preifat. Mae 3 cwrs golff o fewn 2 filltir, nifer o draethau a llwybrau cerdded ac mae’r traeth agosaf 10 munud i ffwrdd ar droed. Mae’r bwthyn hwn ym Mhorthcawl yn cynnig y lleoliad perffaith i fwynhau nifer o weithgareddau neu i ymlacio a chael seibiant.

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw gyfforddus gyda theledu (freeview) a chwaraewr DVD. Gwely soffa ar gael lle gellir cysgu 1.

Ystafell fwyta/cegin gyda phopeth sydd angen arnoch (gan gynnwys oergell a pheiriant golchi dillad), a drysau ffrengig yn agor i ardal deras.

1 ystafell ddwbl gyda gwely maint king.

Gardd

Ardal deras gyda mainc, yn wynebu’r de.

Croeso i westeion grwydro'r holl dir sy’n amgylchynu’r llety moethus hwn ym Mhorthcawl a mwynhau’r adar a’r planhigion.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Darperir dillad gwely a thywelion
  • Cot a chadair uchel ar gael ar gais
  • Ardal ddiogel i gadw beics / deunydd golff ayyb
  • Wi-Fi ar gael
  • Wedi ei leoli’n agos at y lôn fawr rhwng Porthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr
  • Caniateir anifeiliaid – 1 ci maint canolig neu 2 gi bach (£16 yr un)
  • Gwely sofa ar gael yn cysgu 1 - £26 yn ychwanegol
  • Darperir bwrdd a haearn smwddio
  • Digon o lefydd parcio
  • Gwyliau byr ar gael yn y llety hwn ym Mhorthcawl yn ystod adegau penodol o’r flwyddyn. Mwy o fanylion o dan ‘Prisiau.’
  • Croeso i westeion grwydro'r holl dir sy’n amgylchynu’r llety moethus hwn ym Mhorthcawl a mwynhau’r adar a’r planhigion.

Lleoliad

Mae’r bwthyn hwn ar wahân ac yn rhan o hen adeiladau allanol y fferm sydd wedi ei adnewyddu’n hyfryd. Wedi ei osod o fewn 4.5 acer o dir fferm sy’n cynnwys perllan a blodau gwyllt. Yn agos mae nifer o atyniadau gan gynnwys y nifer o draethau sydd ym Mhorthcawl, y Pafiliwn Mawr, Cerbydau Clasurol Porth cawl, Tywysoges Promenâd Porthcawl a Ffair Bae Treco. Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, Parc Bedford, Parc Gwledig Bryngarw, Parc Tondy, Goleudy, Canolfan Dreftadaeth Arfordirol a Chychod Stêm hefyd yn atyniadau amlwg. Os dymunwch ymweld â chestyll, gallwch ymweld â Chastell Candleston, Castell Aberogwr a Chastell Coety.

Mae Twyni Tywod Merthyr Mawr wedi eu lleoli tua milltir tu allan i bentref Merthyr Mawr, twyni anferthol yn rowlio tuag at arfordir Aberogwr/Porthcawl, unwaith y system twyni tywod mwyaf yn Ewrop. Maent yn enwog gan mai yma mae’r twyn tywod unigol uchaf yn Ewrop. Maent yn boblogaidd iawn gyda phlant, rhedwyr a phobl sy’n ymddiddori mewn bywyd gwyllt. Ffilmiwyd golygfeydd o’r ffilm enwog Lawrence of Arabia yma.

Yn ogystal â gweithgareddau awyr agored mae hefyd digon o opsiynau o dan do, gan gynnwys ‘Designer Outlet’ Pen-y-bont ar Ogwr, Sinema Odeon a Chanolfan Grefftau Ewenni. Dim ond pellter byr o Gaerdydd ac Abertawe, felly mae digon o gyfleodd i siopa a gellir cyrraedd nifer o ddigwyddiadau mawr o’ch llety ym Mhorthcawl.

Traethau

Traeth Drenewydd yn Notais - Traeth hir a thywodlyd, tua 3 milltir o hyd, yn ymestyn o Bwynt Drenewydd yn y dwyrain i geg afon Aberogwr yn y gorllewin. 0.5 milltir.

Chwaraeon Dwr

Cwmni chwaraeon dwr Ocean Queast, wedi eu lleoli yng Nghaerdydd a Phorthcawl, antur a hwyl yn y dwr gyda hyfforddwyr profiadol, o ddechreuwyr i rai profiadol. 2 filltir.

Cerdded

Amrywiaeth o lwybrau cylchol yn ogystal â Llwybr Treftadaeth Arfordirol Morgannwg.

Pysgota

Pysgota môr gwych ar gael yn Sianel Bryste a gellir pysgota môr a chreigiau ger llaw. 0.5 milltir

Pysgota Gêm – Mae gan yr afonydd Ogwr ac Eweni lawer o frithyll brown yn ogystal â sewiniaid. Gellir cael ticed dydd o Gymdeithas Genweirio Ogwr. 4 milltir.

Golff

Golff Grove Arfordir – cwrs golff 18 twll par 70 cwrs, yn cynnig gwir her i golffwyr o bob gallu. 1.2 milltir

Porthcawl Brenhinol - wedi ei ddisgrifio fel un o’r cyrsiau gorau yn y byd gan gyn olgydd Golf Illustrated. 2 filltir

Beicio

Mae trefydd hyfryd, pentrefi bychan a milltiroedd o lwybrau troed a beicio ar yr arfordir o amgylch Porthcawl. Beiciwch ar hyd llwybrau gwledig tawel, gellir mynd arnynt yn syth o’r bwthyn. 0 milltir.

Marchogaeth

Marchogaeth ceffyl ger y dwr ar draeth llydan ac agored. Canolfan Farchogaeth Fferm Aberogwr. 5 milltir.