- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £461 yr wythnos
- £66 y noson
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Llaethdy oedd y bwthyn hwn sy’n caniatáu anifeiliaid, wedi ei leoli mewn 4.5 acer o dir preifat. Mae 3 cwrs golff o fewn 2 filltir, nifer o draethau a llwybrau cerdded ac mae’r traeth agosaf 10 munud i ffwrdd ar droed. Mae’r bwthyn hwn ym Mhorthcawl yn cynnig y lleoliad perffaith i fwynhau nifer o weithgareddau neu i ymlacio a chael seibiant.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw gyfforddus gyda theledu (freeview) a chwaraewr DVD. Gwely soffa ar gael lle gellir cysgu 1.
Ystafell fwyta/cegin gyda phopeth sydd angen arnoch (gan gynnwys oergell a pheiriant golchi dillad), a drysau ffrengig yn agor i ardal deras.
1 ystafell ddwbl gyda gwely maint king.
Gardd
Ardal deras gyda mainc, yn wynebu’r de.
Croeso i westeion grwydro'r holl dir sy’n amgylchynu’r llety moethus hwn ym Mhorthcawl a mwynhau’r adar a’r planhigion.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Darperir dillad gwely a thywelion
- Cot a chadair uchel ar gael ar gais
- Ardal ddiogel i gadw beics / deunydd golff ayyb
- Wi-Fi ar gael
- Wedi ei leoli’n agos at y lôn fawr rhwng Porthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr
- Caniateir anifeiliaid – 1 ci maint canolig neu 2 gi bach (£16 yr un)
- Gwely sofa ar gael yn cysgu 1 - £26 yn ychwanegol
- Darperir bwrdd a haearn smwddio
- Digon o lefydd parcio
- Gwyliau byr ar gael yn y llety hwn ym Mhorthcawl yn ystod adegau penodol o’r flwyddyn. Mwy o fanylion o dan ‘Prisiau.’
- Croeso i westeion grwydro'r holl dir sy’n amgylchynu’r llety moethus hwn ym Mhorthcawl a mwynhau’r adar a’r planhigion.
Lleoliad
Mae Twyni Tywod Merthyr Mawr wedi eu lleoli tua milltir tu allan i bentref Merthyr Mawr, twyni anferthol yn rowlio tuag at arfordir Aberogwr/Porthcawl, unwaith y system twyni tywod mwyaf yn Ewrop. Maent yn enwog gan mai yma mae’r twyn tywod unigol uchaf yn Ewrop. Maent yn boblogaidd iawn gyda phlant, rhedwyr a phobl sy’n ymddiddori mewn bywyd gwyllt. Ffilmiwyd golygfeydd o’r ffilm enwog Lawrence of Arabia yma.
Yn ogystal â gweithgareddau awyr agored mae hefyd digon o opsiynau o dan do, gan gynnwys ‘Designer Outlet’ Pen-y-bont ar Ogwr, Sinema Odeon a Chanolfan Grefftau Ewenni. Dim ond pellter byr o Gaerdydd ac Abertawe, felly mae digon o gyfleodd i siopa a gellir cyrraedd nifer o ddigwyddiadau mawr o’ch llety ym Mhorthcawl.
Traethau
Traeth Drenewydd yn Notais - Traeth hir a thywodlyd, tua 3 milltir o hyd, yn ymestyn o Bwynt Drenewydd yn y dwyrain i geg afon Aberogwr yn y gorllewin. 0.5 milltir.
Chwaraeon Dwr
Cwmni chwaraeon dwr Ocean Queast, wedi eu lleoli yng Nghaerdydd a Phorthcawl, antur a hwyl yn y dwr gyda hyfforddwyr profiadol, o ddechreuwyr i rai profiadol. 2 filltir.
Cerdded
Amrywiaeth o lwybrau cylchol yn ogystal â Llwybr Treftadaeth Arfordirol Morgannwg.
Pysgota
Pysgota môr gwych ar gael yn Sianel Bryste a gellir pysgota môr a chreigiau ger llaw. 0.5 milltir
Pysgota Gêm – Mae gan yr afonydd Ogwr ac Eweni lawer o frithyll brown yn ogystal â sewiniaid. Gellir cael ticed dydd o Gymdeithas Genweirio Ogwr. 4 milltir.
Golff
Golff Grove Arfordir – cwrs golff 18 twll par 70 cwrs, yn cynnig gwir her i golffwyr o bob gallu. 1.2 milltir
Porthcawl Brenhinol - wedi ei ddisgrifio fel un o’r cyrsiau gorau yn y byd gan gyn olgydd Golf Illustrated. 2 filltir
Beicio
Mae trefydd hyfryd, pentrefi bychan a milltiroedd o lwybrau troed a beicio ar yr arfordir o amgylch Porthcawl. Beiciwch ar hyd llwybrau gwledig tawel, gellir mynd arnynt yn syth o’r bwthyn. 0 milltir.
Marchogaeth
Marchogaeth ceffyl ger y dwr ar draeth llydan ac agored. Canolfan Farchogaeth Fferm Aberogwr. 5 milltir.