Bwthyn gwyliau yn sefyll ar ben ei hun, sydd yn derbyn anifeiliaid anwes, ac heb fod ymhell o'r môr.
- £508 yr wythnos
- £73 y noson
- 5 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Bwthyn gwyliau yn sefyll ar ben ei hun, sydd yn derbyn anifeiliaid anwes, ac heb fod ymhell o'r môr. Gyda gardd gaeedig a lle tân agored, mae'r bwthyn hwn ym Mhorthcawl wedi ei leoli o fewn pellter cerdded o draeth Baner Las Rest Bay, promenâd, harbwr a chanol y dref. Ysgol syrffio, llogi beiciau ayb. gerllaw - lleoliad perffaith ar gyfer gweithgareddau teuluol. Er yn swyddogol yn cysgu 4, mae yna wely sengl ychwanegol yn yr ystafell ddarllen fel y gellir cysgu 5 os dymunir.
Llawr Gwaelod
Lolfa fawr gyda soffas cyfforddus, teledu gyda Freeview, DVD, tân glô (tanwydd cychwynnol ar gael).
Cegin gyda bwrdd a 4 cadair, peiriant golchi llestri, hob nwy, popty trydan, tegell, tostiwr, meicrodon ac oergell.
Ystafell iwtiliti gyda rhewgell, oergell, toiled, a lle ar gyfer byrddau syrffio, beiciau ac offer awyr agored.
Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.
Ystafell fwyta - ystafell fawr gyda bwrdd a chadeiriau i 4.
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl, cypyrddau dillad a golygfeydd o'r ardd.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - gwely maint king
Ystafell ddarllen/Ystafell wely 3 - ystafell ddarllen fawr gyda dewis eang o lyfrau, soffa, desg a gwely sengl.
Tu Allan
Palmant tu blaen y bwthyn, a gardd gaeedig yn y cefn. Mae'r ardd gefn yn cynnwys patio gyda bwrdd, cadeiriau a lawnt.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwelyau a thywelion ar gael
- Haearn a bwrdd smwddio ar gael
- Trydan a gwres canolog yn gynwysedig
- Wi-fi ar gael
- Mwyafrif o 2 anifail anwes - £50.00 yr anifail
- Rhewgell fach pen bwrdd
- Darperir y canlynol - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau newydd. Ystafell Ymolchi: sebon hylif, 2 rholyn o bapur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Nifer o archfarchnadoedd yn dosbarthu i'r bwthyn. Siopau lleol gwych yn cynnwys gwerthwr pysgod
- Dim ysmygu y tu mewn .
- Darperir y glô cychwynnol a gellir prynu mwy yn lleol os oes angen
Lleoliad
Bwthyn un llawr yn sefyll ar ben ei hun mewn rhes o dai, yn edrych allan ar gae chwaraeon ac heb fod ymhell o'r môr. Gerllaw mae nifer o atyniadau yn cynnwys y Pafiliwn Mawr, Cerbydau Clasurol Porthcawl, Tywysoges Promenâd Porthcawl, Ffair Bae Trecco, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cenfig, Parc Gwledig Bryngarw, Parc Tondy, a Goleudy Nash Point. Mae cestyll Tregantlow (Candleston), Ogwr (Ogmore) a Coety i gyd gerllaw. Cynhelir Gwyl Elvis ym Mhorthcawl yn flynyddol - mae'n denu dilynwyr Elvis o bob rhan o'r DU a'r byd.
Mae Porthcawl yn gorwedd rhwng 2 o dwyni tywod mawr, Merthyr Mawr i'r Dwyrain a Cenfig i'r Gorllewin. Mae Twyn Tywod Merthyr Mawr yn enwog am fod yr uchaf yn Ewrop, ac yn cael ei adnabod yn lleol fel y 'big dipper'. Mae'r twyni yn boblogaidd iawn efo plant, rhedwyr a'r rhai hynny sy'n frwdfrydig dros fywyd gwyllt. Cafodd golygfeydd o'r ffilm 'Lawrence of Arabia' eu ffilmio ar y twyni.
Yn ychwanegol at y gweithgareddau awyr agored mae digon o opsiynau dan do gerllaw, yn cynnwys Siopau Cynllunwyr Penybont, Sinemâu'r Odeon, a Chanolfan Grefftau Ewenny. Heb fod ymhell o Gaerdydd nac Abertawe mae digon o gyfleoedd siopa, ac mae digwyddiadau mawr yn gyfleus i'w cyrraedd.
Traethau
Rest Bay - traeth Baner Las sy'n boblogaidd iawn gyda syrffwyr (0.3 milltir)
Chwaraeon Dwr
Mae cwmni chwaraeon dwr Ocean Quest wedi ei sefydlu yng Nghaerdydd a Phorthcawl - antur a hwyl yn y dwr gyda hyfforddwyr chwaraeon dwr profiadol, addas ar gyfer pob gallu (1 filltir)
Cerdded
Mae Llwybr Arfordirol Cymru yn pasio yn agos i'r bwthyn, yn ogystal â nifer o lwybrau eraill (0.2 milltir)
Pysgota
Nifer o fannau i bysgota ar y traethau a'r creigiau (0.2 milltir)
Pysgota Gêm - mae Afonydd Ogwr ac Eweny yn dal poblogaeth naturiol o frithyll brown yn ogystal â penllwydion. Gellir cael trwydded o Gymdeithas Pysgota Ogwr (6 milltir)
Golff
Clwb Golff Grove - cwrs 70 par 18 twll yn cynnig sialensau ar gyfer golffwyr o bob gallu (1 milltir)
Royal Porthcawl - wedi ei ddisgrifio fel un o'r cyrsiau gorau yn y byd gan gyn-olygydd y cylchgrawn 'Golf Illustrated' (1.5 milltir)
Beicio
Oddi ar y prif ffyrdd gellir dod o hyd i lonydd gwledig sydd yn ddelfrydol ar gyfer beicio (0.1 milltir)
Marchogaeth
Canolfan Farchogaeth Fferm Ogwr - gellir cael mwynhad mawr wrth farchogaeth ar draeth agored (7 milltir)