Dan-y-Graig

Porthcawl, South Wales

  • 3 Star
  • Awaiting Grading
  • Amgylchynir y bwthyn gan 4.5 acer o erddi, coed a pherllan. 10 munud yn unig ar droed o’r traeth agosaf, 3 chwrs golff o fewn 2 filltir a digonedd o lwybrau cerdded

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £482 yr wythnos
  • £69 y noson
  • 3 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Saif y bwthyn hunan-ddarpar hwn mewn hafan o goed, coedwig a pherllan, 10 munud yn unig ar droed o’r traeth agosaf. Mewn 4.5 acer o dir preifat a gyda 3 cwrs golff o fewn 2 filltir, llawer o draethau a llwybrau cerdded, mae hwn yn lleoliad perffaith i fwynhau llawer o weithgareddau neu i ymlacio a dadflino.

Llawr Gwaelod

Lolfa gysurus gyda theledu (sianeli am ddim) a chwaraewr DVD. Gwely soffa ar gael sy’n gallu cysgu 1.

Cegin gyflawn (yn cynnwys rhewgell a pheiriant golchi) gyda drysau gwydr Ffrengig yn agor allan i’r ardd.

1 ystafell wely ddwbl gyda gwely maint king

En-suite yn cynnwys cawod agored (addas i westai anabl)

Gardd

Gardd yn wynebu’r de gyda llawer o gadeiriau a meinciau wedi eu gosod ar hyd y lle fel y gallwch ddewis eich hoff leoliad.

Mae croeso i westai grwydro ar hyd yr holl safle a mwynhau’r amrywiaeth o adar a’r planhigion godidog sydd yn amgylchynu’r bwthyn hyfryd hwn ym Mhorthcawl.

Gwybodaeth Ychwanegol

Llawr gwaelod i gyd gyda mynediad llawn i westai anabl (drysau yn 800mm o lydan).

Storfa ddiogel i gadw cyfarpar golff, beiciau, offer ayb.

Agos i brif ffordd Porthcawl/Pen-y-bont.

Gwres canolog nwy a thrydan yn gynwysedig

Ni chaniateir anifeiliaid anwes

Wi-fi yn gynwysedig

Digonedd o lefydd parcio

Darperir dillad gwely a thywelion.

Darperir haearn smwddio a bwrdd smwddio.

Mae gwyliau byr ar gael yn y llety hwn ym Mhorthcawl ar adegau penodol o’r flwyddyn, mwy o fanylion o dan ‘Prisiau’.

Mae bond 'gofal da am lety' ar y llety hwn am £150, sydd yn ad-daladwy ac yn ddyledus i Y Gorau o Gymru ar yr un pryd â balans eich gwyliau. Neu, gallwch osgoi y bond hwn drwy, yn hytrach, dalu ffî sydd ddim yn ad-daladwy am £5 y person.

Lleoliad

Mae bwthyn gwyliau Dan-y-graig wedi ei leoli ar dir 5.4 acer yn Drenewydd yn Notais, dim ond dwy filltir o ganol Porthcawl. Drws nesaf i gartref y perchennog a dim ond deg munud ar droed o ddrysfa Twyni Tywod Merthyr Mawr a phentref Drenewydd yn Notais gyda thair tafarn, gorsaf betrol a thraeth tair milltir o hyd.

Mae’r bwthyn hunan-ddarpar wedi ei leoli’n ddelfrydol i’r rhai sydd awydd antur gweithgareddau awyr agored megis cerdded, beicio, syrffio neu hwyl fyrddio yn ogystal â golffio a marchogaeth. O fewn pellter cerdded fe ddewch o hyd i dafarndai gwych sydd yn cynnig bwyd da am bris rhesymol, neu os ydy’n well gennych chi fwyd a la carte o ansawdd yna mae yna amrywiaeth o fwytai a gwestai wedi eu lleoli yng nghanol Porthcawl.

Mae yna atyniadau niferus i ymweld â hwy, gan gynnwys traethau Porthcawl, y Pafiliwn y Grand, cerbydau clasurol Porthcawl, promenâd Porthcawl a Ffair Hwyl Bae Trecco. Mae gennych chi hefyd Warchodfa Natur Genedlaethol Kenfig, Parc Bedford, Parc Gwledig Bryngarw, Parc Tondy, Goleudy Nash Point a Chanolfan Dreftadaeth yr Arfordir a threnau stêm. Fel cestyll mae gennych chi Gastell Candleston, Castell Ogmore a Chastell Coity, i gyd gerllaw.
Mae Twyni Tywod Merthyr Mawr wedi eu lleoli oddeutu milltir tu allan i bentref Merthyr Mawr; sydd yn rhwydwaith anferth o dwyni, yn disgyn tuag arfordir Ogmore/Porthcawl, ac a fu unwaith yn un o’r systemau twyni tywod mwyaf yn Ewrop. Maent yn enwog am eu twyn tywod sengl uchaf yn Ewrop, a gaiff ei adnabod yn lleol fel y ’big dipper’. Mae’r twyni yn boblogaidd iawn gyda phlant, rhedwyr a’r rhai sydd wrth eu boddau gyda’r bywyd gwyllt lleol. Ffilmiwyd golygfeydd o ffilm enwog Lawrence of Arabia ar y twyni hyn. Mae’r twyni hefyd yn wych ar gyfer rhedeg gyda llawer yn cael eu gweld yn ymarfer yma, gan gynnwys chwaraewyr y tîm rygbi Cenedlaethol.

Yn ogystal â’r gweithgareddau awyr agored mae yna ddigonedd o ddewisiadau dan do yn agos gan gynnwys canolfan siopau designer Pen-y-bont ar Ogwr, Odeon Complex a Chanolfan Grefftau Ewenny. Dim ond taith fer yn y car i Gaerdydd ac Abertawe gyda’u digonedd o siopau a’u digwyddiadau mawr.

Traethau

Traeth Newton (Drenewydd yn Notais) - Dyma draeth hir a thywodlyd, oddeutu tair milltir o hyd, yn ymestyn o Newton Point yn y Dwyrain i aber yr afon Ogmore yn y Gorllewin, 0.5 milltir.

Chwaraeon Dwr

Cwmni chwaraeon dwr Ocean Quest wedi ei leoli ym Mhorthcawl ac yn cynnig deifio scwba, hwyl fyrddio, barcud fyrddio, syrffio, caiacio, mynd ar yacht, sgïo jet a thonfyrddio ar gyfer pob lefel, 2 filltir.

Cerdded

Amrywiaeth o deithiau cerdded cylchol yn ogystal â llwybr troed Treftadaeth yr Arfordir Morgannwg.

Os ydych chi eisiau rhywbeth mwy heriol, neu rhywle yn yr awyr agored ar gyfer ymarfer, yna mae Twyni Tywod Merthyr Mawr hefyd yn wych ar gyfer rhedeg.

Pysgota

Mae yna bysgota gwych ar gael ym Môr Hafren a gellir pysgota traeth a chreigiau gerllaw hefyd, 0.5 milltir.

Pysgota Gêm - Mae afonydd Ogmore ac Eweny yn dal poblogaethau naturiol o frithyll brown yn ogystal â rhediad Gleisiaid. Gellir cael tocynnau dydd o Gymdeithas Pysgota â Gwialen Ogmore, 4 milltir.

Golff

Mae Arfordir Golffio’r Gelli wedi ei osod yn wych gyda chwrs 18 twll par 70 sydd yn cynnig her ar gyfer golffwyr o bob gallu, 1.2 milltir.

Disgrifir Royal Porthcawl fel un o’r cyrsiau gorau yn y byd gan gyn-olygydd y Golf Illustrated, 2 filltir.

Beicio

Mae’r arfordir o amgylch Porthcawl yn frith o drefi bychain hyfryd a milltiroedd o lwybrau beicio a cherdded. Beiciwch ar hyd lonydd gwledig distaw y gellir eu cyrraedd o drothwy’r drws, 0 milltir.

Merlota

Mae marchogaeth ceffyl ar draeth llydan agored ar lan y môr bron fel petai’n freuddwyd, ond un a ddaw yn wir yma yng Nghanolfan Marchogaeth Fferm Ogmore, 5 milltir.