- £375 yr wythnos
- £54 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Dim tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Saif Bwthyn Ty’n Cae ger arfordir Porthcawl, De Cymru ac mae’n croesawu cwn. Taith fer ar droed o Dywyn Merthyr Mawr a thraeth sy’n caniatáu cwn Drenewydd yn Notais. Mae’r bwthyn wedi ei leoli mewn llecyn gwledig braf sy’n cynnig awyrgylch heddychlon a thawel. Lleoliad delfrydol, yn enwedig os ydych yn mwynhau gweithgareddau awyr agored megis cerdded, beicio, syrffio a syrffio gwynt, golff a marchogaeth.
Llawr Cyntaf
Adnewyddwyd y bwthyn hwn ym Mhorth Cawl i safon uchel iawn i ddarparu llety cartrefol a chwaethus.
Ceir ystafell agored yn cynnwys cegin, lle bwyta a lolfa gyda llawr teils o ansawdd uchel. Mae’r gegin fodern, gyflawn yn cynnwys popty trydan, microdon ac oergell/rhewgell. Mae ardal y lolfa yn cynnwys soffa gysurus sy'n eistedd 3 a dwy gadair, teledu a chwaraewr DVD ynddo a drysau patio yn agor allan i'r ardd.
Mae’r ystafell wely ddwbl a’r ystafell twin wedi eu dodrefnu a’u haddurno yn gain. *Nodwch os gwelwch yn dda fod y gwelyau twin yn 2’6” ac ond yn addas ar gyfer plant.
Mae’r ystafell ymolchi yn wyn a modern gyda theils o ansawdd ar y waliau a’r llawr.
Ceir ystafell 'wlyb' (wet room) bwrpasol drws nesaf i’r bwthyn sy’n cynnwys cawod, peiriant golchi a sychwr dillad. Digonedd o le i storio offer awyr agored megis beiciau, byrddau syrffio ayb yn ddiogel. Ceir peipen ddwr tu allan i’r ystafell wlyb lle gellir golchi’r offer cyn ei storio.
Gardd
Gardd amgaeedig gydag ardal batio lle gall gwestai fwynhau eistedd ac ymlacio mewn llecyn heddychlon ac edmygu’r golygfeydd gwledig hardd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Croeso i 1 anifail anwes - £5 y noson. Mae hefyd yn bosib bwcio cwn i mewn i’r cytiau cwn sydd wedi ennill amryw o wobrau, ac sydd hefyd yn cael eu rhedeg o dan ofal craff perchnogion y bwthyn. Mae'r cytiau wedi eu lleoli ar ben arall yr iard, oddeutu 100 llath o’r bwthyn.
Darperir dillad gwely (dewch a’ch tywelion eich hun os gwelwch yn dda)
Gwres canolog nwy yn gynwysedig.
Nid yw trydan yn gynwysedig - mesurydd £1.
Parcio am ddim
Wi-fi ar gael
Gellwch gerdded y ci drwy’r caeau gerllaw'r bwthyn. Mae gan y rhain hawl dramwy gyhoeddus, lle y caiff cwn gyfle i gerdded, rhedeg ac ymarfer. Mae yna hefyd draeth sydd yn croesawu cwn bum munud i ffwrdd ar droed.
Mae'r ffordd tuag at y bwthyn yn gul felly mi fydd angen bod yn wyliadwrus wrth gerdded arni.