- £488 yr wythnos
- £70 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
Cegin
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Cot
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Bwthyn dwy lofft ger Pontypridd sydd yn le delfrydol ar gyfer eich arhosiad yn Ne Cymru. Wedi ei leoli ar fferm gyda aceri o goetir a chefn gwlad i'w fwynhau, a thaith fer i Fannau Brycheiniog i'r gogledd neu Gaerdydd a golygfeydd anhygoel Arfordir Treftadaeth Morgannwg i'r de. Mae atyniadau lleol yn cynnwys Parc Beiciau Cymru, Parc Treftadaeth y Rhondda, Hen Bont Pontypridd, Castell Caerffili, a Chaerdydd gyda'i ddigwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth, castell, a nifer o atyniadau a gweithgareddau eraill.
Mae'r llety hwn yn cynnig stablau ar gyfer nifer o geffylau ac yn cynnwys caeau pori preifat.
Llawr Gwaelod
Lolfa ac ardal fwyta agored. Soffas i 4, teledu Smart, bwrdd bwyta a chadeiriau i 4.
Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell, rhewgell arwahan, meicrodon, popty trydan a hob nwy.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gyda cwpwrdd dillad mawr ac uned ymolchi.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl gyda golygfeydd gwych.
Ystafell ymolchi - mynediad uniongyrchol o'r ddwy ystafell wely. Toiled, basn ac uned gawod.
Tu Allan
Ardal eistedd tu allan gyda bwrdd a dwy gadair tu blaen i'r tŷ, hefyd gardd gaeedig i'r ochr.
Aceri o gefn gwlad a llwybrau cerdded drwy'r coetir i'w mwynhau. Llwybrau ceffylau yn pasio ger y llety.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Dewis eang o lyfrau a gemau i'r plant
- Storfa feiciau diogel
- Derbyniad ffôn symudol cyfyngedig
- Wi-Fi ar gael
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dim ysmygu
- Dim anifeiliaid anwes
- Parcio tu allan i 2 gar